RHAN 6PERFFORMIAD PRIF GYNGHORAU A’U LLYWODRAETHU

PENNOD 1PERFFORMIAD, ASESIADAU PERFFORMIAD AC YMYRRAETH

Perfformiad

I190Dyletswydd i ymgynghori â phobl leol etc. ar berfformiad

Rhaid i brif gyngor ymgynghori â’r canlynol o bryd i’w gilydd, ac o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn ariannol, ynglŷn ag i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad—

a

pobl leol,

b

personau eraill sy’n cynnal busnes yn ardal y cyngor,

c

staff y cyngor, a

d

pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52)) gan y cyngor.