RHAN 2PŴER CYMHWYSEDD CYFFREDINOL

PENNOD 1Y PŴER CYFFREDINOL

I1I228Pwerau i wneud darpariaeth atodol

1

Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod deddfiad yn atal awdurdodau lleol cymhwysol rhag arfer y pŵer cyffredinol, neu’n eu rhwystro wrth iddynt arfer y pŵer cyffredinol, caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio, addasu, ddiddymu, ddirymu neu ddatgymhwyso’r deddfiad hwnnw.

2

Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod unrhyw bŵer arall yn gorgyffwrdd (i unrhyw raddau) â’r pŵer cyffredinol yna, at ddiben lleihau neu ddileu’r gorgyffwrdd hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio, addasu, ddiddymu, ddirymu neu ddatgymhwyso unrhyw ddeddfiad.

3

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth sy’n atal awdurdodau lleol cymhwysol, wrth iddynt arfer y pŵer cyffredinol, rhag gwneud unrhyw beth sydd wedi ei bennu, neu sydd o ddisgrifiad sydd wedi ei bennu, yn y rheoliadau.

4

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu bod arfer y pŵer cyffredinol yn ddarostyngedig i amodau, naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas ag unrhyw beth sydd wedi ei bennu, neu sydd o ddisgrifiad sydd wedi ei bennu, yn y rheoliadau.

5

Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (4) ddarparu, ymhlith pethau eraill, bod arfer y pŵer cyffredinol gan awdurdod lleol cymhwysol—

a

i godi ffi am ddarparu gwasanaeth i berson i fod yn ddarostyngedig i amodau yn ychwanegol at yr amodau a nodir yn adran 26;

b

i wneud pethau at ddiben masnachol i fod yn ddarostyngedig i amodau yn ychwanegol at yr amodau a nodir yn adran 27.

6

Caniateir arfer y pŵer o dan is-adran (1), (2), (3) neu (4) mewn perthynas ag—

a

pob awdurdod lleol cymhwysol;

b

awdurdod penodol sy’n awdurdod lleol cymhwysol;

c

awdurdod lleol o ddisgrifiad penodol sy’n awdurdod lleol cymhwysol.

7

Ac eithrio fel a ddarperir yn is-adran (8), cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1), (2), (3) neu (4) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

a

unrhyw brif gynghorau a chynghorau cymuned y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy,

b

unrhyw bersonau sy’n cynrychioli prif gynghorau a chynghorau cymuned y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy, ac

c

unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

8

Nid yw’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (7) yn gymwys yn achos rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru sydd â’r unig ddiben o ddiwygio rheoliadau cynharach—

a

er mwyn estyn y rheoliadau cynharach, neu unrhyw ddarpariaeth yn y rheoliadau cynharach, i awdurdod penodol neu i awdurdodau o ddisgrifiad penodol, neu

b

fel bod y rheoliadau cynharach, neu unrhyw ddarpariaeth yn y rheoliadau cynharach, yn peidio â bod yn gymwys i awdurdod penodol neu i awdurdodau o ddisgrifiad penodol.

9

Nid yw’r adran hon yn rhoi pŵer i wneud darpariaeth—

a

sy’n diwygio, yn diddymu neu’n datgymhwyso darpariaeth sydd yn y Ddeddf hon;

b

ar gyfer dirprwyo neu drosglwyddo unrhyw swyddogaethau deddfu drwy orchymyn, rheolau, rheoliadau neu is-offeryn arall.