RHAN 10CYFFREDINOL

I1174Rheoliadau o dan y Ddeddf hon

1

Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

2

Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol.

3

Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed; ond nid yw’r is-adran hon yn gymwys i’r pwerau o dan—

a

adran 72, 74, 80 na 83 (cyd-bwyllgorau corfforedig; gweler adran 83 ynglŷn â hynny);

b

adran 124, 131 na 147 (uno ac ailstrwythuro; gweler adran 147 ynglŷn â hynny).

4

Ni chaniateir gwneud offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo oni fo drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru, ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

5

Mae is-adran (4) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—

a

adran 28(1) neu (2), pan o’r rheoliadau’n diwygio, yn addasu, yn diddymu neu’n datgymhwyso deddfwriaeth sylfaenol, oni fo’r rheoliadau’n cael eu gwneud at ddiben a ddisgrifir yn is-adran (8) o’r adran honno yn unig;

b

adran 28(3) neu (4), oni fo’r rheoliadau’n cael eu gwneud at ddiben a ddisgrifir yn is-adran (8) o’r adran honno yn unig;

c

adran 35(1) neu (3) (cynghorau cymuned cymwys: gofynion cymhwystra);

d

adran 46 (darllediadau electronig o gyfarfodydd);

e

adran 47(8) (mynychu cyfarfodydd awdurdodau lleol);

f

adran 50 (rheoliadau ynglŷn â chynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol, hysbysiadau sy’n ymwneud â’r cyfarfodydd hynny, etc.);

g

adran 60(1) (rhannu swydd: swyddi nad ydynt yn swyddi gweithrediaeth o fewn prif gynghorau);

h

adran 72 (sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig y gwnaed cais amdanynt);

i

adran 74 (sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig ac eithrio pan wnaed cais amdanynt);

j

adran 80 (diwygio etc. reoliadau cyd-bwyllgor);

k

adran 83 (cyd-bwyllgorau corfforedig: atodol etc.);

l

adran 84(2) (diwygio deddfiadau at ddibenion etc. Rhan 5);

m

adran 94 (asesiadau perfformiad gan baneli: rheoliadau atodol);

F1ma

adran 94 fel y’i cymhwysir i gyd-bwyllgorau corfforedig gan adran 115A ac Atodlen 10A;

n

adran 107(3) (datgymhwyso etc. ddeddfiadau mewn perthynas â swyddogaethau prif gyngor sy’n arferadwy gan Weinidogion Cymru etc.);

F2na

adran 107(3) fel y’i cymhwysir i gyd-bwyllgorau corfforedig gan adran 115A ac Atodlen 10A;

o

adran 110(1) neu (2) (diwygio etc. ddeddfiadau a rhoi pwerau newydd mewn perthynas â pherfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu);

F3oa

adran 110(1) neu (2) fel y’u cymhwysir i gyd-bwyllgorau corfforedig gan adran 115A ac Atodlen 10A;

p

adran 124 (rheoliadau uno);

q

adran 131 (rheoliadau ailstrwythuro; ond gweler adran 148 am ddarpariaeth bellach ynglŷn â’r weithdrefn sy’n ymwneud ag offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau ailstrwythuro);

r

adran 147 (darpariaeth bellach mewn perthynas â rheoliadau uno a rheoliadau ailstrwythuro);

s

adran 159(6) (diwygio tabl 2 er mwyn newid aelodaeth grŵp rhannu gwybodaeth a’u swyddogaethau penodedig);

t

adran 173 (darpariaeth ganlyniadol etc.), pan fo’r rheoliadau yn diwygio, yn addasu neu’n diddymu deddfwriaeth sylfaenol (gan gynnwys y Ddeddf hon).

6

Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon ac nad yw is-adran (4) yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru; ond nid yw’r is-adran hon yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan baragraff 9, 10 neu 11 o Atodlen 1 (adolygiadau cychwynnol) yn unig.

7

Yn is-adran (5), mae “deddfwriaeth sylfaenol” yn cynnwys darpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol.