(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud a chyhoeddi trefniadau at ddiben sicrhau y gellir cynnal cyfarfodydd awdurdod lleol drwy gyfrwng unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall—
(a)sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i fynychu’r cyfarfodydd, a
(b)sy’n bodloni’r amodau yn is-adran (2).
(2)Yr amodau yw bod y cyfarpar neu’r cyfleuster arall yn galluogi personau—
(a)yn achos cyfarfodydd awdurdod lleol nad ydynt yn dod o fewn paragraff (b), i siarad â’i gilydd ac i gael eu clywed gan ei gilydd (pa un a yw’r cyfarpar neu’r cyfleuster yn galluogi’r personau hynny i weld ei gilydd ac i gael eu gweld gan ei gilydd ai peidio), a
(b)yn achos cyfarfodydd prif gyngor y mae’n ofynnol eu darlledu o dan adran 46 (darllediadau electronig), neu unrhyw gyfarfodydd awdurdod lleol eraill y mae’n ofynnol iddynt gael eu darlledu gan reoliadau a wneir o dan yr adran honno, i siarad â’i gilydd ac i gael eu clywed gan ei gilydd ac i weld ei gilydd ac i gael eu gweld gan ei gilydd.
(3)Yn achos cyfarfodydd cyd-bwyllgor o ddau awdurdod lleol neu ragor, rhaid i’r awdurdodau wneud a chyhoeddi trefniadau o dan is-adran (1) ar y cyd.
(4)Os yw awdurdod lleol yn diwygio trefniadau a wnaed o dan is-adran (1) neu’n rhoi rhai newydd yn eu lle, rhaid iddo gyhoeddi’r trefniadau diwygiedig neu’r trefniadau newydd.
(5)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau sy’n ofynnol gan is-adran (1) roi sylw i unrhyw ganllawiau ynglŷn ag arfer y swyddogaeth honno a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
(6)Yn yr adran hon—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—
prif gyngor;
[F1cyd-bwyllgor corfforedig;]
cyngor cymuned;
awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru;
awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
awdurdod iechyd porthladd ar gyfer ardal iechyd porthladd yng Nghymru a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22);
ystyr “cyfarfod awdurdod lleol” (“local authority meeting”) yw cyfarfod—
awdurdod lleol;
pan fo’r awdurdod lleol yn brif gyngor, ei weithrediaeth;
cyd-bwyllgor o ddau awdurdod lleol neu ragor;
pwyllgor neu is-bwyllgor i unrhyw beth sydd o fewn paragraffau (a) i (c),
ac, er mwyn osgoi amheuaeth, mae’n cynnwys gwrandawiad a gynhelir gan bwyllgor trwyddedu prif gyngor a sefydlwyd o dan adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p. 17) neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan bwyllgor trwyddedu.
(7)Mewn perthynas â chyfeiriad mewn unrhyw ddeddfiad at—
(a)y ffaith bod person yn mynychu cyfarfod awdurdod lleol, yn bresennol ynddo neu’n ymddangos ger ei fron, mae’r cyfeiriad hwnnw yn cynnwys, mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir drwy’r cyfrwng a ddisgrifir yn is-adran (1), mynychu, bod yn bresennol neu ymddangos drwy ddefnyddio’r cyfrwng hwnnw;
(b)y lle y mae cyfarfod awdurdod lleol i’w gynnal, nid yw’r cyfeiriad hwnnw i’w ddarllen fel pe bai wedi ei gyfyngu i un lleoliad ffisegol.
(8)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy reoliadau er mwyn—
(a)ychwanegu at yr amodau yn is-adran (2), eu diwygio neu eu hepgor;
(b)ychwanegu at y diffiniad o “awdurdod lleol” yn is-adran (6) cyd-fwrdd—
(i)a gyfansoddir yn gorff corfforedig o dan unrhyw ddeddfiad, a
(ii)sy’n cyflawni swyddogaethau dau brif gyngor neu ragor.
(9)Mae Rhan 2 o Atodlen 4 yn gwneud diwygiadau canlyniadol.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 47(6) wedi eu mewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 28
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
I2A. 47(1)-(7), (9) mewn grym ar 1.5.2021 gan O.S. 2021/354, ergl. 2(a)
I3A. 47(8) mewn grym ar 4.3.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 2(f)