xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

CyffredinolLL+C

17DehongliLL+C

Yn y Ddeddf hon—

(a)ystyr “contract safonol” yw—

(i)contract safonol cyfnodol o dan Ddeddf 2016;

(ii)contract safonol cyfnod penodol o dan y Ddeddf honno,

a gweler adran 8 o Ddeddf 2016 ynghylch hynny;

(b)ystyr “Deddf 2016” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 17 mewn grym ar 8.4.2021, gweler a. 19(1)

18Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C

Mae Atodlen 6 yn darparu ar gyfer mân ddiwygiadau neu ddiwygiadau canlyniadol i Ddeddf 2016 ac i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (dccc 2).

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 18 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

19Dod i rymLL+C

(1)Daw’r adran hon, adran 15 ac adrannau 17 a 20 i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw paragraff 28 o Atodlen 6 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ddau fis ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(4)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)gwneud darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed;

(b)pennu dyddiau gwahanol at ddibenion gwahanol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 19 mewn grym ar 8.4.2021, gweler a. 19(1)

20Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 20 mewn grym ar 8.4.2021, gweler a. 19(1)