Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Valid from 01/11/2021

25Terfynau’r pŵer cyffredinolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Nid yw’r pŵer cyffredinol yn galluogi awdurdod lleol cymhwysol i wneud unrhyw beth nad yw’r awdurdod yn gallu ei wneud yn rhinwedd cyfyngiad cyn cychwyn.

(2)Nid yw’r pŵer cyffredinol ychwaith yn galluogi awdurdod lleol cymhwysol i wneud unrhyw beth nad yw’r awdurdod yn gallu ei wneud yn rhinwedd cyfyngiad ar ôl cychwyn y mynegir ei fod yn gymwys—

(a)i’r pŵer cyffredinol,

(b)i holl bwerau’r awdurdod, neu

(c)i holl bwerau’r awdurdod ond gydag eithriadau nad ydynt yn cynnwys y pŵer cyffredinol.

(3)Nid yw’r pŵer cyffredinol yn rhoi pŵer i wneud nac i wneud newidiadau i—

(a)trefniadau o fath a wneir, neu y caniateir eu gwneud, gan neu o dan Ran 6 o Ddeddf 1972 (cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol);

(b)trefniadau o fath a wneir, neu y caniateir eu gwneud, gan neu o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 (trefniadau mewn cysylltiad â gweithrediaethau etc.);

(c)trefniadau contractio allan, neu unrhyw drefniadau eraill nad ydynt yn drefniadau o fewn paragraff (a) neu (b), sy’n awdurdodi person i arfer swyddogaeth awdurdod lleol cymhwysol.

(4)Yn yr adran hon—

  • ystyr “cyfyngiad ar ôl cychwyn” (“post-commencement limitation”) yw gwaharddiad, terfyn neu gyfyngiad arall a osodir yn benodol gan ddarpariaeth—

    (a)

    mewn Deddf gan Senedd Cymru neu Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig sy’n cael ei phasio ar ôl y diwrnod y pasiwyd y Ddeddf hon;

    (b)

    mewn offeryn—

    (i)

    a wneir o dan ddeddfwriaeth sylfaenol (gan gynnwys y Ddeddf hon), a

    (ii)

    sy’n dod i rym ar y diwrnod y mae adran 24 yn dod i rym mewn perthynas â phrif gynghorau, neu wedi hynny;

  • ystyr “cyfyngiad cyn cychwyn” (“pre-commencement limitation”) yw gwaharddiad, terfyn neu gyfyngiad arall a osodir yn benodol gan ddarpariaeth—

    (a)

    yn y Ddeddf hon;

    (b)

    mewn unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol arall sy’n cael ei phasio cyn y diwrnod y pasiwyd y Ddeddf hon, neu ar yr un diwrnod;

    (c)

    mewn offeryn—

    (i)

    a wneir o dan ddeddfwriaeth sylfaenol (gan gynnwys y Ddeddf hon), a

    (ii)

    sy’n dod i rym cyn y diwrnod y mae adran 24 yn dod i rym mewn perthynas â phrif gynghorau.

(5)At ddibenion is-adran (1), mae adran 111(3) o Ddeddf 1972 (nid yw pwerau atodol awdurdodau lleol yn cynnwys pŵer i godi arian) i’w diystyru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)