RHAN 4GWEITHREDIAETHAU, AELODAU, SWYDDOGION A PHWYLLGORAU AWDURDODAU LLEOL

Prif weithredwyr

56Ailystyried cydnabyddiaeth ariannol yn dilyn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru

Yn adran 143A o Fesur 2011 (swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ariannol i brif weithredwyr), ar ôl is-adran (5B) mewnosoder—

“(5C)

Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (5B) i awdurdod perthnasol cymwys—

(a)

nid yw’r swyddogaeth o ailystyried y gydnabyddiaeth ariannol i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod o dan drefniadau gweithrediaeth (o fewn ystyr adran 10 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000);

(b)

mae maer etholedig (o fewn ystyr adran 39(1) o’r Ddeddf honno) i’w drin fel pe bai’n aelod o’r awdurdod at ddibenion y swyddogaeth honno, ac

(c)

nid yw adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaeth honno.”