(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer penodi paneli gan brif gynghorau o dan adran 92(1), ac mewn cysylltiad â hynny.
(2)Caiff y rheoliadau, yn benodol, gynnwys darpariaeth ynglŷn ag—
(a)penodi aelodau o banel (gan gynnwys nifer, ac unrhyw gyfyngiad ar nifer, yr aelodau y caniateir neu y mae rhaid eu penodi, ac unrhyw amodau ar gyfer penodi);
(b)talu ffioedd i aelodau o banel neu mewn perthynas â hwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 94 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(k)