RHAN 3HYBU MYNEDIAD AT LYWODRAETH LEOL

PENNOD 2CYFRANOGIAD Y CYHOEDD PAN FO PRIF GYNGHORAU YN GWNEUD PENDERFYNIADAU

Dyletswydd ar brif gynghorau i annog cyfranogiad o fewn llywodraeth leol

39Dyletswydd i annog pobl leol i gyfranogi pan fo prif gynghorau yn gwneud penderfyniadau

(1)

Rhaid i brif gyngor annog pobl leol i gyfranogi pan fo’r cyngor yn gwneud penderfyniadau (gan gynnwys penderfyniadau a wneir mewn partneriaeth neu ar y cyd ag unrhyw berson arall).

(2)

Yn is-adran (1), mae cyfeiriad at wneud penderfyniadau yn cynnwys cyfeiriad at wneud penderfyniadau gan berson mewn perthynas ag arfer swyddogaeth a ddirprwywyd i’r person hwnnw gan brif gyngor.

F1(3)

Mae’r adran hon yn gymwys i gyd-bwyllgor corfforedig fel y mae’n gymwys i brif gyngor ac mae cyfeiriadau yn is-adrannau (1) a (2) at brif gyngor i’w dehongli yn unol â hynny.