RHAN 6PERFFORMIAD PRIF GYNGHORAU A’U LLYWODRAETHU

PENNOD 1PERFFORMIAD, ASESIADAU PERFFORMIAD AC YMYRRAETH

Asesiadau panel o berfformiad

92Dyletswydd ar brif gyngor i drefnu asesiad perfformiad gan banel

(1)Rhaid i brif gyngor wneud trefniadau fel bod panel a benodir gan y cyngor, o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod rhwng dau etholiad cyffredin olynol ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor, yn asesu i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad.

(2)Yn yr adran hon, cyfeirir at asesiad o dan is-adran (1) fel “asesiad perfformiad gan banel”.

(3)Wrth gynnal asesiad perfformiad gan banel mewn cysylltiad â chyngor, rhaid i banel ymgynghori â’r canlynol ynglŷn ag i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad—

(a)pobl leol,

(b)personau eraill sy’n cynnal busnes yn ardal y cyngor,

(c)staff y cyngor, a

(d)pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52)) gan y cyngor.

(4)Yn dilyn asesiad perfformiad gan banel rhaid i banel lunio adroddiad sy’n nodi—

(a)ei gasgliadau ynglŷn ag i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad;

(b)unrhyw gamau y mae’r panel yn argymell bod y cyngor yn eu cymryd er mwyn cynyddu’r graddau y mae’n bodloni’r gofynion perfformiad.

(5)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud yr adroddiad rhaid i’r panel ei anfon—

(a)i’r cyngor,

(b)at Archwilydd Cyffredinol Cymru,

(c)at Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, a

(d)at Weinidogion Cymru.

(6)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael yr adroddiad gan y panel, rhaid i’r cyngor—

(a)sicrhau bod yr adroddiad ar gael i bwyllgor llywodraethu ac archwilio’r cyngor, a

(b)cyhoeddi’r adroddiad.

(7)Rhaid i drefniadau o dan is-adran (1) alluogi’r prif gyngor i gyhoeddi o leiaf un adroddiad cyn y diwrnod sydd chwe mis cyn y diwrnod y mae’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor i fod i’w gynnal.

(8)Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at banel yn gyfeiriad at aelodau’r panel hwnnw yn gweithredu ar y cyd; yn unol â hynny, mae swyddogaeth y mynegir ei bod yn swyddogaeth i banel yn swyddogaeth sy’n perthyn i bob aelod o’r panel na chaniateir ei harfer oni fo’n cael ei harfer ar y cyd â’r aelodau eraill.