RHAN 9AMRYWIOL
Awdurdodau tân ac achub
I1168Awdurdodau tân ac achub: datgymhwyso Mesur 2009
1
Ym Mesur 2009 hepgorer—
a
adran 1(c) (ystyr “awdurdod gwella Cymreig”);
b
adran 4(3)(c) a (4)(b) (agweddau ar wella);
c
adran 10 (pwerau dirprwyo);
d
adran 11(1)(d) (ystyr “pwerau cydlafurio”);
e
adran 16(2)(c) (ystyr “rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol”);
f
yn adran 35 (dehongli Rhan 1), y diffiniad o “awdurdod tân ac achub Cymreig”;
g
yn Atodlen 1 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol: Rhan 1)—
I1i
paragraff 27;
ii
paragraffau 32 a 33, a’r pennawd sy’n eu rhagflaenu.
I12
Yn adran 93 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26) (pŵer i godi ffi am wasanaethau disgresiynol), yn is-adran (9)—
a
yn lle paragraff (aa) rhodder—
aa
a county council or county borough council in Wales;
b
ar ôl paragraff (ab) mewnosoder—
ac
a National Park authority for a National Park in Wales;
3
Yn adran 24 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) (gwerth gorau), yn lle is-adrannau (3) i (5) rhodder—
3
This section does not apply to a fire and rescue authority in Wales.