Search Legislation

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 3

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Adran 3. Help about Changes to Legislation

3Darpariaeth drosiannolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Er gwaethaf y ffaith bod y diwygiadau a wneir gan y darpariaethau a grybwyllir yn is-adran (2) yn dod i rym yn rhinwedd adran 175(3), nid ydynt ond yn cael effaith mewn perthynas ag etholiad llywodraeth leol neu refferendwm lleol at ddibenion—

(a)etholiad llywodraeth leol pan gynhelir y bleidlais ar 5 Mai 2022 neu ar ôl hynny;

(b)refferendwm lleol a gynhelir ar 5 Mai 2022 neu ar ôl hynny.

(2)Y darpariaethau yw—

(a)adran 2(1) a (3);

(b)adran 22;

(c)paragraffau 2(12), 8(3)(b), 15 ac 19 o Atodlen 2.

(3)Yn is-adran (1), ystyr “refferendwm lleol” yw refferendwm a gynhelir o dan—

(a)adran 27 o Ddeddf 2000 neu yn rhinwedd rheoliadau neu orchymyn a wneir o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno;

(b)adran 40 o Fesur 2011.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 3 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(c)

Back to top

Options/Help