RHAN 3HYBU MYNEDIAD AT LYWODRAETH LEOL
PENNOD 4CYFARFODYDD LLYWODRAETH LEOL
49Hysbysiadau etc. ynglŷn â chyfarfodydd awdurdodau lleol
F1(1)
Mae Rhan 1 o Atodlen 4 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf 1972 a Deddfau eraill, ynglŷn â hysbysiadau a dogfennau eraill sy’n ymwneud â chyfarfodydd awdurdodau lleol.
F2(2)
Mae unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall sy’n ymwneud â chyfarfod awdurdod lleol y mae’n ofynnol o dan unrhyw ddeddfiad iddynt gael eu cyhoeddi’n electronig, at ddibenion paragraff 5 o Atodlen 1 i Ddeddf Difenwi 1996 (p. 31), i’w trin fel dogfen y mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith iddi fod yn agored i’w harchwilio gan y cyhoedd.
(3)
Yn is-adran (2) mae i “cyfarfod awdurdod lleol” yr un ystyr ag yn adran 50(5).