C1RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR

Annotations:

PENNOD 1CYNLLUNIO A MABWYSIADU CWRICWLWM

Darpariaeth atodol

I1I3I5I717Pŵer i wneud darpariaeth atodol ynghylch mabwysiadu a diwygio cwricwlwm

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

a

camau sydd iʼw cymryd cyn i gwricwlwm gael ei fabwysiadu o dan y Rhan hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch camau sydd iʼw cymryd er mwyn penderfynu a yw cwricwlwm arfaethedig yn addas ar gyfer ei fabwysiadu);

b

y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid mabwysiadu cwricwlwm o dan y Rhan hon;

c

amgylchiadau ychwanegol y mae rhaid diwygio cwricwlwm mabwysiedig odanynt.

I2I4I6I818Pŵer i wneud darpariaeth atodol ynghylch crynodebau cwricwlwm

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth—

a

ynghylch gwybodaeth sydd iʼw chynnwys mewn crynodeb o gwricwlwm mabwysiedig a gyhoeddir o dan y Rhan hon;

b

ynghylch cyhoeddi crynodeb o gwricwlwm mabwysiedig (gan gynnwys darpariaeth ynghylch sut y mae rhaid ei gyhoeddi, aʼr dyddiad erbyn pryd y mae rhaid ei gyhoeddi).