xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CHYBU MYNEDIAD AT LYWODRAETH LEOL

PENNOD 4LL+CCYFARFODYDD LLYWODRAETH LEOL

49Hysbysiadau etc. ynglŷn â chyfarfodydd awdurdodau lleolLL+C

[F1(1)] Mae Rhan 1 o Atodlen 4 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf 1972 a Deddfau eraill, ynglŷn â hysbysiadau a dogfennau eraill sy’n ymwneud â chyfarfodydd awdurdodau lleol.

[F2(2)Mae unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall sy’n ymwneud â chyfarfod awdurdod lleol y mae’n ofynnol o dan unrhyw ddeddfiad iddynt gael eu cyhoeddi’n electronig, at ddibenion paragraff 5 o Atodlen 1 i Ddeddf Difenwi 1996 (p. 31), i’w trin fel dogfen y mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith iddi fod yn agored i’w harchwilio gan y cyhoedd.

(3)Yn is-adran (2) mae i “cyfarfod awdurdod lleol” yr un ystyr ag yn adran 50(5).]

Diwygiadau Testunol

F1A. 49(1): a. 49 wedi ei ailrifo fel a. 49(1) (dod i rym yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021 (O.S. 2021/356), rhlau. 1(2), 5(2) (ynghyd â rhlau. 10, 11)

F2A. 49(2)(3) wedi ei fewnosod (dod i rym yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021 (O.S. 2021/356), rhlau. 1(2), 5(3) (ynghyd â rhlau. 10, 11)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 49 mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(c)

I2A. 49 mewn grym ar 1.5.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/354, ergl. 2(b)