42Dyletswydd i wneud cynllun deisebauLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Rhaid i brif gyngor wneud a chyhoeddi cynllun (“cynllun deisebau”) sy’n nodi sut y mae’r cyngor yn bwriadu ymdrin â deisebau (gan gynnwys deisebau electronig) ac ymateb iddynt.
(2)Rhaid i gynllun deisebau nodi, yn benodol—
(a)sut i gyflwyno deiseb i’r cyngor;
(b)sut ac erbyn pryd y bydd y cyngor yn cydnabod ei fod wedi cael deiseb;
(c)y camau y gall y cyngor eu cymryd mewn ymateb i ddeiseb y mae’n ei chael;
(d)yr amgylchiadau (os oes rhai) pan allai’r cyngor beidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn ymateb i ddeiseb;
(e)sut ac erbyn pryd y bydd y cyngor yn sicrhau bod ei ymateb i ddeiseb ar gael i’r person a gyflwynodd y ddeiseb ac i’r cyhoedd.
(3)Rhaid i brif gyngor adolygu ei gynllun deisebau o dro i dro, a diwygio’r cynllun os yw’r cyngor yn ystyried bod hynny’n briodol.
(4)Os yw prif gyngor yn diwygio cynllun deisebau neu’n rhoi un newydd yn ei le, rhaid iddo gyhoeddi’r cynllun diwygiedig neu’r cynllun newydd.
[(5)Mae’r adran hon yn gymwys i gyd-bwyllgor corfforedig fel y mae’n gymwys i brif gyngor ac mae cyfeiriadau yn is-adrannau (1) i (4) at brif gyngor i’w dehongli yn unol â hynny. ]
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn