Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/12/2022
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 07/06/2021.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(a gyflwynir gan adran 3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
Mae’r Atodlen hon yn gosod allan yr Atodlen 8A newydd i Ddeddf 2016, sydd i’w mewnosod ar ôl Atodlen 8—
(a gyflwynir gan adrannau 174, 174A, 195 a 195A)
1Contract safonol ymddygiad gwaharddedig.
2Contract safonol na fyddai’n gontract meddiannaeth oni bai am hysbysiad o dan baragraff 3 o Atodlen 2 (llety gwyliau; sefydliadau gofal; trefniadau hwylus dros dro; llety a rennir).
3(1)Contract safonol—
(a)pan fo’r landlord yn sefydliad addysg uwch, a
(b)pan fo’r hawl i feddiannu yn cael ei rhoi at ddiben galluogi deiliad y contract i fynychu cwrs astudio yn y sefydliad hwnnw, neu mewn sefydliad addysg uwch arall (pa un a roddir yr hawl i feddiannu at ddiben arall hefyd ai peidio).
(2)Ystyr “sefydliad addysg uwch” yw sefydliad yn y sector addysg uwch (o fewn ystyr adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13)).
4Contract safonol â chymorth.
5Contract safonol a wneir er mwyn darparu llety o dan Ran 6 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (p. 33) (cymorth i geiswyr lloches, etc.).
6Contract safonol a wneir fel y disgrifir ym mharagraff 11 neu 12 o Atodlen 2 (llety i bersonau digartref).
7Contract safonol pan fo’n ofynnol i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd yn ôl ei gontract cyflogaeth.
8Contract safonol—
(a)pan fo deiliad y contract yn aelod o heddlu, a
(b)pan fo’r annedd yn cael ei darparu i ddeiliad y contract yn ddi-rent o dan reoliadau a wnaed o dan adran 50 o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p. 16) (rheoliadau cyffredinol o ran llywodraethu, gweinyddu ac amodau gwasanaeth).
9Contract safonol—
(a)pan fo deiliad y contract yn cael ei gyflogi gan awdurdod tân ac achub,
(b)pan fo contract cyflogaeth deiliad y contract yn ei gwneud yn ofynnol iddo fyw yn agos at orsaf dân benodol, ac
(c)pan fo’r annedd yn cael ei darparu ar ei gyfer gan yr awdurdod tân ac achub o ganlyniad i’r gofyniad hwnnw.
10(1)Contract safonol—
(a)pan fo’r tir y mae’r annedd yn sefyll arno (gan gynnwys unrhyw dir a feddiennir ynghyd â’r annedd heblaw am dir amaethyddol sy’n fwy na 0.809 hectar) yn dir neu’n rhan o dir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblygu, a
(b)pan fo’r annedd yn cael ei defnyddio gan y landlord fel llety dros dro hyd nes y bydd y tir yn cael ei ddatblygu.
(2)Mae i “datblygu” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).
11Contract safonol—
(a)pan fo’r annedd wedi ei gosod i’r landlord â meddiant gwag i’w defnyddio fel llety dros dro,
(b)pan fo telerau ei gosod yn cynnwys darpariaeth i’r lesydd gael meddiant gwag gan y landlord ar ddiwedd cyfnod penodedig neu pan fo’n ofynnol gan y lesydd,
(c)nad yw’r lesydd oddi tano yn landlord cymunedol, a
(d)nad oes gan y landlord unrhyw fuddiant yn yr annedd ac eithrio o dan y les dan sylw neu fel morgeisiwr.
12(1)Contract safonol—
(a)pan fo’r annedd (yr “annedd dros dro”) wedi ei darparu i’w meddiannu gan ddeiliad y contract tra bo gwaith yn cael ei wneud ar yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu fel cartref,
(b)pan nad yw landlord yr annedd dros dro yr un â landlord yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu (yr “hen annedd”), ac
(c)pan nad oedd deiliad y contract yn ddeiliad contract yr hen annedd o dan gontract diogel ar yr adeg y peidiodd â’i meddiannu fel cartref.
(2)Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn cynnwys cyfeiriadau at ragflaenydd deiliaid y contract.
(3)At ddibenion is-baragraff (2), mae person yn rhagflaenydd i ddeiliad contract o dan gontract safonol os oedd y person hwnnw yn ddeiliad contract blaenorol o dan yr un contract.
13Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen hon drwy reoliadau.”
(a gyflwynir gan adran 6)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
Mae’r Atodlen hon yn gosod allan yr Atodlen 9A newydd i Ddeddf 2016, sydd i’w mewnosod (ynghyd â’r Atodlenni 9B a 9C newydd) ar ôl Atodlen 9—
(a gyflwynir gan adrannau 176, 186A a 197)
1Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan—
(a)na roddwyd datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract o dan adran 31(1) (gofyniad i ddarparu datganiad ysgrifenedig ar ddechrau contract), neu
(b)bo’r landlord yn ymwybodol fod deiliad y contract wedi newid, ac na roddwyd datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad newydd y contract o dan adran 31(2) (gofyniad i roi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad newydd y contract).
2Ni chaiff landlord sydd wedi methu â chydymffurfio ag adran 31(1) neu (2) roi hysbysiad yn ystod y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract.
3Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan na fo’r landlord wedi darparu hysbysiad sy’n ofynnol o dan adran 39 (dyletswydd i ddarparu gwybodaeth).
4(1)Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan na fo sicrwydd y gofynnodd y landlord amdano mewn cysylltiad â’r contract ar ffurf nad yw adran 43 yn ei chaniatáu wedi ei ddychwelyd i’r person a’i rhoddodd.
(2)Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan fo unrhyw un neu ragor o is-baragraffau (3) i (5) yn gymwys oni bai—
(a)bod blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract wedi ei ddychwelyd i ddeiliad y contract (neu i unrhyw berson a dalodd y blaendal ar ei ran) naill ai’n llawn neu ar ôl tynnu unrhyw symiau a gytunwyd, neu
(b)bod cais i’r llys sirol wedi ei wneud o dan baragraff 2 o Atodlen 5 a bod y llys sirol wedi dyfarnu arno, ei fod wedi ei dynnu’n ôl, neu ei fod wedi ei setlo drwy gytundeb rhwng y partïon.
(3)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os oes blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â’r contract, ond ni chydymffurfiwyd â gofynion cychwynnol cynllun blaendal awdurdodedig.
(4)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os oes blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â’r contract, ond nid yw’r landlord wedi darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol yn ôl adran 45(2)(b).
(5)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os nad yw blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract yn cael ei ddal yn unol â chynllun blaendal awdurdodedig.
5(1)Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan fo—
(a)taliad gwaharddedig (o fewn ystyr Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) wedi ei wneud mewn perthynas â’r contract fel a ddisgrifir yn adran 2 neu 3 o’r Ddeddf honno, a
(b)y taliad gwaharddedig heb ei ad-dalu.
(2)Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan fo—
(a)blaendal cadw (o fewn ystyr Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) a dalwyd mewn perthynas â’r contract heb ei ad-dalu, a
(b)methiant i ad-dalu’r blaendal yn gyfystyr â thorri gofynion Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.
(3)Wrth benderfynu at ddibenion y paragraff hwn a yw taliad gwaharddedig neu flaendal cadw wedi ei ad-dalu, mae’r taliad neu’r blaendal i’w drin fel pe bai wedi ei ad-dalu i’r graddau (os o gwbl) y mae wedi ei gymhwyso tuag at y naill neu’r llall o’r canlynol, neu’r ddau ohonynt—
(a)taliad rhent o dan y contract;
(b)taliad sy’n ofynnol fel sicrwydd mewn cysylltiad â’r contract.
6Yn yr Atodlen hon, ystyr “hysbysiad” yw hysbysiad o dan—
(a)adran 173 (hysbysiad y landlord o dan gontract safonol cyfnodol);
(b)adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol);
(c)cymal terfynu’r landlord mewn contract safonol cyfnod penodol.
7(1)Mae Rhan 1 o’r Atodlen hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob—
(a)contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract,
(b)contract safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186 fel un o delerau’r contract, ac
(c)contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.
(2)Mae adran 20 yn darparu—
(a)bod rhaid ymgorffori Rhan 1 o’r Atodlen hon, a
(b)na chaniateir ymgorffori Rhan 1 o’r Atodlen hon ynghyd ag addasiadau iddi.
8Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen hon drwy reoliadau.”
(a gyflwynir gan adran 10)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 3 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
Mae’r Atodlen hon yn gosod allan yr Atodlen 9B newydd i Ddeddf 2016, sydd i’w mewnosod (ynghyd â’r Atodlenni 9A a 9C newydd) ar ôl Atodlen 9—
(a gyflwynir gan adran 186)
1Contract safonol na fyddai’n gontract meddiannaeth oni bai am hysbysiad o dan baragraff 3 o Atodlen 2 (llety gwyliau; sefydliadau gofal; trefniadau hwylus dros dro; llety a rennir).
2Contract safonol â chymorth.
3Contract safonol a wneir er mwyn darparu llety o dan Ran 6 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (p. 33) (cymorth i geiswyr lloches, etc.).
4Contract safonol a wneir fel y disgrifir ym mharagraff 11 neu 12 o Atodlen 2 (llety i bersonau digartref).
5Contract safonol pan fo’n ofynnol i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd yn ôl ei gontract cyflogaeth.
6Contract safonol—
(a)pan fo deiliad y contract yn aelod o heddlu, a
(b)pan fo’r annedd yn cael ei darparu i ddeiliad y contract yn ddi-rent o dan reoliadau a wnaed o dan adran 50 o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p. 16) (rheoliadau cyffredinol o ran llywodraethu, gweinyddu ac amodau gwasanaeth).
7Contract safonol—
(a)pan fo deiliad y contract yn cael ei gyflogi gan awdurdod tân ac achub,
(b)pan fo contract cyflogaeth deiliad y contract yn ei gwneud yn ofynnol iddo fyw yn agos at orsaf dân benodol, ac
(c)pan fo’r annedd yn cael ei darparu ar ei gyfer gan yr awdurdod tân ac achub o ganlyniad i’r gofyniad hwnnw.
8(1)Contract safonol—
(a)pan fo’r tir y mae’r annedd yn sefyll arno (gan gynnwys unrhyw dir a feddiennir ynghyd â’r annedd heblaw am dir amaethyddol sy’n fwy na 0.809 hectar) yn dir neu’n rhan o dir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblygu, a
(b)pan fo’r annedd yn cael ei defnyddio gan y landlord fel llety dros dro hyd nes y bydd y tir yn cael ei ddatblygu.
(2)Mae i “datblygu” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).
9Contract safonol—
(a)pan fo’r annedd wedi ei gosod i’r landlord â meddiant gwag i’w defnyddio fel llety dros dro,
(b)pan fo telerau ei gosod yn cynnwys darpariaeth i’r lesydd gael meddiant gwag gan y landlord ar ddiwedd cyfnod penodedig neu pan fo’n ofynnol gan y lesydd,
(c)nad yw’r lesydd oddi tano yn landlord cymunedol, a
(d)nad oes gan y landlord unrhyw fuddiant yn yr annedd ac eithrio o dan y les dan sylw neu fel morgeisiwr.
10(1)Contract safonol—
(a)pan fo’r annedd (yr “annedd dros dro”) wedi ei darparu i’w meddiannu gan ddeiliad y contract tra bo gwaith yn cael ei wneud ar yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu fel cartref,
(b)pan nad yw landlord yr annedd dros dro yr un â landlord yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu (yr “hen annedd”), ac
(c)pan nad oedd deiliad y contract yn ddeiliad contract yr hen annedd o dan gontract diogel ar yr adeg y peidiodd â’i meddiannu fel cartref.
(2)Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn cynnwys cyfeiriadau at ragflaenydd deiliaid y contract.
(3)At ddibenion is-baragraff (2), mae person yn rhagflaenydd i ddeiliad contract o dan gontract safonol os oedd y person hwnnw yn ddeiliad contract blaenorol o dan yr un contract.
11Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen hon drwy reoliadau.”
(a gyflwynir gan adran 11)
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 4 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
Mae’r Atodlen hon yn gosod allan yr Atodlen 9C newydd i Ddeddf 2016, sydd i’w mewnosod (ynghyd â’r Atodlenni 9A a 9B newydd) ar ôl Atodlen 9—
(a gyflwynir gan adran 194)
1Contract safonol na fyddai’n gontract meddiannaeth oni bai am hysbysiad o dan baragraff 3 o Atodlen 2 (llety gwyliau; sefydliadau gofal; trefniadau hwylus dros dro; llety a rennir).
2Contract safonol â chymorth.
3Contract safonol a wneir er mwyn darparu llety o dan Ran 6 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (p. 33) (cymorth i geiswyr lloches, etc.).
4Contract safonol a wneir fel y disgrifir ym mharagraff 11 neu 12 o Atodlen 2 (llety i bersonau digartref).
5Contract safonol pan fo’n ofynnol i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd yn ôl ei gontract cyflogaeth.
6Contract safonol—
(a)pan fo deiliad y contract yn aelod o heddlu, a
(b)pan fo’r annedd yn cael ei darparu i ddeiliad y contract yn ddi-rent o dan reoliadau a wnaed o dan adran 50 o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p. 16) (rheoliadau cyffredinol o ran llywodraethu, gweinyddu ac amodau gwasanaeth).
7Contract safonol—
(a)pan fo deiliad y contract yn cael ei gyflogi gan awdurdod tân ac achub,
(b)pan fo contract cyflogaeth deiliad y contract yn ei gwneud yn ofynnol iddo fyw yn agos at orsaf dân benodol, ac
(c)pan fo’r annedd yn cael ei darparu ar ei gyfer gan yr awdurdod tân ac achub o ganlyniad i’r gofyniad hwnnw.
8(1)Contract safonol—
(a)pan fo’r tir y mae’r annedd yn sefyll arno (gan gynnwys unrhyw dir a feddiennir ynghyd â’r annedd heblaw am dir amaethyddol sy’n fwy na 0.809 hectar) yn dir neu’n rhan o dir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblygu, a
(b)pan fo’r annedd yn cael ei defnyddio gan y landlord fel llety dros dro hyd nes y bydd y tir yn cael ei ddatblygu.
(2)Mae i “datblygu” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).
9Contract safonol—
(a)pan fo’r annedd wedi ei gosod i’r landlord â meddiant gwag i’w defnyddio fel llety dros dro,
(b)pan fo telerau ei gosod yn cynnwys darpariaeth i’r lesydd gael meddiant gwag gan y landlord ar ddiwedd cyfnod penodedig neu pan fo’n ofynnol gan y lesydd,
(c)nad yw’r lesydd oddi tano yn landlord cymunedol, a
(d)nad oes gan y landlord unrhyw fuddiant yn yr annedd ac eithrio o dan y les dan sylw neu fel morgeisiwr.
10(1)Contract safonol—
(a)pan fo’r annedd (yr “annedd dros dro”) wedi ei darparu i’w meddiannu gan ddeiliad y contract tra bo gwaith yn cael ei wneud ar yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu fel cartref,
(b)pan nad yw landlord yr annedd dros dro yr un â landlord yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu (yr “hen annedd”), ac
(c)pan nad oedd deiliad y contract yn ddeiliad contract yr hen annedd o dan gontract diogel ar yr adeg y peidiodd â’i meddiannu fel cartref.
(2)Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn cynnwys cyfeiriadau at ragflaenydd deiliaid y contract.
(3)At ddibenion is-baragraff (2), mae person yn rhagflaenydd i ddeiliad contract o dan gontract safonol os oedd y person hwnnw yn ddeiliad contract blaenorol o dan yr un contract.
11Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen hon drwy reoliadau.”
(a gyflwynir gan adran 14)
1Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
2(1)Yn adran 20 (ymgorffori ac addasu darpariaethau sylfaenol)—
(a)yn is-adran (1), ym mharagraff (b), hepgorer “, ym marn deiliad y contract,”;
(b)yn is-adran (2), ym mharagraff (b), hepgorer “, ym marn deiliad y contract,”.
(2)Yn adran 108 (cyfyngiad ar amrywio: contractau diogel), yn is-adran (3), ym mharagraff (a)(ii) hepgorer “ym marn deiliad y contract”.
(3)Yn adran 127 (cyfyngiad ar amrywio: contractau safonol cyfnodol), yn is-adran (3), ym mharagraff (a)(ii) hepgorer “ym marn deiliad y contract”.
(4)Yn adran 135 (cyfyngiad ar amrywio: contractau safonol cyfnod penodol), yn is-adran (3), ym mharagraff (a)(ii) hepgorer “ym marn deiliad y contract”.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
3Yn adran 33 (newidiadau golygyddol i ddatganiad ysgrifenedig), yn is-adran (2) hepgorer y geiriau o “; er enghraifft” hyd at y diwedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
4Yn is-adran (7) o’r adrannau a ganlyn—
(a)adran 110 (contractau diogel: methu â darparu datganiad ysgrifenedig etc.),
(b)adran 129 (contractau safonol cyfnodol: methu â darparu datganiad ysgrifenedig etc.), ac
(c)adran 137 (contractau safonol cyfnod penodol: methu â darparu datganiad ysgrifenedig etc.),
yn lle’r geiriau o “cyfeiriadau” hyd at y diwedd rhodder “, yn is-adran (3) o’r adrannau hynny, y geiriau “dechrau â’r diwrnod yr amrywiwyd y contract” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “dechrau” hyd at y diwedd”.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
5(1)Yn adran 242 (dehongli Pennod 3 o Ran 10), yn y diffiniad o “tenantiaeth ddiogel”, hepgorer y geiriau o “, ond nid yw’n cynnwys tenantiaeth cymdeithas dai” hyd at y diwedd.
(2)Yn Atodlen 2 (eithriadau i adran 7), ym mharagraff 7 (tenantiaethau a thrwyddedau nad ydynt byth yn gontractau meddiannaeth), hepgorer is-baragraff (3)(d).
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
6(1)Ar ôl adran 239 (diddymu tenantiaethau sicr, tenantiaethau diogel a thenantiaethau eraill) mewnosoder—
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r Ddeddf hon at ddiben—
(a)darparu nad yw darpariaethau penodol yn gymwys mewn perthynas â thenantiaeth neu drwydded y mae is-adran (2) yn gymwys iddi;
(b)gwneud darpariaeth newydd nad yw ond yn gymwys i denantiaeth neu drwydded y mae is-adran (2) yn gymwys iddi;
(c)gwneud darpariaeth mewn perthynas â diwedd cyfnod tenantiaeth hir (o fewn ystyr paragraff 8 o Atodlen 2).
(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw denantiaeth neu drwydded a fyddai, oni bai am adran 239, wedi bod yn denantiaeth neu’n drwydded o’r math a restrir yn is-adran (1) o’r adran honno, neu a fyddai wedi ei thrin fel tenantiaeth neu drwydded o’r math hwnnw;
(3)Caiff Rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch tenantiaethau neu drwyddedau nad ydynt yn gontractau meddiannaeth, ac nad ydynt yn gallu bod yn gontract o’r fath.”
(2)Yn adran 256 (rheoliadau), yn is-adran (4), ar ôl paragraff (g) mewnosoder—
“(ga)adran 239A (pŵer i wneud darpariaeth ynghylch tenantiaethau a thrwyddedau penodol),”.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
7Yn adran 246 (ystyr “annedd”), yn is-adran (1) yn lle “sy’n gyfan gwbl” rhodder “sydd”.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
8Yn adran 255 (pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.), yn is-adran (2) hepgorer y geiriau o “a ddeddfwyd neu a wnaed” hyd at y diwedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
9(1)Yn Atodlen 3 (contractau meddiannaeth a wneir gyda neu a fabwysiedir gan landlordiaid cymunedol y caniateir iddynt fod yn gontractau safonol), hepgorer paragraff 5.
(2)Yn Atodlen 9 (contractau safonol nad yw’r cyfyngiadau yn adrannau 175, 186(2) a 196 yn gymwys iddynt), hepgorer paragraff 5.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 5 para. 9 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
10Yn Atodlen 3 (contractau meddiannaeth a wneir gyda neu a fabwysiedir gan landlordiaid cymunedol y caniateir iddynt fod yn gontractau safonol), ym mharagraff 10(1), ar ôl “addysgol” mewnosoder “yn unig”.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 5 para. 10 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
11(1)Yn adran 61 (methiant i gydymffurfio ag amodau a osodir gan y prif landlord), yn y testun Cymraeg, yn is-adran (5), yn lle “wedi ei wneud yn” rhodder “wedi ei wneud mewn modd nad yw’n”.
(2)Yn adran 163 (hysbysiad deiliad y contract), yn y testun Cymraeg, yn is-adran (2), yn lle “meddiannaeth” rhodder “diogel”.
(3)Yn adran 165 (adennill meddiant), yn y testun Cymraeg, yn is-adran (3), yn lle “meddiannaeth” rhodder “diogel”.
(4)Yn adran 236 (ffurf hysbysiadau, datganiadau a dogfennau eraill), yn y testun Cymraeg, yn is-adran (5), yn lle “wedi ei ddilysu” rhodder “ardystiedig”.
(5)Yn Atodlen 11 (llety arall addas), yn y testun Cymraeg, ym mharagraff 3, yn is-baragraff (2)(a), yn lle “diogelwch meddiant iddo” rhodder “sicrwydd iddo o ran meddiannaeth”.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 5 para. 11 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
(a gyflwynir gan adran 18)
1Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
2LL+CYn adran 20 (ymgorffori ac addasu darpariaethau sylfaenol), yn is-adran (3)—
(a)hepgorer paragraffau (k) i (o), a’r “a” sy’n dilyn paragraff (o);
(b)ar ôl paragraff (p) mewnosoder “, a
(q)Rhan 1 o Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adrannau 173 a 186 ac o dan gymal terfynu’r landlord).”
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
3LL+CYn adran 22 (pwerau o ran darpariaethau sylfaenol), hepgorer is-adran (3).
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
4LL+CYn adran 34 (methu â darparu datganiad ysgrifenedig) ar ôl is-adran (5) mewnosoder—
“(6)Mae paragraffau 1 a 2 o Atodlen 9A yn gwneud darpariaeth yn ymwneud â chontractau safonol cyfnodol, a chontractau safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186 neu sy’n cynnwys cymal terfynu’r landlord, sy’n atal landlord rhag rhoi hysbysiad (o dan adran 173 neu 186 neu o dan gymal terfynu’r landlord) sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad contract ildio meddiant, os nad yw’r landlord wedi darparu datganiad ysgrifenedig o’r contract o dan adran 31(1) neu (2).”
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
5LL+CYn adran 37 (datganiad anghywir: cais deiliad y contract i’r llys), yn is-adran (2), ym mharagraff (b) yn lle “, 124(2) i (4) neu 126(1) i (4)” rhodder “neu 124(2) i (4)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
6LL+CYn adran 39 (y landlord yn darparu gwybodaeth am y landlord), yn lle is-adran (4) rhodder—
“(4)Mae paragraff 3 o Atodlen 9A yn gwneud darpariaeth yn ymwneud â chontractau safonol cyfnodol, a chontractau safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186 neu sy’n cynnwys cymal terfynu’r landlord, sy’n atal landlord rhag rhoi hysbysiad (o dan adran 173 neu 186 neu o dan gymal terfynu’r landlord) sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad contract ildio meddiant, os nad yw’r landlord wedi darparu hysbysiad sy’n ofynnol o dan yr adran hon.
(5)Mae is-adrannau (1) i (3) o’r adran hon yn ddarpariaethau sylfaenol sydd wedi eu hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.”
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
7LL+CYn adran 46 (cynlluniau blaendal: darpariaeth bellach), yn is-adran (2), yn lle’r geiriau o “Mae adrannau 177 a 198 yn gwneud” hyd at “rhoi hysbysiad” rhodder “Mae paragraff 4 o Atodlen 9A yn gwneud darpariaeth yn ymwneud â chontractau safonol cyfnodol a chontractau safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186 neu sy’n cynnwys cymal terfynu’r landlord, sy’n atal landlord rhag rhoi hysbysiad (o dan adran 173 neu 186 neu o dan gymal terfynu’r landlord)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
8LL+CYn adran 65 (gorchymyn adennill meddiant estynedig yn erbyn isddeiliad), yn is-adran (3), ym mharagraff (a) yn lle’r geiriau o “copi” hyd at “adran honno” rhodder “hysbysiad yn unol ag adran 64(2)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
9LL+CYn adran 122 (amrywio), yn is-adran (1), ym mharagraff (a) yn lle “126” rhodder “125”.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 6 para. 9 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
10LL+CYn adran 127 (cyfyngiad ar amrywio: contractau safonol cyfnodol), yn is-adran (2)—
(a)ym mharagraff (b), hepgorer “ac adran 177 (torri’r rheolau blaendal)”;
(b)hepgorer paragraff (i), a’r “a” sy’n ei ddilyn;
(c)ar ôl paragraff (j) mewnosoder “, a
(k)Rhan 1 o Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad y landlord o dan adran 173: torri rhwymedigaethau statudol)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 6 para. 10 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
11LL+CYn adran 128 (datganiad ysgrifenedig yn cofnodi amrywiad), yn is-adran (1) yn lle “, 124(2) i (4) neu 126(1) i (4)” rhodder “neu 124(2) i (4)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 6 para. 11 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
12LL+CYn adran 135 (cyfyngiad ar amrywio: contractau safonol cyfnod penodol)—
(a)yn is-adran (2)—
(i)hepgorer paragraffau (i) a (j) (ond nid yr “a” sy’n dilyn paragraff (j));
(ii)yn lle paragraff (k) rhodder—
“(k)Rhan 1 o Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 186 ac o dan gymal terfynu’r landlord: torri rhwymedigaethau statudol).”;
(b)yn is-adran (6), hepgorer y geiriau o “, ond nid yw is-adran (2)(k)” hyd at “deiliad y contract”.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 6 para. 12 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
13LL+CYn adran 147 (trosolwg o Ran 9), yn nhabl 1, yng ngholofn dde y cofnod ar gyfer Pennod 1, yn lle “adran 161” rhodder “adran 160”.
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 6 para. 13 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
14LL+CYn adran 150 (hysbysiadau adennill meddiant), yn is-adran (1)—
(a)ar ôl “ddeiliad contract” mewnosoder “o dan unrhyw un o’r adrannau a ganlyn”;
(b)ar y diwedd, mewnosoder “—
(a)adran 159 (mewn perthynas â thor contract gan ddeiliad contract);
(b)adran 161 (mewn perthynas â seiliau rheoli ystad);
(c)adran 166, 171 neu 192 (mewn perthynas â hysbysiad deiliad y contract);
(d)adran 182 neu 188 (mewn perthynas ag ôl-ddyledion rhent difrifol o dan gontract safonol).”
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 6 para. 14 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
15LL+CYn adran 175 (cyfyngiad ar roi hysbysiad o dan adran 173 yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth), yn is-adran (4) hepgorer y geiriau o “ac mae adran 20 yn darparu” hyd at y diwedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 6 para. 15 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
16LL+CYn adran 181 (ôl-ddyledion rhent difrifol), yn y testun Seasneg, yn is-adran (1), yn lle “in serious rent arrears” rhodder “seriously in arrears with his or her rent”.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 6 para. 16 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
17LL+CYn adran 183 (perthnasedd digwyddiadau o dan gontract safonol cyfnod penodol i gontract safonol cyfnodol sy’n bodoli yn sgil diwedd y cyfnod penodol)—
(a)yn is-adran (1)—
(i)hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (a);
(ii)ar ôl paragraff (b) mewnosoder “neu
(c)hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord,”;
(b)yn lle is-adran (2) rhodder—
“(2)Mae adrannau 179 a 180—
(a)yn gymwys i hysbysiad o dan adran 186(1) fel y maent yn gymwys i hysbysiad o dan adran 173, a
(b)yn gymwys i hawliad meddiant a wneir ar y sail yn adran 186(5) gan ddibynnu ar hysbysiad o’r fath fel y maent yn gymwys i hawliad meddiant a wneir ar y sail yn adran 178 gan ddibynnu ar hysbysiad o dan adran 173.”
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. 6 para. 17 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
18LL+CYn adran 196 (cyfyngiadau ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth), yn is-adran (4) hepgorer y geiriau o “ac mae adran 20 yn darparu” hyd at y diwedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 6 para. 18 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
19LL+CYn adran 204 (hawliadau meddiant), yn is-adran (1), ym mharagraff (a)—
(a)yn y testun Saesneg, yn lle “following sections” rhodder “following provisions”;
(b)hepgorer is-baragraff (i);
(c)yn is-baragraff (vi), yn lle “yn ystod pedwar mis cyntaf” rhodder “tan ar ôl chwe mis cyntaf”;
(d)yn is-baragraff (vii), yn lle “176, 177” rhodder “177, 177A”;
(e)yn is-baragraff (xii), yn lle “yn ystod pedwar mis cyntaf” rhodder “tan ar ôl 18 mis cyntaf”;
(f)yn is-baragraff (xiii), hepgorer “197,”;
(g)ar ôl is-baragraff (xiv) (ac o flaen y “neu” sy’n ei ddilyn) mewnosoder—
“(xv)Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adrannau 173 a 186 ac o dan gymal terfynu’r landlord: torri rhwymedigaethau statudol),”.
Gwybodaeth Cychwyn
I34Atod. 6 para. 19 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
20LL+CYn adran 253 (mynegai), yn nhabl 2, yng ngholofn dde y cofnod ar gyfer “hysbysiad adennill meddiant”, yn lle “adran 150” rhodder “adrannau 159, 161, 166, 171, 182, 188 a 192 (a gweler hefyd adran 150)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 6 para. 20 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
21LL+CYn adran 256 (rheoliadau)—
(a)yn is-adran (2) yn lle “i ddeddfiad, ac eithrio darpariaeth yn y Ddeddf hon, a gwneud addasiadau, diddymiadau a dirymiadau i unrhyw ddeddfiad heblaw am ddarpariaeth yn y Ddeddf hon” rhodder “, addasiadau, diddymiadau a dirymiadau i unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth yn y Ddeddf hon)”;
(b)yn is-adran (4)—
(i)ar ôl paragraff (d) mewnosoder—
“(da)adran 121 (pŵer i ddiwygio’r Ddeddf mewn perthynas â’r pŵer i wahardd deiliad contract o dan gontract safonol cyfnodol o annedd am gyfnodau penodol),
(db)adran 133 (pŵer i ddiwygio’r Ddeddf mewn perthynas â’r pŵer i wahardd deiliad contract o dan gontract safonol cyfnod penodol o annedd am gyfnodau penodol),”;
(ii)ar ôl paragraff (l) mewnosoder—
“(la)paragraff 13 o Atodlen 8A (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),”;
(c)ar ôl paragraff (m) (ac o flaen yr “ac” sy’n ei ddilyn) mewnosoder—
“(ma)paragraff 8 o Atodlen 9A (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),
(mb)paragraff 11 o Atodlen 9B (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),
(mc)paragraff 11 o Atodlen 9C (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),”.
Gwybodaeth Cychwyn
I36Atod. 6 para. 21 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
22(1)Mae Atodlen 1 (trosolwg o ddarpariaethau sylfaenol a ymgorfforir fel telerau contractau meddiannaeth) wedi ei diwygio fel a ganlyn.LL+C
(2)Yn Rhan 2 (contractau safonol cyfnodol), yn nhabl 4—
(a)yn y cofnod ar gyfer adrannau 122 i 128, yn y drydedd golofn (nodiadau)—
(i)yn lle “122(1)(a)” rhodder “122(1)(b)”, a
(ii)hepgorer y geiriau o “Nid yw adrannau 125(1)(b) a 126 wedi eu hymgorffori” hyd y diwedd;
(b)yn y cofnod ar gyfer adrannau 173 i 180—
(i)yn lle’r testun yn y golofn gyntaf (darpariaeth sylfaenol) rhodder “Adrannau 173 i 175 a 177 i 180, a Rhan 1 o Atodlen 9A”;
(ii)yn lle’r testun yn y drydedd golofn (nodiadau) rhodder “Os nad yw adran 173 yn cael ei hymgorffori, nid yw adrannau 174 i 177A nac Atodlen 9A yn gymwys; ond os yw’r contract yn ymgorffori adran 173, rhaid ymgorffori Rhan 1 o Atodlen 9A heb addasiadau iddi. Mae adran 174A yn gymwys yn hytrach nag adran 174 i gontract sydd o fewn Atodlen 8A, ac nid yw adran 175 yn gymwys i gontract sydd o fewn Atodlen 9 (hyd yn oed os yw adran 173 wedi ei hymgorffori).”
(3)Yn Rhan 3 (contractau safonol cyfnod penodol), yn nhabl 5—
(a)yn y cofnod ar gyfer adran 186, yn lle’r testun yn y drydedd golofn (nodiadau) rhodder “Nid yw ond yn gymwys os yw’r contract o fewn Atodlen 9B. Os yw’r contract yn ymgorffori adran 186, rhaid ymgorffori Rhan 1 o Atodlen 9A heb addasiadau iddi.”;
(b)yn y cofnod ar gyfer adrannau 195 i 201—
(i)yn lle’r testun yn y golofn gyntaf (darpariaeth sylfaenol) rhodder “Adrannau 195, 195A a 196, a 198 i 201, a Rhan 1 o Atodlen 9A”;
(ii)yn lle’r testun yn y drydedd golofn (nodiadau) rhodder “Nid yw ond yn gymwys os yw’r contract yn cynnwys cymal terfynu’r landlord; ond os oes gan y contract gymal terfynu’r landlord, rhaid ymgorffori Rhan 1 o Atodlen 9A heb addasiadau iddi. Mae adran 195A yn gymwys yn lle adran 195 i gontract sydd o fewn Atodlen 8A, ac nid yw adran 196 yn gymwys i gontract sydd o fewn Atodlen 9.”
Gwybodaeth Cychwyn
I37Atod. 6 para. 22 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
23LL+CYn Atodlen 3 (contractau meddiannaeth a wneir gyda neu a fabwysiedir gan landlordiaid cymunedol y caniateir iddynt fod yn gontractau safonol), ym mharagraff 4, ac yn y croes-bennawd sy’n ei ragflaenu, ar ôl “lloches” mewnosoder “, etc.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I38Atod. 6 para. 23 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
24LL+CYn Atodlen 4 (contractau safonol rhagarweiniol), ym mharagraff 3, yn is-baragraff (7) hepgorer y geiriau o “; mae’r pŵer o dan adran 256(2)” hyd at y diwedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I39Atod. 6 para. 24 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
25(1)Mae Atodlen 7 (contractau safonol ymddygiad gwaharddedig) wedi ei diwygio fel a ganlyn.LL+C
(2)Ym mharagraff 2, yn is-baragraff (8) yn lle “yn ystod pedwar mis cyntaf” rhodder “tan ar ôl chwe mis cyntaf”.
(3)Ym mharagraff 4, yn is-baragraff (7) hepgorer y geiriau o “; mae’r pŵer o dan adran 256(2)” hyd at y diwedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I40Atod. 6 para. 25 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
26(1)Mae Atodlen 9 (contractau safonol nad yw’r cyfyngiadau yn adrannau 175, 186(2) a 196 yn gymwys iddynt) wedi ei diwygio fel a ganlyn.LL+C
(2)Ym mharagraff 3, yn lle “Contract safonol sy’n ymwneud â llety â chymorth” rhodder “Contract safonol â chymorth”.
(3)Ym mharagraff 4, ac yn y croes-bennawd sy’n ei ragflaenu, ar ôl “lloches” mewnosoder “, etc.”.
(4)Yn y pennawd—
(a)hepgorer “, 186(2)”;
(b)yn lle “(HYSBYSIAD Y LANDLORD YN YSTOD CHWE MIS CYNTAF MEDDIANNAETH)” rhodder “(PRYD Y CANIATEIR RHOI HYSBYSIAD Y LANDLORD)”.
(5)Yn y geiriau rhagarweiniol, hepgorer “, 186”.
Gwybodaeth Cychwyn
I41Atod. 6 para. 26 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
27(1)Mae Atodlen 12 (trosi tenantiaethau a thrwyddedau presennol sy’n bodoli cyn i Bennod 3 o Ran 10 o Ddeddf 2016 ddod i rym) wedi ei diwygio fel a ganlyn.LL+C
(2)Ym mharagraff 11 (datganiad ysgrifenedig o gontract wedi ei drosi), ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—
“(1A)Nid yw adran 31(2) (rhoi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad contract newydd) yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi yn ystod y cyfnod darparu gwybodaeth.”
(3)Ar ôl paragraff 12 (darparu gwybodaeth) mewnosoder—
“12A(1)Mae Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173, o dan adran 186, ac o dan gymal terfynu’r landlord) yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi fel pe bai—
(a)paragraff 1 wedi ei hepgor, a
(b)y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff 2—
2Os—
(a)yw’n ofynnol i landlord ddarparu datganiad ysgrifenedig o’r contract o dan baragraff 11(1) o Atodlen 12, neu o dan adran 31(2) (pan na fo wedi ei ddatgymhwyso gan baragraff 11(1A) o’r Atodlen honno), a
(b)yw’r landlord wedi methu â chydymffurfio â pharagraff 11(1) neu adran 31(2),
ni chaiff y landlord roi hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddodd y landlord y datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract.””
(4)Ym mharagraff 23 (contractau safonol rhagarweiniol), yn is-baragraff (3), yn lle “Mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai’r” rhodder “Mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai—
(a)yn adran 174 (hysbysiad y landlord: y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir), y cyfeiriad yn is-adran (1) at “chwe mis” yn gyfeiriad at “dau fis”,
(b)yn adran 175 (hysbysiad y landlord: cyfyngiad ar roi hysbysiad tan ar ôl chwe mis cyntaf meddiannaeth), y cyfeiriadau yn is-adrannau (1) a (2) at “chwe mis” yn gyfeiriadau at “bedwar mis” (a’r cyfeiriad yn y pennawd at “chwe mis” yn gyfeiriad at “pedwar mis”), ac
(c)”.
(5)Ar ôl paragraff 25 (landlord yn terfynu’r contract) mewnosoder—
“25A(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract safonol cyfnodol a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth fyrddaliol sicr.
(2)Mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai—
(a)yn adran 174 (hysbysiad y landlord: y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir), y cyfeiriad yn is-adran (1) at “chwe mis” yn gyfeiriad at “dau fis”, a
(b)yn adran 175 (hysbysiad y landlord: cyfyngiad ar roi hysbysiad tan ar ôl chwe mis cyntaf meddiannaeth), y cyfeiriadau yn is-adrannau (1) a (2) at “chwe mis” yn gyfeiriad at “bedwar mis” (a’r cyfeiriad yn y pennawd at “chwe mis” yn gyfeiriad at “pedwar mis”).”
(6)Ar ôl paragraff 25A (a fewnosodir gan is-baragraff (5)) mewnosoder—
“25B(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract safonol cyfnod penodol—
(a)a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth neu’n drwydded am gyfnod penodol, a
(b)nad yw o fewn Atodlen 9B.
(2)Caiff y landlord, cyn neu ar ddiwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract ar ei gyfer, roi hysbysiad i ddeiliad y contract fod rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(3)Ni chaiff y dyddiad a bennir fod yn llai na chwe mis ar ôl—
(a)y dyddiad meddiannu (gweler paragraff 31), neu
(b)os, yn union cyn y diwrnod penodedig, oedd y contract wedi ei drosi yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y diwrnod y daeth deiliad y contract i fod â hawl i feddiannu’r annedd o dan y denantiaeth neu’r drwydded wreiddiol.
(4)Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), o ran y dyddiad a bennir—
(a)ni chaiff fod cyn diwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract wedi ei drosi ar ei gyfer, a
(b)ni chaiff fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
(5)At ddibenion is-baragraff (3)—
(a)roedd contract wedi ei drosi yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall—
(i)os yw dyddiad meddiannu’r contract wedi ei drosi yn dod yn union ar ôl diwedd tenantiaeth neu drwydded flaenorol,
(ii)os oedd, yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract wedi ei drosi, tenant neu drwyddedai o dan y contract yn denant neu’n drwyddedai o dan y denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a landlord o dan y contract wedi ei drosi yn landlord o dan y denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a
(iii)os yw’r contract wedi ei drosi yn ymwneud â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a
(b)ystyr “tenantiaeth neu drwydded wreiddiol” yw—
(i)pan fo dyddiad meddiannu’r denantiaeth neu’r drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall yn dod yn union ar ôl diwedd tenantiaeth neu drwydded nad yw’n denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y denantiaeth neu’r drwydded a oedd yn rhagflaenu’r denantiaeth neu’r drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall;
(ii)pan fo cyfres o denantiaethau neu drwyddedau olynol yn denantiaethau neu’n drwyddedau sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y denantiaeth neu’r drwydded a oedd yn rhagflaenu’r cyntaf o’r tenantiaethau neu’r trwyddedau sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall.
(6)Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan is-baragraff (2), caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.
(7)Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno cyn diwedd y contract safonol cyfnod penodol.
(8)Mae is-baragraffau (2) i (7) yn ddarpariaethau sylfaenol sydd wedi eu hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo.
25CPan fo paragraff 25B yn gymwys, mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel be bai—
(a)cyfeiriadau at adran 186 yn cynnwys cyfeiriad at baragraff 25B,
(b)cyfeiriadau at hysbysiad o dan adran 186(1) yn cynnwys cyfeiriad at hysbysiad o dan baragraff 25B(2), ac
(c)cyfeiriadau at y sail yn adran 186(5) yn cynnwys cyfeiriad at y sail ym mharagraff 25B(6).”
(7)Ar ôl paragraff 25C (a fewnosodir gan is-baragraff (6)), mewnosoder—
“25D(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract safonol cyfnod penodol a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth neu’n drwydded am gyfnod penodol a oedd yn cynnwys cymal terfynu’r landlord.
(2)Mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai—
(a)yn adran 194 (cymal terfynu’r landlord)—
(i)yn is-adran (1), y geiriau “sydd o fewn is-adran (1A)” wedi eu hepgor, a
(ii)is-adran (1A) wedi ei hepgor,
(b)yn adran 195 (y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir), y cyfeiriad yn is-adran (1) at “chwe mis” yn gyfeiriad at “dau fis”,
(c)yn adran 196 (hysbysiad y landlord: cyfyngiad ar roi hysbysiad tan ar ôl 18 mis cyntaf meddiannaeth), y cyfeiriad yn is-adran (1) at “18 mis” yn gyfeiriad at “bedwar mis” (a’r cyfeiriad yn y pennawd at “18 mis” yn gyfeiriad at “pedwar mis”), a
(d)Atodlen 9C wedi ei hepgor.”
Gwybodaeth Cychwyn
I42Atod. 6 para. 27 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
28(1)Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (dccc 2) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 6 (cymhwyso adrannau 2 i 5 o’r Ddeddf honno i ofynion a chontractau sydd eisoes yn bodoli), hepgorer paragraff (b).
(3)Hepgorer adran 25 (tenantiaethau sicr).
Gwybodaeth Cychwyn
I43Atod. 6 para. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 19(2)
I44Atod. 6 para. 28 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/904, ergl. 2
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: