Search Legislation

Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Darpariaeth atodol

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/09/2024.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, Croes Bennawd: Darpariaeth atodol. Help about Changes to Legislation

Darpariaeth atodolLL+C

17Pŵer i wneud darpariaeth atodol ynghylch mabwysiadu a diwygio cwricwlwmLL+C

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)camau sydd iʼw cymryd cyn i gwricwlwm gael ei fabwysiadu o dan y Rhan hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch camau sydd iʼw cymryd er mwyn penderfynu a yw cwricwlwm arfaethedig yn addas ar gyfer ei fabwysiadu);

(b)y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid mabwysiadu cwricwlwm o dan y Rhan hon;

(c)amgylchiadau ychwanegol y mae rhaid diwygio cwricwlwm mabwysiedig odanynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 17 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I3A. 17 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

I4A. 17 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(a)

18Pŵer i wneud darpariaeth atodol ynghylch crynodebau cwricwlwmLL+C

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth—

(a)ynghylch gwybodaeth sydd iʼw chynnwys mewn crynodeb o gwricwlwm mabwysiedig a gyhoeddir o dan y Rhan hon;

(b)ynghylch cyhoeddi crynodeb o gwricwlwm mabwysiedig (gan gynnwys darpariaeth ynghylch sut y mae rhaid ei gyhoeddi, aʼr dyddiad erbyn pryd y mae rhaid ei gyhoeddi).

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I6A. 18 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I7A. 18 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

I8A. 18 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(a)

Back to top

Options/Help