ATODLEN 5DIWYGIADAU AMRYWIOL I DDEDDF 2016
2Addasu ac amrywio darpariaethau sylfaenol
1
Yn adran 20 (ymgorffori ac addasu darpariaethau sylfaenol)—
a
yn is-adran (1), ym mharagraff (b), hepgorer “, ym marn deiliad y contract,”;
b
yn is-adran (2), ym mharagraff (b), hepgorer “, ym marn deiliad y contract,”.
2
Yn adran 108 (cyfyngiad ar amrywio: contractau diogel), yn is-adran (3), ym mharagraff (a)(ii) hepgorer “ym marn deiliad y contract”.
3
Yn adran 127 (cyfyngiad ar amrywio: contractau safonol cyfnodol), yn is-adran (3), ym mharagraff (a)(ii) hepgorer “ym marn deiliad y contract”.
4
Yn adran 135 (cyfyngiad ar amrywio: contractau safonol cyfnod penodol), yn is-adran (3), ym mharagraff (a)(ii) hepgorer “ym marn deiliad y contract”.