xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CPŴER CYMHWYSEDD CYFFREDINOL

PENNOD 1LL+CY PŴER CYFFREDINOL

26Cyfyngiadau ar godi ffi wrth arfer y pŵer cyffredinolLL+C

(1)Nid yw’r pŵer cyffredinol yn rhoi pŵer i awdurdod lleol cymhwysol godi ffi am ddarparu gwasanaeth i berson oni fo’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni.

(2)Yr amod cyntaf yw nad yw’r gwasanaeth yn un y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod ei ddarparu i’r person.

(3)Yr ail amod yw bod y person wedi cytuno i’r gwasanaeth gael ei ddarparu.

(4)Ac eithrio mewn perthynas â gwasanaeth a ddarperir at ddiben masnachol, i’r graddau y bo’r pŵer cyffredinol yn rhoi pŵer i awdurdod lleol cymhwysol godi ffi am ddarparu gwasanaeth, mae’r pŵer yn ddarostyngedig i ddyletswydd i sicrhau nad yw’r incwm o ffioedd a osodir oddi tano, o gymryd un flwyddyn ariannol gyda’r llall, yn fwy na chost darparu’r gwasanaeth.

(5)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (4) yn gymwys ar wahân mewn perthynas â phob math o wasanaeth.

(6)Yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (4), wrth arfer y pŵer a roddir gan y pŵer cyffredinol i godi ffi am ddarparu gwasanaeth, caiff awdurdod lleol cymhwysol bennu ei ffioedd fel y mae’n ystyried bod hynny’n briodol, ac ymysg pethau eraill caiff—

(a)codi ffi ar rai personau yn unig am ddarparu gwasanaeth;

(b)codi symiau gwahanol o ffi ar bersonau gwahanol, neu bersonau o ddisgrifiadau gwahanol, am ddarparu gwasanaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I2A. 26 mewn grym ar 1.11.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 4(a)