xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CPŴER CYMHWYSEDD CYFFREDINOL

PENNOD 2LL+CCYNGHORAU CYMUNED CYMWYS

34Cynghorau cymuned cyffredin a sefydlir ar ôl i’r Ddeddf hon gael ei phasioLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo, ar ôl i’r Ddeddf hon gael ei phasio, gymunedau yn cael eu grwpio gyda’i gilydd o dan gyngor cymuned cyffredin o dan orchymyn o dan adran 27F o Ddeddf 1972, a

(b)pan oedd gan o leiaf hanner y cymunedau sy’n cael eu grwpio gyda’i gilydd gynghorau cymuned ar wahân a oedd, yn union cyn i’r gorchymyn o dan adran 27F o Ddeddf 1972 gael ei wneud, yn bodloni’r trydydd amod cymhwystra (a nodir yn adran 30(4)).

(2)Nid yw’r trydydd amod cymhwystra yn gymwys i’r cyngor cymuned cyffredin hyd nes y bo wedi cael dwy farn gan Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn cysylltiad â dwy flynedd ariannol; ac mae adrannau 30(1) a 31(1) i’w darllen yn unol â hynny.

(3)Os nad yw’r farn gyntaf y mae’r cyngor cymuned cyffredin yn ei chael gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn farn ddiamod, mae’r cyngor i’w drin fel pe na bai’n bodloni’r amodau cymhwystra mwyach.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I2A. 34 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(b)