Rhoi hysbysiad y landlord a thynnu’r hysbysiad yn ôl

6Cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173 neu 186 neu o dan gymal terfynu’r landlord: torri rhwymedigaethau statudol

1

Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn lle adran 176 (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173: gofynion rhoi gwybodaeth) rhodder—

176Cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173: torri rhwymedigaethau statudol

Mae Atodlen 9A yn gosod cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173, sy’n ymwneud â thorri rhwymedigaethau statudol penodol.

3

Ar ôl adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol) mewnosoder—

186ACyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 186: torri rhwymedigaethau statudol

Mae Atodlen 9A yn gosod cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 186, sy’n ymwneud â thorri rhwymedigaethau statudol penodol.

4

Yn lle adran 197 (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord: gofynion rhoi gwybodaeth) rhodder—

197Cyfyngiadau ar y defnydd o gymal terfynu’r landlord: torri rhwymedigaethau statudol

Mae Atodlen 9A yn gosod cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord, sy’n ymwneud â thorri rhwymedigaethau statudol penodol.

5

a

yn lle adran 20 (cyfyngiadau ar derfynu contractau), rhodder—

20Cyfyngiadau ar derfynu contractau meddiannaeth safonol

Mae Atodlen 9A i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) yn cynnwys darpariaeth yn ymwneud â chontractau meddiannaeth safonol sy’n atal landlord rhag rhoi hysbysiad yn ceisio meddiant o annedd o dan adran 173 neu 186 o’r Ddeddf honno, neu o dan gymal terfynu’r landlord, os nad yw’r landlord wedi cydymffurfio â darpariaethau yn y Ddeddf hon sy’n ymwneud â thaliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw a gedwir.

b

hepgorer Atodlen 3 (sy’n darparu ar gyfer mewnosod adrannau 177A, 186A i 186C a 198A i Ddeddf 2016, ac yn gwneud diwygiadau cysylltiedig eraill i’r Ddeddf honno).

6

Mae Atodlen 2 yn mewnosod Atodlen 9A newydd i Ddeddf 2016, sy’n—

a

atgynhyrchu’r cyfyngiadau ar roi hysbysiadau yn ceisio meddiant yn adrannau 176 i 177A, 186A i 186C a 197 i 198A o Ddeddf 2016 fel yr oeddent cyn eu diwygio neu eu hepgor yn rhinwedd y Ddeddf hon, a

b

cynnwys pŵer i ddiwygio Atodlen 9A.