Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 5 – Cymal terfynu’r landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol: pryd y caniateir rhoi hysbysiad

27.Mae adran 196(1) o Ddeddf 2016 yn datgan na chaiff landlord roi hysbysiad i derfynu contract safonol cyfnod penodol o dan gymal terfynu’r landlord yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth.

28.Mae adran 5(1)(a) o’r Ddeddf yn diwygio adran 196(1) o Ddeddf 2016 fel bod y cyfyngiad o bedwar mis wedi ei gynyddu i 18 mis.

29.Mae adran 5(1)(b) o’r Ddeddf yn dileu adran 196(2) a (3) o Ddeddf 2016. Roedd y rhain yn darparu, os oedd y contract yn gontract meddiannaeth a oedd yn cymryd lle contract arall, fod y cyfyngiad a osodid gan adran 196 yn gymwys o ddyddiad meddiannu’r contract gwreiddiol.

30.Golyga’r diwygiad hwn nad yw’n berthnasol mwyach pa un a yw’r contract yn gontract meddiannaeth yn lle contract arall ai peidio. Bydd y cyfyngiad a osodir gan adran 196 yn gymwys o ddyddiad meddiannu pob contract safonol cyfnod penodol newydd y mae’r landlord a deiliad y contract yn cytuno arno.