Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021

7Pŵer i ddarparu ar gyfer diwrnodau pleidleisio ychwanegol

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os pennir y diwrnod ar gyfer cynnal pôl etholiad 2021 o dan adran 6.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau a wneir drwy offeryn statudol, ddarparu y caiff y pleidleisio na fyddai fel arall yn ofynnol iddo ddigwydd ond ar y dyddiad a bennir o dan adran 6 ddigwydd ar un neu ragor o ddiwrnodau ychwanegol a bennir yn y rheoliadau.

(3)O ran rheoliadau o dan is-adran (2)—

(a)ni chânt bennu diwrnod ond os yw’n dod o fewn y cyfnod o 7 niwrnod yn union cyn y diwrnod a bennir ar gyfer cynnal y pôl;

(b)cânt ei gwneud yn ofynnol i bleidleisio ar ddiwrnodau ychwanegol ddigwydd mewn lleoliadau penodol neu ddisgrifiadau neu gategorïau o leoliadau a bennir yn y rheoliadau;

(c)cânt addasu ystyr cyfeiriad perthnasol i’r graddau y mae’n ymwneud â darpariaeth a wneir yn y rheoliadau.

(4)Yn is-adran (3), ystyr “cyfeiriad perthnasol” yw cyfeiriad (sut bynnag y’i mynegir) mewn unrhyw ddeddfiad neu ddogfen at ddiwrnod neu ddyddiad y pôl yn etholiad 2021.

(5)Rhaid i’r Comisiwn Etholiadol ddarparu cyngor mewn perthynas ag arfer y pŵer yn is-adran (2) os gofynnir iddo wneud hynny gan Weinidogion Cymru.

(6)Wrth osod rheoliadau drafft o dan is-adran (7) gerbron Senedd Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru ar yr un pryd osod gerbron Senedd Cymru ddatganiad o’r rhesymau dros y rheoliadau.

(7)Rhaid i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (2) gael ei osod gerbron Senedd Cymru ac mae’n peidio â chael effaith pan fo 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y’i gwneir yn dod i ben, oni bai bod Senedd Cymru yn ei gymeradwyo drwy benderfyniad cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

(8)Ond—

(a)os yw Senedd Cymru yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo offeryn statudol a osodir o dan is-adran (7) cyn i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno ddod i ben, a

(b)os na chaiff y cynnig ei basio,

mae’r offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd diwrnod y mae’r bleidlais yn digwydd.

(9)Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o 28 o ddiwrnodau at ddibenion is-adran (7), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru—

(a)wedi ei diddymu, neu

(b)ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

(10)Nid yw is-adrannau (7) ac (8)—

(a)yn effeithio ar unrhyw beth a wneir drwy ddibynnu ar y rheoliadau cyn iddynt beidio â chael effaith, neu

(b)yn atal gwneud rheoliadau newydd.

(11)Nid yw rheoliadau o dan is-adran (2) yn cael unrhyw effaith pan fo’r pôl yn etholiad 2021 a’r pôl yn etholiad arferol comisiynwyr heddlu a throseddu ar gyfer ardaloedd heddlu yng Nghymru i’w cynnal gyda’i gilydd o dan erthygl 16A o Orchymyn 2007.

(12)Yn is-adran (11), mae i “etholiad arferol comisiynwyr heddlu a throseddu ar gyfer ardaloedd heddlu” yr ystyr a roddir i “ordinary election of police and crime commissioners for police areas” yn adran 50 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (p. 13).