Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

RHAN 1LL+CCYSYNIADAU SYLFAENOL A DOGFENNAU ALLWEDDOL

1CyflwyniadLL+C

(1)Maeʼr Rhan hon yn nodi cysyniadau sylfaenol syʼn cael effaith mewn perthynas â chwricwlwm ar gyfer unrhyw un oʼr canlynol—

(a)disgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir (ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol) ac mewn ysgolion meithrin a gynhelir;

(b)plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer;

(c)plant y darperir addysg ar eu cyfer o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).

(2)Maeʼr Rhan hon hefyd yn cynnwys darpariaeth ynghylch dogfennau allweddol syʼn cefnogi cwricwlwm oʼr math hwnnw.

(3)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at gwricwlwm yn gyfeiriadau at gwricwlwm oʼr math hwnnw; ac mae cyfeiriadau at ddisgyblion a phlant yn gyfeiriadau at y disgyblion aʼr plant y cyfeirir atynt yn is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 1 mewn grym ar 29.9.2021 gan O.S. 2021/1069, ergl. 2

2Y pedwar dibenLL+C

(1)Pedwar diben cwricwlwm yw—

  • Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn ddysgwyr galluog ac uchelgeisiol, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;

  • Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn gyfranwyr mentrus a chreadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;

  • Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus i Gymru aʼr byd;

  • Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn unigolion iach a hyderus, sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y pedwar diben yn gyfeiriadau at y dibenion hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I4A. 2 mewn grym ar 29.9.2021 gan O.S. 2021/1069, ergl. 2

3Y meysydd dysgu a phrofiadLL+C

(1)Y meysydd dysgu a phrofiad ar gyfer cwricwlwm yw—

  • Y Celfyddydau Mynegiannol

  • Y Dyniaethau

  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg

  • Iechyd a Lles

  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

  • Mathemateg a Rhifedd.

(2)O fewn y meysydd dysgu a phrofiad, maeʼr canlynol yn elfennau mandadol—

  • Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

  • Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

  • Cymraeg

  • Saesneg.

(3)Ond nid yw Saesneg i’w thrin fel elfen fandadol, at ddibenion y Ddeddf hon, ar gyfer cwricwlwm o fewn is-adran (4).

(4)Mae cwricwlwm o fewn yr is-adran hon os yw’n—

(a)cwricwlwm i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol nad ydynt wedi cwblhau’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn eu dosbarth yn cyrraedd 7 oed ynddi;

(b)cwricwlwm ar gyfer addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;

(c)cwricwlwm ar gyfer addysg a ddarperir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) (darpariaeth eithriadol o addysg mewn unedau cyfeirio disgyblion neu mewn mannau eraill: Cymru) i ddisgyblion neu blant nad ydynt wedi cyrraedd 7 oed.

(5)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y meysydd dysgu a phrofiad yn gyfeiriadau at y meysydd a restrir yn is-adran (1).

(6)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at yr elfennau mandadol i’w dehongli yn unol â’r adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I6A. 3 mewn grym ar 29.9.2021 gan O.S. 2021/1069, ergl. 2

4Y sgiliau trawsgwricwlaidd mandadolLL+C

(1)Y sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol ar gyfer cwricwlwm yw—

  • Cymhwysedd Digidol

  • Llythrennedd

  • Rhifedd.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol yn gyfeiriadau at y sgiliau a restrir yn is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I8A. 4 mewn grym ar 29.9.2021 gan O.S. 2021/1069, ergl. 2

5Pŵer i ddiwygio adrannau 3 a 4LL+C

Caiff rheoliadau ddiwygio adrannau 3 a 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I10A. 5 mewn grym ar 29.9.2021 gan O.S. 2021/1069, ergl. 2

6Cod yr Hyn syʼn BwysigLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod (“Cod yr Hyn syʼn Bwysig”) syʼn nodi cysyniadau allweddol ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad.

(2)Nid yw cwricwlwm yn cwmpasu maes dysgu a phrofiad oni bai ei fod yn cwmpasuʼr cysyniadau hynny fel yʼu nodir yng Nghod yr Hyn syʼn Bwysig.

(3)Nid yw addysgu a dysgu yn cwmpasu maes dysgu a phrofiad oni bai ei fod yn cwmpasuʼr cysyniadau hynny fel yʼu nodir yng Nghod yr Hyn syʼn Bwysig.

(4)O ran Gweinidogion Cymru—

(a)rhaid iddynt gadw Cod yr Hyn syʼn Bwysig o dan adolygiad, a

(b)cânt ei ddiwygio.

(5)Am ddarpariaeth bellach ynghylch Cod yr Hyn syʼn Bwysig, gweler adran 76.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I12A. 6 mewn grym ar 29.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1069, ergl. 3

7Y Cod CynnyddLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod (y “Cod Cynnydd”) syʼn nodi’r ffordd y mae cwricwlwm i wneud darpariaeth ar gyfer cynnydd gan ddisgyblion a phlant.

(2)Nid yw cwricwlwm yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnydd priodol oni bai ei fod yn cyd-fynd âʼr Cod Cynnydd.

(3)Nid yw addysgu a dysgu yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnydd priodol oni bai ei fod yn cyd-fynd âʼr Cod Cynnydd.

(4)O ran Gweinidogion Cymru—

(a)rhaid iddynt gadwʼr Cod Cynnydd o dan adolygiad, a

(b)cânt ei ddiwygio.

(5)Am ddarpariaeth bellach ynghylch y Cod Cynnydd, gweler adran 76.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I14A. 7 mewn grym ar 29.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1069, ergl. 3

Valid from 23/11/2021

8Y Cod ACRhLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod (y “Cod ACRh”) syʼn nodi themâu a materion sydd iʼw cwmpasu gan elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.

(2)Nid yw cwricwlwm yn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb oni bai ei fod yn cyd-fynd âʼr ddarpariaeth yn y Cod ACRh.

(3)Nid yw addysgu a dysgu yn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb oni bai ei fod yn cyd-fynd âʼr ddarpariaeth yn y Cod ACRh.

(4)Am ddarpariaeth bellach ynghylch y Cod ACRh, gweler adran 77.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)