xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CCWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR

Valid from 01/09/2022

PENNOD 1LL+CCYNLLUNIO A MABWYSIADU CWRICWLWM

Addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelirLL+C

13Dyletswydd Gweinidogion Cymru i gyhoeddi cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cwricwlwm (y “cwricwlwm adran 13”) y maent yn ystyried ei fod yn addas i blant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.

(2)Rhaid iʼr cwricwlwm adran 13 gydymffurfio âʼr gofynion yn adrannau 20 i 24, ac unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 25.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

14Adolygu a diwygio cwricwlwm a gyhoeddir gan Weinidogion CymruLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cadwʼr cwricwlwm adran 13 o dan adolygiad, a

(b)sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio ag adrannau 20 i 24, ac unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 25.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ddiwygioʼr cwricwlwm adran 13 os ydynt yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygioʼr cwricwlwm adran 13 hefyd os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn diwygioʼr cwricwlwm adran 13, rhaid iddynt gyhoeddiʼr cwricwlwm diwygiedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

15Mabwysiadu cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir—

(a)mabwysiadu cwricwlwm i blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer (boed y cwricwlwm adran 13 neu gwricwlwm arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn addas), a

(b)cyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm mabwysiedig.

(2)Ond ni chaniateir mabwysiadu cwricwlwm o dan yr adran hon oni bai ei fod yn cydymffurfio âʼr gofynion yn adrannau 20 i 24, ac unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 25.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

16Adolygu a diwygio cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir—

(a)cadwʼr cwricwlwm mabwysiedig o dan adolygiad, a

(b)sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio ag adrannau 20 i 24, ac unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 25.

(2)Wrth ystyried a yw’r cwricwlwm mabwysiedig yn parhau i gydymffurfio â’r gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b), rhaid i’r darparwr roi sylw i wybodaeth sy’n deillio o unrhyw drefniadau asesu a weithredir gan y darparwr o dan reoliadau a wneir o dan adran 56.

(3)Rhaid iʼr darparwr ddiwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig os ywʼr darparwr yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b).

(4)Caiff y darparwr ddiwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig hefyd os yw’r darparwr yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

(5)Os ywʼr darparwr wedi mabwysiaduʼr cwricwlwm adran 13, a bod Gweinidogion Cymru yn diwygioʼr cwricwlwm hwnnw o dan adran 14, rhaid iʼr darparwr ystyried a ywʼn briodol diwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig o dan is-adran (4) er mwyn adlewyrchuʼr diwygiadau a wnaed o dan adran 14.

(6)Os yw’r darparwr yn diwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig, rhaid iʼr darparwr gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm diwygiedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)