Amrywiol

15Taliadau gwasanaeth a ganiateir gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 etc.

1

Yn Atodlen 1 i Ddeddf 2019 (taliadau a ganiateir), ar ôl paragraff 10 mewnosoder—

10ATaliadau gwasanaeth sy’n daladwy i landlordiaid cymunedol etc.

1

Mae tâl gwasnaeth yn daliad a ganiateir os—

a

yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, a

b

yw’r landlord yn landlord cymunedol.

2

Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag—

a

contract meddiannaeth safonol o fewn paragraff 15 o Atodlen 3 i Ddeddf 2016 (llety nad yw’n llety cymdeithasol), neu

b

contract meddiannaeth safonol a grybwyllir yn is-baragraff (3).

3

Mae tâl gwasanaeth yn daliad a ganiateir os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol o fewn adran 143 o Ddeddf 2016 (contractau sy’n ymwneud â llety â chymorth).

4

At ddibenion y paragraff hwn—

  • ystyr “Deddf 2016” (“2016 Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1);

  • mae i “gwasanaethau cymorth” (“support services”) yr ystyr a roddir gan adran 143 o Ddeddf 2016 (gweler, yn benodol, is-adran (4) o’r adran honno);

  • mae i “landlord cymunedol” (“community landlord”) yr ystyr a roddir gan adran 9 o Ddeddf 2016;

  • nid yw “tâl gwasanaeth” (“service charge”) yn cynnwys tâl am wasanaeth pan fyddai talu’r tâl yn cael ei ganiatáu yn rhinwedd paragraff arall o’r Atodlen hon, ac mewn perthynas ag is-baragraff (3) yn unig, mae’n cynnwys taliadau am ddarparu gwasanaethau cymorth.

2

Yn adran 4 o Ddeddf 2019, ar ôl is-adran (2)(h) mewnosoder—

i

taliadau gwasanaeth;

3

Yn rheoliad 3 o’r Rheoliadau darpariaeth drosiannol—

a

yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), ar ôl “adran 20,” mewnosoder “ac is-baragraffau (2) i (3B) o baragraff 10A o Atodlen 1,”;

b

hepgorer yr “ac” ar ddiwedd is-baragraff (d);

c

ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

da

mae paragraff 10A o Atodlen 1 i’r Ddeddf i’w ddarllen fel pe bai—

i

y canlynol wedi ei roi yn lle is-baragraff (2)—

2

Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag—

a

contract meddiannaeth safonol pan nad oedd y rheolau dyrannu (o fewn ystyr paragraff 15 o Atodlen 3 i Ddeddf 2016) yn gymwys i wneud y contract, neu

b

contract meddiannaeth safonol a grybwyllir yn is-baragraff (3).

ii

y canlynol wedi ei roi yn lle is-baragraff (3)—

3

Mae tâl gwasanaeth yn daliad a ganiateir os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol sy’n ymwneud â llety â chymorth.

iii

y canlynol wedi ei roi ar ôl is-baragraff (3)—

3A

At ddibenion is-baragraff (3) mae llety yn “llety â chymorth” os—

a

yw’n cael ei ddarparu gan landlord cymunedol neu elusen gofrestredig (o fewn ystyr Deddf 2016),

b

yw’r landlord neu’r elusen (neu berson sy’n gweithredu ar ran y landlord neu’r elusen) yn darparu gwasanaethau cymorth i berson sydd â hawl i feddiannu’r llety, ac

c

oes cysylltiad rhwng darparu’r llety a darparu’r gwasanaethau cymorth.

3B

Ond nid yw llety mewn sefydliad gofal (o fewn ystyr paragraff 4 o Atodlen 2 i Ddeddf 2016) yn llety â chymorth.

4

Mae’r diwygiadau a wneir gan is-adrannau (1), (2) a (3) o’r adran hon i’w trin at bob diben fel pe baent wedi dod i rym ar 1 Medi 2019, ac eithrio—

a

bod unrhyw hysbysiad a roddwyd yn groes i adran 20(1) o Ddeddf 2019 (fel y’i haddaswyd gan y Rheoliadau darpariaeth drosiannol) cyn i’r adran hon ddod i rym i barhau i gael ei drin fel pe bai wedi ei roi yn groes i’r adran honno o Ddeddf 2019, a

b

bod unrhyw orchymyn a wnaed cyn i’r adran hon ddod i rym o dan adran 22(1) o Ddeddf 2019 (gorchmynion i adennill taliadau gwaharddedig) yn parhau i gael effaith.

5

Mae is-adran (6) yn gymwys pan fo—

a

cyn i’r adran hon ddod i rym, landlord o dan denantiaeth fyrddaliadol sicr wedi ei gwneud yn ofynnol i dâl gwasanaeth gael ei dalu mewn cysylltiad â’r denantiaeth, a

b

yn rhinwedd is-adran (4) o’r adran hon, y taliad sy’n ofynnol gan y landlord yn daliad a ganiateir at ddibenion Deddf 2019 (gweler adran 4 o’r Ddeddf honno).

6

Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adran 21 mewn cysylltiad â’r tŷ annedd a osodwyd ar y denantiaeth yn ystod y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r adran hon i rym.

7

Yn yr adran hon—