RHAN 1ETHOLIADAU

Systemau pleidleisio ar gyfer etholiadau i brif gynghorau

I18Pŵer i newid y system bleidleisio

1

Caiff prif gyngor newid y system bleidleisio sy’n gymwys i ethol cynghorwyr i’r cyngor, yn ddarostyngedig i ofynion yr adran hon ac adran 9.

2

Os y system mwyafrif syml y darperir ar ei chyfer gan reolau etholiadau lleol yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i gyngor am y tro, caiff y cyngor ei newid i’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy y darperir ar ei chyfer gan y rheolau hynny.

3

Os y system pleidlais sengl drosglwyddadwy y darperir ar ei chyfer gan reolau etholiadau lleol yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i gyngor am y tro, caiff y cyngor ei newid i’r system mwyafrif syml y darperir ar ei chyfer gan y rheolau hynny.

4

Nid yw’r pŵer i newid y system bleidleisio o dan yr adran hon—

a

i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth y cyngor o dan drefniadau gweithrediaeth (o fewn ystyr adran 10 o Ddeddf 2000);

b

yn swyddogaeth y mae adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys iddi.

5

Cyn i brif gyngor arfer ei bŵer i newid ei system bleidleisio rhaid iddo ymgynghori ag—

a

y personau sydd â hawl i bleidleisio fel etholwyr mewn etholiad llywodraeth leol yn ei ardal;

b

pob cyngor cymuned yn ei ardal;

c

unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.