Search Legislation

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 87

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Adran 87. Help about Changes to Legislation

87Arfer swyddogaethau gan brif gynghorau o dan y Rhan honLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaethau a nodir yn is-adran (4).

(2)Nid yw’r swyddogaethau a nodir yn is-adran (4) i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth prif gyngor o dan drefniadau gweithrediaeth.

(3)Mae maer etholedig i’w drin fel pe bai’n un o gynghorwyr prif gyngor at ddibenion y swyddogaethau a nodir yn is-adran (4).

(4)Y swyddogaethau yw—

(a)gwneud cais cyd-bwyllgor;

(b)rhoi cydsyniad o dan adran 73(4) i reoliadau cyd-bwyllgor gael eu gwneud;

(c)gwneud cais o dan adran 78 i ddiwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor;

(d)rhoi cydsyniad o dan adran 81(4) i reoliadau cyd-bwyllgor gael eu diwygio.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 87 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

Back to top

Options/Help