50Rheoliadau ynglŷn â chynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol, dogfennau sy’n ymwneud â chyfarfodydd a chyhoeddi gwybodaethLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer ac mewn cysylltiad â gofynion sy’n ymwneud â hysbysiadau a dogfennau eraill mewn perthynas â chyfarfodydd awdurdodau lleol ac sy’n ymwneud â chynnal y cyfarfodydd hynny.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth ynglŷn ag—
(a)llunio hysbysiadau a dogfennau eraill sy’n ymwneud â chyfarfodydd awdurdodau lleol;
(b)cyhoeddi a dosbarthu’r hysbysiadau a’r dogfennau hynny;
(c)cynnwys yr hysbysiadau a’r dogfennau hynny;
(d)hawliau i gael mynediad at yr hysbysiadau a’r dogfennau hynny;
(e)cadw dogfennau sy’n ymwneud â chynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol;
(f)trefniadau sy’n ymwneud â chynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol;
(g)cofnodi penderfyniadau a wneir yn y cyfarfodydd hynny.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru hefyd, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi gan awdurdodau lleol, ac mewn cysylltiad â chyhoeddi gan awdurdodau lleol, wybodaeth sy’n nodi manylion ynglŷn ag—
(a)aelodau o’r awdurdod a’i bwyllgorau a’i is-bwyllgorau;
(b)hawliau i fynychu cyfarfodydd awdurdod lleol a chael mynediad at ddogfennau;
(c)arfer pwerau awdurdod lleol gan ei swyddogion,
a gwneud darpariaeth ar gyfer hawliau i gael mynediad at yr wybodaeth honno, ac mewn cysylltiad â hynny.
(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, addasu, ddiddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.
(5)Yn yr adran hon—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—
(a)prif gyngor;
(b)cyngor cymuned;
(c)awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru;
(d)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(e)cyd-fwrdd—
(i)a gyfansoddir yn gorff corfforedig o dan unrhyw ddeddfiad, a
(ii)sy’n cyflawni swyddogaethau dau brif gyngor neu ragor;
(f)awdurdod iechyd porthladd ar gyfer ardal iechyd porthladd yng Nghymru a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22);
ystyr “cyfarfod awdurdod lleol” (“local authority meeting”) yw cyfarfod—
(a)awdurdod lleol;
(b)pan fo’r awdurdod lleol yn brif gyngor, ei weithrediaeth;
(c)cyd-bwyllgor o ddau awdurdod lleol neu ragor;
(d)pwyllgor neu is-bwyllgor i unrhyw beth sydd o fewn paragraffau (a) i (c).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 50 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(a)