Search Legislation

Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

Newidiadau dros amser i: PENNOD 1

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, PENNOD 1. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

PENNOD 1LL+CCYNLLUNIO A MABWYSIADU CWRICWLWM

CyffredinolLL+C

9Cyflwyniad a dehongliLL+C

(1)Maeʼr Bennod hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cynllunio a mabwysiadu cwricwlwm i unrhyw un o’r canlynol—

(a)disgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;

(b)disgyblion cofrestredig mewn ysgol feithrin a gynhelir;

(c)plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at ysgol yn gyfeiriadau—

(a)at ysgol a gynhelir, neu

(b)at ysgol feithrin a gynhelir.

(3)Yn y Bennod hon—

(a)mae cyfeiriadau at ddisgyblion, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;

(b)mae cyfeiriadau at blant, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer;

(c)mae cyfeiriadau at y cwricwlwm mabwysiedig, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at y cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 11 gan bennaeth a chorff llywodraethuʼr ysgol (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 12, at y cwricwlwm fel yʼi diwygir);

(d)mae cyfeiriadau at y cwricwlwm mabwysiedig, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at y cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 15 gan ddarparwr yr addysg (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 16, at y cwricwlwm fel yʼi diwygir).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 9 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I3A. 9 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

Ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelirLL+C

10Cynllunio cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i bennaeth ysgol gynllunio cwricwlwm i ddisgyblion yr ysgol.

(2)Rhaid iʼr cwricwlwm hwnnw gydymffurfio âʼr gofynion yn adrannau 20 i 24, ac unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 25.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I5A. 10 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I6A. 10 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

11Mabwysiadu cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol—

(a)mabwysiaduʼr cwricwlwm a gynllunnir o dan adran 10 fel y cwricwlwm i ddisgyblion yr ysgol, a

(b)cyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm mabwysiedig.

(2)Ond ni chaniateir mabwysiadu cwricwlwm o dan yr adran hon oni bai ei fod yn cydymffurfio âʼr gofynion yn adrannau 20 i 24, ac unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 25.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I8A. 11 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I9A. 11 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

12Adolygu a diwygio cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol—

(a)cadwʼr cwricwlwm mabwysiedig o dan adolygiad, a

(b)sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion yn adrannau 20 i 24, ac unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 25.

(2)Wrth ystyried a ywʼr cwricwlwm mabwysiedig yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b), rhaid iʼr pennaeth aʼr corff llywodraethu roi sylw i wybodaeth syʼn deillio o unrhyw drefniadau asesu a weithredir ganddynt o dan reoliadau a wneir o dan adran 56.

(3)Rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol ddiwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig os ydynt yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b).

(4)Caiff pennaeth a chorff llywodraethu ysgol ddiwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig hefyd os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

(5)Os yw pennaeth a chorff llywodraethu ysgol yn diwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig, rhaid iddynt gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm diwygiedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I11A. 12 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I12A. 12 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

Addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelirLL+C

13Dyletswydd Gweinidogion Cymru i gyhoeddi cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cwricwlwm (y “cwricwlwm adran 13”) y maent yn ystyried ei fod yn addas i blant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.

(2)Rhaid iʼr cwricwlwm adran 13 gydymffurfio âʼr gofynion yn adrannau 20 i 24F1....

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I14A. 13 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I15A. 13 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

14Adolygu a diwygio cwricwlwm a gyhoeddir gan Weinidogion CymruLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cadwʼr cwricwlwm adran 13 o dan adolygiad, a

(b)sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio ag adrannau 20 i 24F2....

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ddiwygioʼr cwricwlwm adran 13 os ydynt yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygioʼr cwricwlwm adran 13 hefyd os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn diwygioʼr cwricwlwm adran 13, rhaid iddynt gyhoeddiʼr cwricwlwm diwygiedig.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I17A. 14 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I18A. 14 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

15Mabwysiadu cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir—

(a)mabwysiadu cwricwlwm i blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer (boed y cwricwlwm adran 13 neu gwricwlwm arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn addas), a

(b)cyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm mabwysiedig.

(2)Ond ni chaniateir mabwysiadu cwricwlwm o dan yr adran hon oni bai ei fod yn cydymffurfio âʼr gofynion yn adrannau 20 i 24F3....

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I20A. 15 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I21A. 15 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

16Adolygu a diwygio cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir—

(a)cadwʼr cwricwlwm mabwysiedig o dan adolygiad, a

(b)sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio ag adrannau 20 i 24F4....

(2)Wrth ystyried a yw’r cwricwlwm mabwysiedig yn parhau i gydymffurfio â’r gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b), rhaid i’r darparwr roi sylw i wybodaeth sy’n deillio o unrhyw drefniadau asesu a weithredir gan y darparwr o dan reoliadau a wneir o dan adran 56.

(3)Rhaid iʼr darparwr ddiwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig os ywʼr darparwr yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b).

(4)Caiff y darparwr ddiwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig hefyd os yw’r darparwr yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

(5)Os ywʼr darparwr wedi mabwysiaduʼr cwricwlwm adran 13, a bod Gweinidogion Cymru yn diwygioʼr cwricwlwm hwnnw o dan adran 14, rhaid iʼr darparwr ystyried a ywʼn briodol diwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig o dan is-adran (4) er mwyn adlewyrchuʼr diwygiadau a wnaed o dan adran 14.

(6)Os yw’r darparwr yn diwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig, rhaid iʼr darparwr gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm diwygiedig.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I23A. 16 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I24A. 16 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

Darpariaeth atodolLL+C

17Pŵer i wneud darpariaeth atodol ynghylch mabwysiadu a diwygio cwricwlwmLL+C

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)camau sydd iʼw cymryd cyn i gwricwlwm gael ei fabwysiadu o dan y Rhan hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch camau sydd iʼw cymryd er mwyn penderfynu a yw cwricwlwm arfaethedig yn addas ar gyfer ei fabwysiadu);

(b)y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid mabwysiadu cwricwlwm o dan y Rhan hon;

(c)amgylchiadau ychwanegol y mae rhaid diwygio cwricwlwm mabwysiedig odanynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I26A. 17 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I27A. 17 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

18Pŵer i wneud darpariaeth atodol ynghylch crynodebau cwricwlwmLL+C

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth—

(a)ynghylch gwybodaeth sydd iʼw chynnwys mewn crynodeb o gwricwlwm mabwysiedig a gyhoeddir o dan y Rhan hon;

(b)ynghylch cyhoeddi crynodeb o gwricwlwm mabwysiedig (gan gynnwys darpariaeth ynghylch sut y mae rhaid ei gyhoeddi, aʼr dyddiad erbyn pryd y mae rhaid ei gyhoeddi).

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I29A. 18 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I30A. 18 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources