RHAN 6PERFFORMIAD PRIF GYNGHORAU A’U LLYWODRAETHU

PENNOD 1PERFFORMIAD, ASESIADAU PERFFORMIAD AC YMYRRAETH

Hunanasesiadau o berfformiad

91Dyletswydd ar brif gyngor i adrodd ar ei berfformiad

(1)

Rhaid i brif gyngor, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, lunio adroddiad sy’n nodi ei gasgliadau ynglŷn ag i ba raddau y gwnaeth fodloni’r gofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn ariannol honno.

(2)

Yn yr adran hon, cyfeirir at adroddiad o dan is-adran (1) fel “adroddiad hunanasesu”.

(3)

Rhaid i adroddiad hunanasesu prif gyngor nodi unrhyw gamau y mae’r cyngor yn bwriadu eu cymryd, ac unrhyw gamau y mae eisoes wedi eu cymryd, gyda’r nod o gynyddu’r graddau y bydd yn bodloni’r gofynion perfformiad yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(4)

Rhaid i adroddiad hunanasesu (ac eithrio adroddiad hunanasesu cyntaf prif gyngor) gynnwys casgliadau’r cyngor ynglŷn ag i ba raddau y gwnaeth unrhyw gamau a gynhwyswyd yn rhinwedd is-adran (3) yn adroddiad blaenorol y cyngor gynyddu’r graddau y bodlonodd y cyngor y gofynion perfformiad yn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad hunanasesu yn ymwneud â hi.

(5)

Wrth ddod i’r casgliadau yn ei adroddiad hunanasesu rhaid i gyngor ystyried safbwyntiau’r personau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (d) o adran 90 (pa un a gafwyd y safbwyntiau hynny o dan adran 90 neu fel arall) ynglŷn ag i ba raddau y bodlonodd y cyngor y gofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(6)

Rhaid i’r cyngor sicrhau bod fersiwn ddrafft o’i adroddiad hunanasesu ar gael i’w bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

(7)

Rhaid i’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio adolygu’r adroddiad drafft a chaiff argymell newidiadau i’r casgliadau, neu i unrhyw beth a gynhwysir yn rhinwedd is-adran (3), yn y fersiwn ddrafft.

(8)

Os nad yw’r cyngor yn gwneud newid a argymhellir gan y pwyllgor llywodraethu ac archwilio o dan is-adran (7), rhaid i’r cyngor nodi, yn yr adroddiad, yr argymhelliad a’r rhesymau pam na wnaeth y newid.

(9)

Rhaid i’r cyngor wneud adroddiad hunanasesu mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol honno.

(10)

Cyn diwedd y cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r cyngor yn llunio’r adroddiad rhaid i’r cyngor—

(a)

cyhoeddi’r adroddiad,

(b)

sicrhau bod yr adroddiad ar gael i bwyllgor llywodraethu ac archwilio’r cyngor, ac

(c)

anfon yr adroddiad at—

(i)

Archwilydd Cyffredinol Cymru,

(ii)

Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, a

(iii)

Gweinidogion Cymru.

(11)

Caiff cyngor gyhoeddi ei adroddiad hunanasesu mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol a’i adroddiad o dan baragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) (cynnydd tuag at gyflawni amcanion llesiant) mewn cysylltiad â’r un flwyddyn ariannol yn yr un ddogfen.