ATODLEN 4ATODLEN 9C NEWYDD I DDEDDF 2016
Mae’r Atodlen hon yn gosod allan yr Atodlen 9C newydd i Ddeddf 2016, sydd i’w mewnosod (ynghyd â’r Atodlenni 9A a 9B newydd) ar ôl Atodlen 9—
ATODLEN 9CCONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL A GAIFF GYNNWYS CYMAL TERFYNU’R LANDLORD HYD YN OED OS YDYNT WEDI EU GWNEUD AM GYFNOD LLAI NA DWY FLYNEDD
1Tenantiaethau a thrwyddedau sy’n gontractau meddiannaeth oherwydd hysbysiad a roddir o dan Ran 2 o Atodlen 2
Contract safonol na fyddai’n gontract meddiannaeth oni bai am hysbysiad o dan baragraff 3 o Atodlen 2 (llety gwyliau; sefydliadau gofal; trefniadau hwylus dros dro; llety a rennir).
2Llety â chymorth
Contract safonol â chymorth.
3Llety i geiswyr lloches, etc.
Contract safonol a wneir er mwyn darparu llety o dan Ran 6 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (p. 33) (cymorth i geiswyr lloches, etc.).
4Llety i bersonau digartref
Contract safonol a wneir fel y disgrifir ym mharagraff 11 neu 12 o Atodlen 2 (llety i bersonau digartref).
5Meddiannaeth yn rhinwedd swydd
Contract safonol pan fo’n ofynnol i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd yn ôl ei gontract cyflogaeth.
6Meddiannaeth yn rhinwedd swydd: yr heddlu
Contract safonol—
a
pan fo deiliad y contract yn aelod o heddlu, a
b
pan fo’r annedd yn cael ei darparu i ddeiliad y contract yn ddi-rent o dan reoliadau a wnaed o dan adran 50 o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p. 16) (rheoliadau cyffredinol o ran llywodraethu, gweinyddu ac amodau gwasanaeth).
7Meddiannaeth yn rhinwedd swydd: y gwasanaethau tân ac achub
Contract safonol—
a
pan fo deiliad y contract yn cael ei gyflogi gan awdurdod tân ac achub,
b
pan fo contract cyflogaeth deiliad y contract yn ei gwneud yn ofynnol iddo fyw yn agos at orsaf dân benodol, ac
c
pan fo’r annedd yn cael ei darparu ar ei gyfer gan yr awdurdod tân ac achub o ganlyniad i’r gofyniad hwnnw.
8Llety dros dro: tir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblygu
1
Contract safonol—
a
pan fo’r tir y mae’r annedd yn sefyll arno (gan gynnwys unrhyw dir a feddiennir ynghyd â’r annedd heblaw am dir amaethyddol sy’n fwy na 0.809 hectar) yn dir neu’n rhan o dir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblygu, a
b
pan fo’r annedd yn cael ei defnyddio gan y landlord fel llety dros dro hyd nes y bydd y tir yn cael ei ddatblygu.
2
Mae i “datblygu” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).
9Llety dros dro: trefniadau tymor byr
Contract safonol—
a
pan fo’r annedd wedi ei gosod i’r landlord â meddiant gwag i’w defnyddio fel llety dros dro,
b
pan fo telerau ei gosod yn cynnwys darpariaeth i’r lesydd gael meddiant gwag gan y landlord ar ddiwedd cyfnod penodedig neu pan fo’n ofynnol gan y lesydd,
c
nad yw’r lesydd oddi tano yn landlord cymunedol, a
d
nad oes gan y landlord unrhyw fuddiant yn yr annedd ac eithrio o dan y les dan sylw neu fel morgeisiwr.
10Llety dros dro: llety yn ystod gwaith
1
Contract safonol—
a
pan fo’r annedd (yr “annedd dros dro”) wedi ei darparu i’w meddiannu gan ddeiliad y contract tra bo gwaith yn cael ei wneud ar yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu fel cartref,
b
pan nad yw landlord yr annedd dros dro yr un â landlord yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu (yr “hen annedd”), ac
c
pan nad oedd deiliad y contract yn ddeiliad contract yr hen annedd o dan gontract diogel ar yr adeg y peidiodd â’i meddiannu fel cartref.
2
Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn cynnwys cyfeiriadau at ragflaenydd deiliaid y contract.
3
At ddibenion is-baragraff (2), mae person yn rhagflaenydd i ddeiliad contract o dan gontract safonol os oedd y person hwnnw yn ddeiliad contract blaenorol o dan yr un contract.
11Pŵer i ddiwygio’r Atodlen
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen hon drwy reoliadau.