Prif ddarpariaethau

1Etholiad 2021

Yn y Ddeddf hon, ystyr “etholiad 2021” yw’r etholiad cyffredinol arferol i fod yn Aelod o’r Senedd y bwriedir i’r pôl ar ei gyfer gael ei gynnal yn 2021.

2Cymhwyso darpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 2006

1

Nid yw is-adrannau (2) i (4) o adran 3 o Ddeddf 2006 (diddymu Senedd Cymru cyn etholiad cyffredinol arferol a dyddiad y cyfarfod cyntaf ar ôl yr etholiad) yn gymwys i etholiad 2021.

2

Mae adran 3(1) o Ddeddf 2006 (y diwrnod y cynhelir y pôl mewn etholiad cyffredinol arferol) yn cael effaith yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 6.

3

Nid yw adran 4(2)(c) o Ddeddf 2006 (y cyfnod y mae rhaid i Senedd Cymru gyfarfod ynddo pan fo diwrnod y pôl wedi ei amrywio drwy broclamasiwn) yn gymwys i etholiad 2021.

4

Mae adran 10 o Ddeddf 2006 (seddi etholaethol gwag) yn cael effaith yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 10.

3Diddymu’r Senedd gyfredol

1

At ddiben cynnal y pôl ar gyfer etholiad 2021, diddymir Senedd Cymru ar 29 Ebrill 2021, oni bai—

a

bod y Llywydd yn arfer y pŵer a roddir gan adran 6 (pŵer i ohirio etholiad 2021 am hyd at 6 mis), neu

b

bod Ei Mawrhydi yn diddymu Senedd Cymru cyn y diwrnod hwnnw drwy broclamasiwn o dan adran 4(2) o Ddeddf 2006 (pŵer i amrywio dyddiad etholiad cyffredinol arferol y Senedd).

2

Os yw’r Llywydd yn arfer y pŵer a roddir gan adran 6, diddymir Senedd Cymru ar ddechrau’r cyfnod o 7 niwrnod sy’n dod i ben yn union cyn y diwrnod a bennir ar gyfer cynnal y pôl, oni bai bod is-adran (3) yn gymwys.

3

Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r Llywydd, cyn y diwrnod y bwriedir diddymu Senedd Cymru yn unol ag is-adran (2), yn arfer y pŵer a roddir gan adran 6 eto (ac, yn unol â hynny, mae is-adran (2) yn gymwys i’r arfer hwnnw o’r pŵer yn ei dro).

4Canllawiau ar arfer swyddogaethau yn y cyfnod cyn yr etholiad

1

Rhaid i’r Prif Weinidog gyhoeddi canllawiau ynghylch arfer swyddogaethau’r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad ar gyfer etholiad 2021.

2

Rhaid i’r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol roi sylw i’r canllawiau.

3

Rhaid i’r Prif Weinidog benderfynu ar y cyfnod cyn yr etholiad ar gyfer etholiad 2021 at ddiben yr adran hon.

4

Rhaid i’r cyfnod y penderfynir arno gynnwys y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod a bennir ar gyfer cynnal y pôl ar gyfer etholiad 2021.

5

Rhaid i’r canllawiau gael eu cyhoeddi cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

5Dyddiad y cyfarfod cyntaf ar ôl etholiad 2021

Rhaid i Senedd Cymru gyfarfod o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau yn union ar ôl y diwrnod y cynhelir y pôl ar gyfer etholiad 2021.

6Pŵer i ohirio etholiad 2021 am hyd at 6 mis

1

Caiff Prif Weinidog Cymru (“y Prif Weinidog”) gynnig i’r Llywydd fod y pôl ar gyfer etholiad 2021 yn cael ei ohirio os yw’r Prif Weinidog, am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws, yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol gwneud hynny.

2

Ond cyn gwneud cynnig o dan is-adran (1), rhaid i’r Prif Weinidog ymgynghori â’r aelod o staff yn Llywodraeth Cymru sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru yn Brif Swyddog Meddygol Cymru.

3

Yn dilyn cynnig gan y Prif Weinidog, caiff y Llywydd bennu diwrnod ar gyfer cynnal y pôl ar gyfer etholiad 2021—

a

os yw Senedd Cymru yn cymeradwyo’r diwrnod sydd i’w bennu drwy benderfyniad sy’n cael ei basio drwy bleidlais nad yw nifer Aelodau’r Senedd sy’n pleidleisio o’i blaid yn llai na dwy ran o dair o gyfanswm nifer seddi’r Senedd, a

b

os nad yw Senedd Cymru wedi ei diddymu.

4

Wrth bennu diwrnod ar gyfer cynnal y pôl—

a

rhaid i’r Llywydd bennu diwrnod sef y diwrnod cynharaf y mae’r Llywydd yn ystyried ei fod yn rhesymol ymarferol;

b

ni chaiff y Llywydd bennu diwrnod sydd ar ôl 5 Tachwedd 2021.

5

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl pennu diwrnod ar gyfer cynnal y pôl, rhaid i’r Llywydd osod gerbron Senedd Cymru ddatganiad—

a

o’r diwrnod a bennwyd ar gyfer cynnal y pôl, a

b

o’r rheswm dros arfer y pŵer i bennu diwrnod.

6

Rhaid i’r Comisiwn Etholiadol ddarparu cyngor mewn perthynas â gohirio pôl os yw’r Llywydd neu’r Prif Weinidog yn gofyn iddo wneud hynny.

7

Caniateir i’r pwerau yn is-adrannau (1) a (3) gael eu harfer fwy nag unwaith.

8

Rhaid i’r Prif Weinidog osod datganiad gerbron Senedd Cymru ar neu cyn 24 Mawrth 2021 sy’n nodi pa un a yw’r Prif Weinidog yn bwriadu arfer y pŵer yn is-adran (1) ai peidio.

9

Os nad yw’r Prif Weinidog yn bwriadu arfer y pŵer, rhaid i’r datganiad nodi—

a

y rhesymau dros beidio ag arfer y pŵer, a

b

a ellir cynnal ymgyrch etholiadol lawn a theg, ym marn y Prif Weinidog, gan bob person sy’n ceisio cael ei ethol yn etholiad 2021 nad yw’n rhoi unrhyw berson sy’n gymwys i bleidleisio yn yr etholiad hwnnw o dan anfantais.

10

Nid yw unrhyw fwriad a fynegir yn y datganiad o dan is-adran (8) yn effeithio ar arfer y pŵer yn is-adran (1).

11

Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n cyfyngu ar y pŵer yn adran 4 o Ddeddf 2006 i amrywio dyddiad etholiad cyffredinol arferol i fod yn Aelod o’r Senedd.

12

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r meini prawf sydd i’w defnyddio gan y Prif Weinidog ar gyfer penderfynu a yw’n angenrheidiol neu’n briodol gohirio’r pôl ar gyfer etholiad 2021 am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws o dan is-adran (1).

13

Rhaid i’r meini prawf gael eu cyhoeddi cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

7Pŵer i ddarparu ar gyfer diwrnodau pleidleisio ychwanegol

1

Mae’r adran hon yn gymwys os pennir y diwrnod ar gyfer cynnal pôl etholiad 2021 o dan adran 6.

2

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau a wneir drwy offeryn statudol, ddarparu y caiff y pleidleisio na fyddai fel arall yn ofynnol iddo ddigwydd ond ar y dyddiad a bennir o dan adran 6 ddigwydd ar un neu ragor o ddiwrnodau ychwanegol a bennir yn y rheoliadau.

3

O ran rheoliadau o dan is-adran (2)—

a

ni chânt bennu diwrnod ond os yw’n dod o fewn y cyfnod o 7 niwrnod yn union cyn y diwrnod a bennir ar gyfer cynnal y pôl;

b

cânt ei gwneud yn ofynnol i bleidleisio ar ddiwrnodau ychwanegol ddigwydd mewn lleoliadau penodol neu ddisgrifiadau neu gategorïau o leoliadau a bennir yn y rheoliadau;

c

cânt addasu ystyr cyfeiriad perthnasol i’r graddau y mae’n ymwneud â darpariaeth a wneir yn y rheoliadau.

4

Yn is-adran (3), ystyr “cyfeiriad perthnasol” yw cyfeiriad (sut bynnag y’i mynegir) mewn unrhyw ddeddfiad neu ddogfen at ddiwrnod neu ddyddiad y pôl yn etholiad 2021.

5

Rhaid i’r Comisiwn Etholiadol ddarparu cyngor mewn perthynas ag arfer y pŵer yn is-adran (2) os gofynnir iddo wneud hynny gan Weinidogion Cymru.

6

Wrth osod rheoliadau drafft o dan is-adran (7) gerbron Senedd Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru ar yr un pryd osod gerbron Senedd Cymru ddatganiad o’r rhesymau dros y rheoliadau.

7

Rhaid i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (2) gael ei osod gerbron Senedd Cymru ac mae’n peidio â chael effaith pan fo 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y’i gwneir yn dod i ben, oni bai bod Senedd Cymru yn ei gymeradwyo drwy benderfyniad cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

8

Ond—

a

os yw Senedd Cymru yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo offeryn statudol a osodir o dan is-adran (7) cyn i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno ddod i ben, a

b

os na chaiff y cynnig ei basio,

mae’r offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd diwrnod y mae’r bleidlais yn digwydd.

9

Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o 28 o ddiwrnodau at ddibenion is-adran (7), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru—

a

wedi ei diddymu, neu

b

ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

10

Nid yw is-adrannau (7) ac (8)—

a

yn effeithio ar unrhyw beth a wneir drwy ddibynnu ar y rheoliadau cyn iddynt beidio â chael effaith, neu

b

yn atal gwneud rheoliadau newydd.

11

Nid yw rheoliadau o dan is-adran (2) yn cael unrhyw effaith pan fo’r pôl yn etholiad 2021 a’r pôl yn etholiad arferol comisiynwyr heddlu a throseddu ar gyfer ardaloedd heddlu yng Nghymru i’w cynnal gyda’i gilydd o dan erthygl 16A o Orchymyn 2007.

12

Yn is-adran (11), mae i “etholiad arferol comisiynwyr heddlu a throseddu ar gyfer ardaloedd heddlu” yr ystyr a roddir i “ordinary election of police and crime commissioners for police areas” yn adran 50 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (p. 13).

8Pŵer pellach i amrywio dyddiad etholiad 2021

1

Mae’r adran hon yn gymwys os pennir y diwrnod ar gyfer cynnal pôl etholiad 2021 o dan adran 6.

2

Caiff y Llywydd gynnig, ar gyfer cynnal y pôl, ddiwrnod nad yw’n fwy nag un mis yn gynharach, nac yn fwy nag un mis yn ddiweddarach, na’r diwrnod a bennir o dan adran 6.

3

Ni chaniateir i’r pŵer o dan is-adran (2) gael ei arfer er mwyn cynnig dyddiad ar ôl 5 Tachwedd 2021.

4

Os yw’r Llywydd yn cynnig diwrnod o dan is-adran (2), caiff Ei Mawrhydi drwy broclamasiwn o dan y Sêl Gymreig—

a

diddymu Senedd Cymru;

b

ei gwneud yn ofynnol i’r pôl yn yr etholiad gael ei gynnal ar y diwrnod a gynigiwyd.

5

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i broclamasiwn gael ei wneud o dan is-adran (4), rhaid i’r Llywydd gyhoeddi datganiad—

a

o’r diwrnod y mae’r pôl i’w gynnal, a

b

o’r rheswm dros arfer pŵer y Llywydd o dan is-adran (2).

9Canllawiau ar ymgyrchu etholiadol

1

Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i bersonau sy’n ymgymryd â gweithgareddau ymgyrchu etholiadol at ddiben etholiad a bennir yn is-adran (2) ynghylch sut y cânt ymgymryd â’r gweithgareddau hynny yn unol â deddfiadau sy’n gosod cyfyngiadau sy’n ymwneud â rheoli’r coronafeirws.

2

Yr etholiadau yw—

a

etholiad 2021;

b

etholiad sydd i’w gynnal cyn 6 Tachwedd 2021 o dan adran 10 o Ddeddf 2006 i lenwi sedd wag aelod etholaethol;

c

etholiad sydd i’w gynnal cyn 6 Tachwedd 2021 i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru.

3

Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys ond os yw cyfyngiadau a osodir gan ddeddfiad yn effeithio ar weithgareddau ymgyrchu etholiadol at ddiben etholiad a bennir yn is-adran (2) ac ond i’r graddau y mae’r cyfyngiadau hynny yn effeithio ar y gweithgareddau hynny.

10Pŵer i ohirio is-etholiadau’r Senedd

1

Mae’r adran hon yn gymwys ar ôl 6 Mai 2021 pan fo etholiad i’w gynnal o dan adran 10 o Ddeddf 2006 i lenwi sedd wag aelod etholaethol (“is-etholiad i’r Senedd”).

2

Caiff y Llywydd bennu dyddiad ar gyfer cynnal y pôl ar gyfer is-etholiad i’r Senedd sydd y tu allan i’r cyfnod sy’n ofynnol o dan adran 10(5) neu (6) o Ddeddf 2006.

3

Wrth bennu diwrnod o dan is-adran (2), rhaid i’r Llywydd bennu diwrnod sef y diwrnod cynharaf y mae’r Llywydd yn ystyried ei fod yn rhesymol ymarferol.

4

O ran y pŵer o dan is-adran (2)—

a

caniateir iddo gael ei arfer fwy nag unwaith, a

b

ni chaniateir iddo gael ei arfer er mwyn pennu dyddiad ar ôl 5 Tachwedd 2021.

5

Cyn arfer y pŵer o dan is-adran (2), rhaid i’r Llywydd ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

11Pŵer i ohirio is-etholiadau awdurdodau lleol

1

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau a wneir drwy offeryn statudol, ddarparu—

a

bod y pôl ar gyfer is-etholiad awdurdod lleol i’w gynnal ar ddyddiad, neu o fewn cyfnod, a bennir yn y rheoliadau;

b

bod y pôl ar gyfer is-etholiad awdurdod lleol y byddai’n ofynnol ei gynnal fel arall ar ddyddiad sy’n dod o fewn cyfnod a bennir yn y rheoliadau i’w gynnal yn lle hynny ar ddyddiad diweddarach, neu o fewn cyfnod arall, a bennir yn y rheoliadau.

2

Yn yr adran hon, ystyr “is-etholiad awdurdod lleol” yw etholiad—

a

pan fo dyddiad y pôl ar gyfer yr etholiad yn dod o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 6 Mai 2021 ac sy’n dod i ben â 5 Tachwedd 2021, a

b

pan fo’n etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru.

3

Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) bennu—

a

dyddiad ar ôl 5 Tachwedd 2021, neu

b

cyfnod sy’n dod i ben ar ôl 5 Tachwedd 2021.

4

Caniateir i’r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (1) gael ei arfer fwy nag unwaith mewn cysylltiad ag unrhyw is-etholiad awdurdod lleol.

5

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth drwy gyfeirio at is-etholiadau awdurdodau lleol o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau (er enghraifft, drwy gyfeirio at natur, dyddiad neu leoliad yr etholiadau).

6

Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (1) yn cynnwys y pŵer i ddiwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.

7

Mae is-adran (8) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (1) sy’n diwygio, yn addasu neu’n diddymu darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol.

8

Rhaid i offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo gael ei osod gerbron Senedd Cymru ac mae’n peidio â chael effaith pan fo 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y’i gwneir yn dod i ben, oni bai bod Senedd Cymru yn ei gymeradwyo drwy benderfyniad cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

9

Ond—

a

os yw Senedd Cymru yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo offeryn statudol a osodir o dan is-adran (8) cyn i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno ddod i ben, a

b

os na chaiff y cynnig ei basio,

mae’r offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y diwrnod y mae’r bleidlais yn digwydd.

10

Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o 28 o ddiwrnodau at ddibenion is-adran (8), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru—

a

wedi ei diddymu, neu

b

ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

11

Nid yw is-adrannau (8) ac (9)—

a

yn effeithio ar unrhyw beth a wneir drwy ddibynnu ar y rheoliadau cyn iddynt beidio â chael effaith, neu

b

yn atal gwneud rheoliadau newydd.

12

Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (1) ac nad yw is-adran (8) yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

12Gorchmynion a rheolau ynglŷn â chynnal etholiadau yn 2021

1

Mae is-adran (3) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn o dan adran 13(1)(a) o Ddeddf 2006 (pŵer i wneud gorchymyn o ran cynnal etholiadau’r Senedd) sy’n cynnwys darpariaeth—

a

nad yw ond yn gymwys i etholiad 2021, neu

b

nad yw ond yn gymwys i etholiad o dan adran 10 o Ddeddf 2006 i lenwi sedd wag aelod etholaethol y mae’r pôl ar ei gyfer i’w gynnal cyn 6 Tachwedd 2021.

2

Mae is-adran (3) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheolau o dan adran 36A o Citation id="c00201" Class="UnitedKingdomPublicGeneralAct" Year="1983" Number="0002">Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2) (pŵer i wneud rheolau mewn perthynas â chynnal etholiadau cynghorwyr ar gyfer ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru) nad ydynt ond yn gymwys i etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru y mae’r pôl ar ei gyfer i’w gynnal cyn 6 Tachwedd 2021.

3

Rhaid i offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo gael ei osod gerbron Senedd Cymru ac mae’n peidio â chael effaith pan fo 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y’i gwneir yn dod i ben, oni bai bod Senedd Cymru yn ei gymeradwyo drwy benderfyniad cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

4

Ond—

a

os yw Senedd Cymru yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo offeryn statudol a osodir o dan is-adran (3) cyn i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno ddod i ben, a

b

os na chaiff y cynnig ei basio,

mae’r offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y diwrnod y mae’r bleidlais yn digwydd.

5

Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o 28 o ddiwrnodau at ddibenion is-adran (4), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru—

a

wedi ei diddymu, neu

b

ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

6

Nid yw is-adrannau (3) a (4)—

a

yn effeithio ar unrhyw beth a wneir drwy ddibynnu ar y rheolau neu’r gorchymyn cyn iddynt neu cyn iddo beidio â chael effaith, nac

b

yn atal gwneud rheolau newydd neu orchymyn newydd.