RHAN 1ETHOLIADAU

Systemau pleidleisio ar gyfer etholiadau i brif gynghorau

I17Y system bleidleisio sy’n gymwys

1

Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer y system bleidleisio sy’n gymwys wrth ethol cynghorwyr i brif gyngor pan gynhelir pleidlais mewn etholiad a ymleddir.

2

Mae’r system mwyafrif syml y darperir ar ei chyfer gan reolau etholiadau lleol yn gymwys, oni bai a hyd nes y bo’r cyngor yn newid y system bleidleisio am y tro cyntaf.

3

Ond yn achos prif gyngor a gyfansoddir gan reoliadau o dan Ran 7 (uno ac ailstrwythuro), mae’r system bleidleisio y darperir ar ei chyfer yn y rheoliadau yn gymwys, oni bai a hyd nes y bo’r cyngor yn newid y system bleidleisio am y tro cyntaf ar ôl yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor.

4

Ar ôl i brif gyngor newid y system bleidleisio am y tro cyntaf (gan gynnwys y tro cyntaf ar ôl i brif gyngor gael ei sefydlu), mae’r system y mae’r cyngor wedi penderfynu newid iddi yn fwyaf diweddar yn gymwys (yn ddarostyngedig i is-adran (6)).

5

Os yw prif gyngor yn newid ei system bleidleisio, mae’r newid yn cael effaith yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr sy’n digwydd ar ôl i’r cyngor basio’r penderfyniad sy’n ofynnol gan adran 9 ac yn parhau i gael effaith oni bai a hyd nes y bo’r system yn cael ei newid eto.

6

Ond mewn pleidlais mewn etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag a gynhelir cyn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr ar ôl i’r prif gyngor basio’r penderfyniad sy’n ofynnol gan adran 9, mae’r system bleidleisio a oedd yn gymwys yn yr etholiad cyffredin diwethaf yn gymwys.