RHAN 3HYBU MYNEDIAD AT LYWODRAETH LEOL

PENNOD 4CYFARFODYDD LLYWODRAETH LEOL

I146Darllediadau electronig o gyfarfodydd awdurdodau lleol penodol

1

Rhaid i brif gyngor wneud a chyhoeddi trefniadau at ddiben sicrhau bod—

a

darllediad o drafodion cyfarfod y mae is-adran (2) yn gymwys iddo ar gael ar ffurf electronig fel bod aelodau o’r cyhoedd nad ydynt yn mynychu’r cyfarfod yn gallu gweld a chlywed y trafodion;

I3b

y trafodion yn cael eu darlledu wrth iddynt gael eu cynnal, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau penodedig;

I3c

y darllediad ar gael ar ffurf electronig am gyfnod penodedig ar ôl y cyfarfod.

2

Mae’r is-adran hon yn gymwys i drafodion cyfarfod, neu unrhyw ran o gyfarfod, o’r canlynol sy’n agored i’r cyhoedd—

a

prif gyngor;

I3b

unrhyw un neu ragor o’r cyrff penodedig a ganlyn—

i

gweithrediaeth prif gyngor;

ii

pwyllgor neu is-bwyllgor i weithrediaeth prif gyngor;

iii

pwyllgor neu is-bwyllgor i brif gyngor;

iv

cyd-bwyllgor, neu is-bwyllgor i gyd-bwyllgor, o ddau brif gyngor neu ragor.

I23

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â darlledu trafodion mewn cyfarfod y mae is-adran (2) yn gymwys iddo.

I24

Yn is-adrannau (1) a (2), ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.

5

Os yw prif gyngor yn diwygio trefniadau a wnaed o dan is-adran (1) neu’n rhoi rhai newydd yn eu lle, rhaid iddo gyhoeddi’r trefniadau diwygiedig neu’r trefniadau newydd.

6

Rhaid i brif gyngor sy’n gwneud trefniadau sy’n ofynnol gan is-adran (1) roi sylw i unrhyw ganllawiau ynglŷn ag arfer y swyddogaeth honno a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

7

Nid yw’r ffaith bod darllediad ar gael neu nad yw ar gael (boed hynny wrth i’r trafodion gael eu cynnal neu wedi hynny) yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw drafodion y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt.

I28

Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau er mwyn sicrhau bod trafodion cyfarfod awdurdod a restrir yn is-adran (9), neu gyfarfod pwyllgor neu is-bwyllgor i awdurdod o’r fath, yn cael eu darlledu ar ffurf electronig, ac mewn cysylltiad â hynny.

I29

Yr awdurdodau yw—

a

awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru;

b

awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

c

cyd-bwyllgor o un prif gyngor neu ragor ac un neu ragor o’r awdurdodau a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b);

d

cyd-fwrdd—

i

a gyfansoddir yn gorff corfforedig o dan unrhyw ddeddfiad, a

ii

sy’n cyflawni swyddogaethau dau brif gyngor neu ragor.

I210

Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) neu (8) gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn addasu, yn diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad.