Prif ddarpariaethau

7Pŵer i ddarparu ar gyfer diwrnodau pleidleisio ychwanegol

1

Mae’r adran hon yn gymwys os pennir y diwrnod ar gyfer cynnal pôl etholiad 2021 o dan adran 6.

2

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau a wneir drwy offeryn statudol, ddarparu y caiff y pleidleisio na fyddai fel arall yn ofynnol iddo ddigwydd ond ar y dyddiad a bennir o dan adran 6 ddigwydd ar un neu ragor o ddiwrnodau ychwanegol a bennir yn y rheoliadau.

3

O ran rheoliadau o dan is-adran (2)—

a

ni chânt bennu diwrnod ond os yw’n dod o fewn y cyfnod o 7 niwrnod yn union cyn y diwrnod a bennir ar gyfer cynnal y pôl;

b

cânt ei gwneud yn ofynnol i bleidleisio ar ddiwrnodau ychwanegol ddigwydd mewn lleoliadau penodol neu ddisgrifiadau neu gategorïau o leoliadau a bennir yn y rheoliadau;

c

cânt addasu ystyr cyfeiriad perthnasol i’r graddau y mae’n ymwneud â darpariaeth a wneir yn y rheoliadau.

4

Yn is-adran (3), ystyr “cyfeiriad perthnasol” yw cyfeiriad (sut bynnag y’i mynegir) mewn unrhyw ddeddfiad neu ddogfen at ddiwrnod neu ddyddiad y pôl yn etholiad 2021.

5

Rhaid i’r Comisiwn Etholiadol ddarparu cyngor mewn perthynas ag arfer y pŵer yn is-adran (2) os gofynnir iddo wneud hynny gan Weinidogion Cymru.

6

Wrth osod rheoliadau drafft o dan is-adran (7) gerbron Senedd Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru ar yr un pryd osod gerbron Senedd Cymru ddatganiad o’r rhesymau dros y rheoliadau.

7

Rhaid i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (2) gael ei osod gerbron Senedd Cymru ac mae’n peidio â chael effaith pan fo 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y’i gwneir yn dod i ben, oni bai bod Senedd Cymru yn ei gymeradwyo drwy benderfyniad cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

8

Ond—

a

os yw Senedd Cymru yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo offeryn statudol a osodir o dan is-adran (7) cyn i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno ddod i ben, a

b

os na chaiff y cynnig ei basio,

mae’r offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd diwrnod y mae’r bleidlais yn digwydd.

9

Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o 28 o ddiwrnodau at ddibenion is-adran (7), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru—

a

wedi ei diddymu, neu

b

ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

10

Nid yw is-adrannau (7) ac (8)—

a

yn effeithio ar unrhyw beth a wneir drwy ddibynnu ar y rheoliadau cyn iddynt beidio â chael effaith, neu

b

yn atal gwneud rheoliadau newydd.

11

Nid yw rheoliadau o dan is-adran (2) yn cael unrhyw effaith pan fo’r pôl yn etholiad 2021 a’r pôl yn etholiad arferol comisiynwyr heddlu a throseddu ar gyfer ardaloedd heddlu yng Nghymru i’w cynnal gyda’i gilydd o dan erthygl 16A o Orchymyn 2007.

12

Yn is-adran (11), mae i “etholiad arferol comisiynwyr heddlu a throseddu ar gyfer ardaloedd heddlu” yr ystyr a roddir i “ordinary election of police and crime commissioners for police areas” yn adran 50 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (p. 13).