Search Legislation

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 61

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 03/12/2021.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Adran 61. Help about Changes to Legislation

61Absenoldeb teuluol ar gyfer aelodau o awdurdodau lleolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae Mesur 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 24 (absenoldeb mamolaeth)—

(a)yn lle is-adran (2) rhodder—

(2)Rhaid i reoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer penderfynu—

(a)i ba raddau y mae gan aelod hawl i absenoldeb mamolaeth mewn cysylltiad â phlentyn;

(b)pryd y caniateir cymryd absenoldeb mamolaeth.;

(b)hepgorer is-adrannau (3) a (4).

(3)Yn adran 25 (absenoldeb newydd-anedig), hepgorer—

(a)is-adran (4);

(b)is-adran (6);

(c)is-adran (9);

(d)yn is-adran (10), y diffiniad o “wythnos”.

(4)Yn adran 26 (absenoldeb mabwysiadydd), hepgorer is-adran (3).

(5)Yn adran 27 (absenoldeb mabwysiadu newydd), hepgorer—

(a)is-adran (4);

(b)is-adran (6);

(c)is-adrannau (9) a (10).

(6)Yn adran 28 (absenoldeb rhiant), hepgorer is-adran (4).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 61 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(d)

Back to top

Options/Help