- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“Deddf 2016”) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 174 (hysbysiadau o dan adran 173: y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir)—
(a)yn is-adran (1), yn lle “dau fis” rhodder “chwe mis”;
(b)yn lle is-adran (2) rhodder—
“(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol, ac eithrio contractau safonol cyfnodol—
(a)nad ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract, neu
(b)sydd o fewn Atodlen 8A (pa un a ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract ai peidio).”
(3)Ar ôl adran 174 mewnosoder—
(1)Os yw contract safonol cyfnodol o fewn Atodlen 8A, ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 173 fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sydd—
(a)yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract, a
(b)o fewn Atodlen 8A.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 1 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
(1)Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 195 (cymal terfynu’r landlord: y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir)—
(a)yn is-adran (1), yn lle “dau fis” rhodder “chwe mis”;
(b)yn lle is-adran (2) rhodder—
“(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol—
(a)nad ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, neu
(b)sydd o fewn Atodlen 8A (pa un a ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord ai peidio).”
(3)Ar ôl adran 195 mewnosoder—
(1)Os yw contract safonol cyfnod penodol o fewn Atodlen 8A, ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd—
(a)yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, a
(b)o fewn Atodlen 8A.”
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 2 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
Mae Atodlen 1 yn mewnosod Atodlen 8A newydd i Ddeddf 2016, sy’n nodi’r contractau safonol y gellir eu terfynu gan y landlord ar ôl cyfnod hysbysu o ddau fis.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 3 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
(1)Yn adran 175 o Ddeddf 2016 (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173 yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth)—
(a)yn is-adran (1), yn lle “bedwar mis” rhodder “chwe mis”;
(b)yn is-adran (2), yn lle “bedwar mis” rhodder “chwe mis”.
(2)Daw pennawd adran 175 yn “Cyfyngiad ar adran 173: ni chaniateir rhoi hysbysiad tan ar ôl chwe mis cyntaf meddiannaeth”.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 4 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
(1)Yn adran 196 o Ddeddf 2016 (cyfyngiadau ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth)—
(a)yn is-adran (1), yn lle “bedwar mis” rhodder “18 mis”;
(b)hepgorer is-adrannau (2) a (3).
(2)Daw pennawd adran 196 yn “Cyfyngiad ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord tan ar ôl 18 mis cyntaf meddiannaeth”.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 5 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
(1)Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn lle adran 176 (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173: gofynion rhoi gwybodaeth) rhodder—
Mae Atodlen 9A yn gosod cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173, sy’n ymwneud â thorri rhwymedigaethau statudol penodol.”
(3)Ar ôl adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol) mewnosoder—
Mae Atodlen 9A yn gosod cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 186, sy’n ymwneud â thorri rhwymedigaethau statudol penodol.”
(4)Yn lle adran 197 (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord: gofynion rhoi gwybodaeth) rhodder—
Mae Atodlen 9A yn gosod cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord, sy’n ymwneud â thorri rhwymedigaethau statudol penodol.”
(5)Yn Neddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (dccc 2)—
(a)yn lle adran 20 (cyfyngiadau ar derfynu contractau), rhodder—
Mae Atodlen 9A i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) yn cynnwys darpariaeth yn ymwneud â chontractau meddiannaeth safonol sy’n atal landlord rhag rhoi hysbysiad yn ceisio meddiant o annedd o dan adran 173 neu 186 o’r Ddeddf honno, neu o dan gymal terfynu’r landlord, os nad yw’r landlord wedi cydymffurfio â darpariaethau yn y Ddeddf hon sy’n ymwneud â thaliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw a gedwir.”;
(b)hepgorer Atodlen 3 (sy’n darparu ar gyfer mewnosod adrannau 177A, 186A i 186C a 198A i Ddeddf 2016, ac yn gwneud diwygiadau cysylltiedig eraill i’r Ddeddf honno).
(6)Mae Atodlen 2 yn mewnosod Atodlen 9A newydd i Ddeddf 2016, sy’n—
(a)atgynhyrchu’r cyfyngiadau ar roi hysbysiadau yn ceisio meddiant yn adrannau 176 i 177A, 186A i 186C a 197 i 198A o Ddeddf 2016 fel yr oeddent cyn eu diwygio neu eu hepgor yn rhinwedd y Ddeddf hon, a
(b)cynnwys pŵer i ddiwygio Atodlen 9A.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 6 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
Yn lle adran 177 o Ddeddf 2016 (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173: gofynion sicrwydd a blaendal) rhodder—
(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys pan fo—
(a)landlord wedi rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173 (“yr hysbysiad cyntaf”), a
(b)y landlord wedi tynnu’r hysbysiad yn ôl wedi hynny (gweler adran 180(3)).
(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd yr hysbysiad cyntaf ei dynnu’n ôl, ac eithrio yn unol ag is-adran (3).
(3)Caiff y landlord roi un hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad cyntaf.
(4)Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo—
(a)landlord wedi rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173, a
(b)y cyfnod ar gyfer gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178 wedi dod i ben heb i’r landlord fod wedi gwneud hawliad.
(5)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â diwrnod olaf y cyfnod y gallai’r landlord fod wedi gwneud yr hawliad cyn iddo ddod i ben (gweler adran 179(1)(b)).
(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract.”
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 7 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
(1)Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 180 (terfynu contract yn dilyn hysbysiad y landlord), yn is-adran (3), yn lle’r geiriau o “, cyn i’r contract ddod i ben” hyd at y diwedd, rhodder “—
(a)yw’r landlord, cyn i’r contract ddod i ben, ac yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad, yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, neu
(b)cyn i’r contract ddod i ben, ac ar ôl y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad—
(i)yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, a
(ii)nad yw deiliad y contract yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.”
(3)Yn adran 201 (terfynu contract o dan gymal terfynu’r landlord), yn is-adran (3), yn lle’r geiriau o “, cyn i’r contract ddod i ben” hyd at y diwedd rhodder “—
(a)yw’r landlord, cyn i’r contract ddod i ben, ac yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad, yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, neu
(b)cyn i’r contract ddod i ben, ac ar ôl y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad—
(i)yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, a
(ii)nad yw deiliad y contract yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.”
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 8 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
(1)Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ar ôl adran 177 (a fewnosodir gan adran 7) mewnosoder—
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—
(a)landlord (ar ôl rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173) wedi gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178, a
(b)y llys wedi gwrthod gwneud gorchymyn adennill meddiant gan ei fod o’r farn bod yr hawliad yn hawliad dialgar (gweler adran 217).
(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwrthododd y llys wneud gorchymyn adennill meddiant.
(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract.”
(3)Yn lle adran 198 o Ddeddf 2016 (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord: gofynion sicrwydd a blaendal) rhodder—
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—
(a)landlord (ar ôl rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan gymal terfynu’r landlord) wedi gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 199, a
(b)y llys wedi gwrthod gwneud gorchymyn adennill meddiant gan ei fod o’r farn bod yr hawliad yn hawliad dialgar (gweler adran 217).
(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan gymal terfynu’r landlord i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwrthododd y llys wneud gorchymyn adennill meddiant.
(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.”
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 9 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
(1)Mae adran 186 o Ddeddf 2016 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol) wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a)yn is-adran (1), ar ôl “gontract safonol cyfnod penodol” mewnosoder “sydd o fewn Atodlen 9B”;
(b)hepgorer is-adran (2);
(c)yn is-adran (3), yn lle “Yn ddarostyngedig i is-adran (2), o” rhodder “O”;
(d)hepgorer is-adran (4);
(e)yn is-adran (8) yn lle’r geiriau o “; mae is-adrannau (2)” hyd at y diwedd, rhodder “sydd o fewn Atodlen 9B.”
(2)Ym mhennawd adran 186, ar y diwedd mewnosoder “contract sydd o fewn Atodlen 9B”.
(3)Mae Atodlen 3 yn mewnosod Atodlen 9B newydd i Ddeddf 2016 (ar ôl Atodlen 9A, a fewnosodir gan adran 6), sy’n nodi’r contractau safonol cyfnod penodol y mae adran 186 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I10A. 10 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
(1)Yn adran 194 o Ddeddf 2016 (cymal terfynu’r landlord)—
(a)yn is-adran (1), ar ôl “Caiff contract safonol cyfnod penodol” mewnosoder “sydd o fewn is-adran (1A)”;
(b)ar ôl is-adran (1), mewnosoder—
“(1A)Mae contract safonol cyfnod penodol o fewn yr is-adran hon—
(a)os yw wedi ei wneud am gyfnod o ddwy flynedd neu ragor, neu
(b)os yw o fewn Atodlen 9C (pa un a yw wedi ei wneud am gyfnod o ddwy flynedd neu ragor ai peidio).”
(2)Mae Atodlen 4 yn mewnosod Atodlen 9C newydd i Ddeddf 2016 (ar ôl Atodlen 9B, a fewnosodir gan adran 10) sy’n nodi’r contractau safonol cyfnod penodol a gaiff gynnwys cymal terfynu’r landlord ni waeth pa un a ydynt am gyfnod llai na dwy flynedd ai peidio.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 11 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
(1)Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 125 (amrywio contract)—
(a)yn is-adran (1)—
(i)yn lle “127)—” rhodder “127) drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract.”;
(ii)hepgorer paragraffau (a) a (b);
(b) yn is-adran (2) hepgorer y geiriau o “; ond nid yw is-adran (1)(b)” hyd at y diwedd.
(3)Hepgorer adran 126 (amrywio gan y landlord: y weithdrefn hysbysu).
(4)Yn adran 173 (hysbysiad y landlord), hepgorer is-adran (3).
Gwybodaeth Cychwyn
I12A. 12 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
(1)Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 121 (gwahardd deiliad contract o dan gontract safonol cyfnodol o annedd am gyfnodau penodedig), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Ddeddf hon drwy reoliadau at ddibenion—
(a)darparu nad yw is-adran (1) yn gymwys mewn perthynas â chontractau safonol cyfnodol o ddisgrifiad penodol;
(b)darparu nad yw is-adran (1) ond yn gymwys mewn perthynas â chontractau safonol cyfnodol o ddisgrifiad penodol;
(c)newid yr hyn y caniateir darparu ar ei gyfer neu ei bennu mewn contract safonol cyfnodol o dan is-adran (1) neu (2) (naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas â chontractau safonol cyfnodol o ddisgrifiad penodol), neu osod cyfyngiadau ar hynny;
(d)pennu o dan ba amgylchiadau y caniateir i gontract safonol cyfnodol gynnwys darpariaeth o dan is-adran (1), neu o dan ba amgylchiadau na chaniateir i gontract o’r fath gynnwys darpariaeth o dan is-adran (1), a hynny naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas â chontractau safonol cyfnodol o ddisgrifiad penodol;
(e)gosod gofynion ar landlord mewn perthynas â chynnwys darpariaeth o dan is-adran (1) mewn contract safonol cyfnodol.”
(3)Yn adran 133 (gwahardd deiliad contract o dan gontract safonol cyfnod penodol o annedd am gyfnodau penodol), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Ddeddf hon drwy reoliadau at ddibenion—
(a)darparu nad yw is-adran (1) yn gymwys mewn perthynas â chontractau safonol cyfnod penodol o ddisgrifiad penodol;
(b)darparu nad yw is-adran (1) ond yn gymwys mewn perthynas â chontractau safonol cyfnod penodol o ddisgrifiad penodol;
(c)newid yr hyn y caniateir darparu ar ei gyfer neu ei bennu mewn contract safonol cyfnod penodol o dan is-adran (1) neu (2) (naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas â chontractau safonol cyfnod penodol o ddisgrifiad penodol), neu osod cyfyngiadau ar hynny;
(d)pennu o dan ba amgylchiadau y caniateir i gontract safonol cyfnod penodol gynnwys darpariaeth o dan is-adran (1), neu o dan ba amgylchiadau na chaniateir i gontract o’r fath gynnwys darpariaeth o dan is-adran (1), a hynny naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas â chontractau safonol cyfnod penodol o ddisgrifiad penodol;
(e)gosod gofynion ar landlord mewn perthynas â chynnwys darpariaeth o dan is-adran (1) mewn contract safonol cyfnod penodol.”
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 13 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
Mae Atodlen 5 yn darparu ar gyfer diwygiadau amrywiol i Ddeddf 2016.
Gwybodaeth Cychwyn
I14A. 14 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
(1)Yn Atodlen 1 i Ddeddf 2019 (taliadau a ganiateir), ar ôl paragraff 10 mewnosoder—
10A(1)Mae tâl gwasnaeth yn daliad a ganiateir os—
(a)yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, a
(b)yw’r landlord yn landlord cymunedol.
(2)Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag—
(a)contract meddiannaeth safonol o fewn paragraff 15 o Atodlen 3 i Ddeddf 2016 (llety nad yw’n llety cymdeithasol), neu
(b)contract meddiannaeth safonol a grybwyllir yn is-baragraff (3).
(3)Mae tâl gwasanaeth yn daliad a ganiateir os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol o fewn adran 143 o Ddeddf 2016 (contractau sy’n ymwneud â llety â chymorth).
(4)At ddibenion y paragraff hwn—
ystyr “Deddf 2016” (“2016 Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1);
mae i “gwasanaethau cymorth” (“support services”) yr ystyr a roddir gan adran 143 o Ddeddf 2016 (gweler, yn benodol, is-adran (4) o’r adran honno);
mae i “landlord cymunedol” (“community landlord”) yr ystyr a roddir gan adran 9 o Ddeddf 2016;
nid yw “tâl gwasanaeth” (“service charge”) yn cynnwys tâl am wasanaeth pan fyddai talu’r tâl yn cael ei ganiatáu yn rhinwedd paragraff arall o’r Atodlen hon, ac mewn perthynas ag is-baragraff (3) yn unig, mae’n cynnwys taliadau am ddarparu gwasanaethau cymorth.”
(2)Yn adran 4 o Ddeddf 2019, ar ôl is-adran (2)(h) mewnosoder—
“(i)taliadau gwasanaeth;”.
(3)Yn rheoliad 3 o’r Rheoliadau darpariaeth drosiannol—
(a)yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), ar ôl “adran 20,” mewnosoder “ac is-baragraffau (2) i (3B) o baragraff 10A o Atodlen 1,”;
(b)hepgorer yr “ac” ar ddiwedd is-baragraff (d);
(c)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—
“(da)mae paragraff 10A o Atodlen 1 i’r Ddeddf i’w ddarllen fel pe bai—
(i)y canlynol wedi ei roi yn lle is-baragraff (2)—
“(2)Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag—
(a)contract meddiannaeth safonol pan nad oedd y rheolau dyrannu (o fewn ystyr paragraff 15 o Atodlen 3 i Ddeddf 2016) yn gymwys i wneud y contract, neu
(b)contract meddiannaeth safonol a grybwyllir yn is-baragraff (3).”;
(ii)y canlynol wedi ei roi yn lle is-baragraff (3)—
“(3)Mae tâl gwasanaeth yn daliad a ganiateir os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol sy’n ymwneud â llety â chymorth.”;
(iii)y canlynol wedi ei roi ar ôl is-baragraff (3)—
“(3A)At ddibenion is-baragraff (3) mae llety yn “llety â chymorth” os—
(a)yw’n cael ei ddarparu gan landlord cymunedol neu elusen gofrestredig (o fewn ystyr Deddf 2016),
(b)yw’r landlord neu’r elusen (neu berson sy’n gweithredu ar ran y landlord neu’r elusen) yn darparu gwasanaethau cymorth i berson sydd â hawl i feddiannu’r llety, ac
(c)oes cysylltiad rhwng darparu’r llety a darparu’r gwasanaethau cymorth.
(3B)Ond nid yw llety mewn sefydliad gofal (o fewn ystyr paragraff 4 o Atodlen 2 i Ddeddf 2016) yn llety â chymorth.”, ac”.
(4)Mae’r diwygiadau a wneir gan is-adrannau (1), (2) a (3) o’r adran hon i’w trin at bob diben fel pe baent wedi dod i rym ar 1 Medi 2019, ac eithrio—
(a)bod unrhyw hysbysiad a roddwyd yn groes i adran 20(1) o Ddeddf 2019 (fel y’i haddaswyd gan y Rheoliadau darpariaeth drosiannol) cyn i’r adran hon ddod i rym i barhau i gael ei drin fel pe bai wedi ei roi yn groes i’r adran honno o Ddeddf 2019, a
(b)bod unrhyw orchymyn a wnaed cyn i’r adran hon ddod i rym o dan adran 22(1) o Ddeddf 2019 (gorchmynion i adennill taliadau gwaharddedig) yn parhau i gael effaith.
(5)Mae is-adran (6) yn gymwys pan fo—
(a)cyn i’r adran hon ddod i rym, landlord o dan denantiaeth fyrddaliadol sicr wedi ei gwneud yn ofynnol i dâl gwasanaeth gael ei dalu mewn cysylltiad â’r denantiaeth, a
(b)yn rhinwedd is-adran (4) o’r adran hon, y taliad sy’n ofynnol gan y landlord yn daliad a ganiateir at ddibenion Deddf 2019 (gweler adran 4 o’r Ddeddf honno).
(6)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adran 21 mewn cysylltiad â’r tŷ annedd a osodwyd ar y denantiaeth yn ystod y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r adran hon i rym.
(7)Yn yr adran hon—
ystyr “Deddf 2019” (“2019 Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (dccc 2);
ystyr “hysbysiad adran 21” (“section 21 notice”) yw hysbysiad o dan is-adran (1)(b) neu (4)(a) o adran 21 o Ddeddf Tai 1988 (“Deddf 1988”);
ystyr “y Rheoliadau darpariaeth drosiannol” (“the transitional provision Regulations”) yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (Darpariaeth Drosiannol ar gyfer Tenantiaethau Byrddaliadol Sicr) 2019 (O.S. 2019/1151);
mae i “tenantiaeth fyrddaliadol sicr” yr ystyr a roddir i “assured shorthold tenancy” yn Neddf 1988.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 15 mewn grym ar 8.4.2021, gweler a. 19(1)
(1)Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn Atodlen 1 (taliadau a ganiateir), ar ôl paragraff 10A mewnosoder—
10BMae taliad ffi resymol am ddatganiad ysgrifenedig pellach o gontract meddiannaeth safonol yn daliad a ganiateir.”
(3)Yn adran 4, ar ôl is-adran (2)(i) mewnosoder—
“(j)taliadau mewn cysylltiad â chopïau pellach o ddatganiad ysgrifenedig”.
Gwybodaeth Cychwyn
I16A. 16 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
Yn y Ddeddf hon—
(a)ystyr “contract safonol” yw—
(i)contract safonol cyfnodol o dan Ddeddf 2016;
(ii)contract safonol cyfnod penodol o dan y Ddeddf honno,
a gweler adran 8 o Ddeddf 2016 ynghylch hynny;
(b)ystyr “Deddf 2016” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1).
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 17 mewn grym ar 8.4.2021, gweler a. 19(1)
Mae Atodlen 6 yn darparu ar gyfer mân ddiwygiadau neu ddiwygiadau canlyniadol i Ddeddf 2016 ac i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (dccc 2).
Gwybodaeth Cychwyn
I18A. 18 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
(1)Daw’r adran hon, adran 15 ac adrannau 17 a 20 i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(2)Daw paragraff 28 o Atodlen 6 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(3)Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ddau fis ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(4)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—
(a)gwneud darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed;
(b)pennu dyddiau gwahanol at ddibenion gwahanol.
Gwybodaeth Cychwyn
I19A. 19 mewn grym ar 8.4.2021, gweler a. 19(1)
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021.
Gwybodaeth Cychwyn
I20A. 20 mewn grym ar 8.4.2021, gweler a. 19(1)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: