RHAN 4GWEITHREDIAETHAU, AELODAU, SWYDDOGION A PHWYLLGORAU AWDURDODAU LLEOL
Pwyllgorau trosolwg a chraffu
66Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau benodi cyd-bwyllgorau trosolwg a chraffu
(1)
Mae adran 58 o Fesur 2011 (cyd-bwyllgorau trosolwg a chraffu) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn is-adran (1), ar ôl “i ganiatáu” mewnosoder “neu i’w gwneud yn ofynnol”.
(3)
Yn is-adran (3), yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)
darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan ganiateir gwneud trefniadau;
(aa)
darpariaeth sy’n rhagnodi amgylchiadau pan fo rhaid gwneud trefniadau;
(ab)
darpariaeth i drefniadau gael eu gwneud yn ddarostyngedig i amodau neu gyfyngiadau rhagnodedig;”.
(4)
Yn is-adran (4)—
(a)
hepgorer “, wrth arfer unrhyw swyddogaeth a roddir iddynt gan yr adran hon neu oddi tani, neu wrth benderfynu ai i’w harfer,”;
(b)
ar ôl “Weinidogion Cymru” mewnosoder “mewn perthynas ag arfer unrhyw swyddogaeth sydd ganddo o dan neu yn rhinwedd yr adran hon”.