xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i gyngor cymuned lunio a chyhoeddi adroddiad (“adroddiad blynyddol”) ynglŷn â blaenoriaethau, gweithgareddau a chyflawniadau’r cyngor yn ystod y flwyddyn honno.
(2)Rhaid i gyngor cymuned roi sylw i unrhyw ganllawiau ynglŷn ag adroddiadau blynyddol a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
(3)Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i swyddogaeth cyngor cymuned o benderfynu ar gynnwys adroddiad blynyddol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 52 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(7)
I2A. 52 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 5