xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CCWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR

PENNOD 3LL+CGWEITHREDU CWRICWLWM

CyffredinolLL+C

26Cyflwyniad a dehongliLL+C

(1)Maeʼr Bennod hon yn gwneud darpariaeth ynghylch gweithredu cwricwlwm i unrhyw un o’r canlynol—

(a)disgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;

(b)disgyblion cofrestredig mewn ysgol feithrin a gynhelir;

(c)plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.

(2)Mae Pennod 4 yn nodi eithriadau iʼr dyletswyddau gweithredu cwricwlwm yn y Bennod hon.

(3)Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon ac ym Mhennod 4 at ysgol yn gyfeiriadau—

(a)at ysgol a gynhelir, neu

(b)at ysgol feithrin a gynhelir.

(4)Yn y Bennod hon ac ym Mhennod 4—

(a)mae cyfeiriadau at ddisgyblion, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;

(b)mae cyfeiriadau at blant, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer;

(c)mae cyfeiriadau at y cwricwlwm mabwysiedig, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at y cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 11 gan bennaeth a chorff llywodraethuʼr ysgol (ac os diwygir y cwricwlwm hwnnw o dan adran 12, at y cwricwlwm fel yʼi diwygir);

(d)mae cyfeiriadau at y cwricwlwm mabwysiedig, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at y cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 15 gan ddarparwr yr addysg (ac os diwygir y cwricwlwm hwnnw o dan adran 16, at y cwricwlwm fel yʼi diwygir).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 26 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(b), Atod.

Ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelirLL+C

27Dyletswydd i sicrhau gweithrediad y cwricwlwm mabwysiedigLL+C

(1)Rhaid i bennaeth ysgol sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei weithredu i ddisgyblion yr ysgol yn unol ag adrannau 28, 29 a 30.

(2)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei weithredu i ddisgyblion yr ysgol yn unol ag adrannau 28, 29 a 30.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I4A. 27 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(b), Atod.

28Gofynion gweithredu cyffredinolLL+C

Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig mewn ffordd—

(a)syʼn galluogi pob disgybl i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)syʼn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer pob disgybl,

(c)syʼn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn pob disgybl,

(d)syʼn ystyried anghenion dysgu ychwanegol pob disgybl (os oes rhai), ac

(e)syʼn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys i bob disgybl.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I6A. 28 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(b), Atod.

29Gofynion gweithredu pellach ar gyfer disgyblion 3 i 14 oedLL+C

(1)Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig yn unol ag is-adran (2) i ddisgyblion nad ydynt eto wedi cwblhauʼr flwyddyn ysgol y maeʼr rhan fwyaf oʼr disgyblion yn eu dosbarth yn cyrraedd 14 oed ynddi.

(2)Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig mewn ffordd syʼn sicrhau addysgu a dysgu i bob disgybl—

(a)syʼn cwmpasuʼr meysydd dysgu a phrofiad (gan gynnwys yr elfennau mandadol o fewn y meysydd hynny), a

(b)syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.

(3)Rhaid iʼr addysgu a dysgu a sicrheir o dan is-adran (2)—

(a)mewn cysylltiad ag elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, fod yn addas ar gyfer cyfnod datblyguʼr disgybl, a

(b)mewn cysylltiad ag elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gyd-fynd â Rhan 2 o Atodlen 1, ac eithrio pan fo is-adran (4) yn gymwys.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r addysgu a dysgu i ddisgyblion mewn dosbarth y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion ynddo yn iau na’r oedran ysgol gorfodol ar ddechrau’r flwyddyn ysgol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I8A. 29 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(b), Atod.

Rhagolygol

30Gofynion gweithredu pellach ar gyfer disgyblion 14 i 16 oedLL+C

(1)Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig yn unol ag is-adran (2) i ddisgyblion sydd wedi cwblhauʼr flwyddyn ysgol y cyrhaeddodd y rhan fwyaf oʼr disgyblion yn eu dosbarth 14 oed ynddi.

(2)Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig mewn ffordd—

(a)syʼn sicrhau addysgu a dysgu i bob disgybl syʼn cwmpasuʼr elfennau mandadol o fewn y meysydd dysgu a phrofiad, a

(b)syʼn sicrhau addysgu a dysgu arall i bob disgybl ym mhob maes dysgu a phrofiad.

(3)Rhaid iʼr addysgu a dysgu a sicrheir o dan is-adran (2) ddatblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.

(4)Rhaid iʼr addysgu a dysgu a sicrheir o dan is-adran (2) gynnwys—

(a)addysgu a dysgu mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth a wneir yn y cwricwlwm, iʼr graddau y maeʼn gymwys iʼr disgybl, yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adran 25, a

(b)yr addysgu a dysgu a ddewisir gan y disgybl yn rhinwedd adran 24.

(5)Am eithriad iʼr ddyletswydd i sicrhau’r addysgu a dysgu a ddewisir gan y disgybl, gweler adran 31.

(6)Rhaid iʼr addysgu a dysgu a sicrheir o dan is-adran (2)—

(a)mewn cysylltiad ag elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, fod yn addas ar gyfer cyfnod datblyguʼr disgybl, a

(b)mewn cysylltiad ag elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gyd-fynd â Rhan 2 o Atodlen 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

Rhagolygol

31Pŵer i ddatgymhwyso dyletswydd i weithredu dewis disgyblLL+C

(1)Maeʼr adran hon yn gymwys i’r addysgu a dysgu a ddewisir gan ddisgybl yn rhinwedd adran 24.

(2)Os yw pennaeth ysgol a gynhelir wedi ei fodloni bod sail berthnasol yn gymwys, caiff y pennaeth benderfynu nad yw’r ddyletswydd i sicrhau’r addysgu a dysgu yn gymwys.

(3)Yn achos penderfyniad a wneir cyn iʼr disgybl ddechrauʼr flwyddyn ysgol berthnasol, y seiliau perthnasol yw—

(a)nad ywʼr addysgu a dysgu yn addas iʼr disgybl, oherwydd lefel cyrhaeddiad addysgol y disgybl;

(b)nad ywʼn rhesymol ymarferol sicrhau’r addysgu a dysgu iʼr disgybl, oherwydd dewisiadau eraill a wneir gan y disgybl yn rhinwedd adran 24;

(c)y byddaiʼr amser syʼn debygol o gael ei dreulio yn teithio iʼr man lle y maeʼr addysgu yn debygol o gael ei ddarparu yn niweidiol i addysg y disgybl;

(d)yr eid i wariant anghymesur pe baiʼr addysgu a dysgu yn cael ei sicrhau iʼr disgybl;

(e)y rhoddid iechyd neu ddiogelwch y disgybl neu berson arall mewn perygl yn annerbyniol pe baiʼr addysgu a dysgu yn cael ei sicrhau iʼr disgybl.

(4)Yn achos penderfyniad a wneir ar ôl iʼr disgybl ddechrauʼr flwyddyn ysgol berthnasol, y seiliau perthnasol yw—

(a)yr eid i wariant anghymesur pe baiʼr addysgu a dysgu yn parhau i gael ei sicrhau iʼr disgybl;

(b)y rhoddid iechyd neu ddiogelwch y disgybl neu berson arall mewn perygl yn annerbyniol pe baiʼr addysgu a dysgu yn parhau i gael ei sicrhau iʼr disgybl.

(5)Yn is-adrannau (3) a (4), y “blwyddyn ysgol berthnasol” ywʼr flwyddyn ysgol y bydd y rhan fwyaf o’r disgyblion yn nosbarth y disgybl yn cyrraedd 15 oed ynddi.

(6)Caiff rheoliadau ddiwygio is-adrannau (3) a (4).

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

Rhagolygol

32Pŵer i ddatgymhwyso dyletswydd i weithredu dewis disgybl: atodolLL+C

(1)Rhaid i bennaeth syʼn gwneud penderfyniad o dan adran 31 roiʼr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adran (2)—

(a)i’r disgybl y maeʼr penderfyniad yn ymwneud ag ef, a

(b)i riant y disgybl.

(2)Yr wybodaeth yw—

(a)y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud,

(b)effaith y penderfyniad,

(c)rhesymauʼr pennaeth dros wneud y penderfyniad,

(d)gwybodaeth am yr addysgu a dysgu a sicrheir iʼr disgybl yn lleʼr addysgu a dysgu y maeʼr penderfyniad wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef, ac

(e)gwybodaeth am yr hawl i ofyn am adolygiad, neu wneud apêl, o dan adran 33.

(3)Rhaid rhoiʼr wybodaeth yn ysgrifenedig.

(4)Nid ywʼr ddyletswydd yn is-adran (1)(a) yn gymwys os ywʼr pennaeth yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall—

(a)yr wybodaeth a roddid, neu

(b)yr hyn y maeʼn ei olygu i arfer yr hawliau a roddir gan adran 33.

(5)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â phenderfyniadau o dan adran 31.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

Rhagolygol

33Adolygiadau ac apelau syʼn ymwneud â dewis disgyblLL+C

(1)Caiff disgybl neu riant y rhoddir gwybodaeth iddo am benderfyniad a wneir gan bennaeth o dan adran 31—

(a)ei gwneud yn ofynnol iʼr pennaeth adolyguʼr penderfyniad, a

(b)os nad yw wedi ei fodloni ar benderfyniad y pennaeth ar yr adolygiad, apelio i gorff llywodraethuʼr ysgol yn erbyn y penderfyniad hwnnw.

(2)Yn sgil adolygiad—

(a)caiff y pennaeth gadarnhau, amrywio neu ddirymuʼr penderfyniad, a

(b)rhaid iʼr pennaeth roi hysbysiad ysgrifenedig oʼr penderfyniad hwnnw—

(i)iʼr disgybl,

(ii)i riant y disgybl a

(iii)iʼr corff llywodraethu.

(3)Ond nid yw is-adran (2)(b)(i) yn gymwys os yw’r pennaeth yn ystyried nad oes gan y disgybl y galluedd i ddeall—

(a)yr wybodaeth a roddid, neu

(b)yr hyn y mae’n ei olygu i arfer yr hawl a roddir gan is-adran (1)(b).

(4)Yn sgil apêl—

(a)caiff y corff llywodraethu gadarnhau penderfyniad y pennaeth ar yr adolygiad neu gyfarwyddoʼr pennaeth i gymryd y camau gweithredu y maeʼn ystyried eu bod yn briodol, a

(b)rhaid iʼr corff llywodraethu roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad—

(i)iʼr disgybl,

(ii)i riant y disgybl, a

(iii)iʼr pennaeth.

(5)Ond nid yw is-adran (4)(b)(i) yn gymwys os yw’r corff llywodraethu yn ystyried nad oes gan y disgybl y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid.

(6)Rhaid iʼr pennaeth gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (4)(a).

(7)Rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol o fewn is-adran (8) gyhoeddi gwybodaeth syʼn nodi gweithdrefn ar gyfer adolygiadau ac apelau o dan yr adran hon.

(8)Mae ysgol o fewn yr is-adran hon os yw’r cwricwlwm mabwysiedig yn gymwys i ddisgyblion sydd wedi cwblhau’r flwyddyn ysgol y cyrhaeddodd y rhan fwyaf o’r disgyblion yn eu dosbarth 14 oed ynddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

Addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelirLL+C

34Dyletswydd i sicrhau gweithrediad y cwricwlwm mabwysiedigLL+C

(1)Rhaid i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei weithredu i blant yn unol ag adrannau 35 a 36.

(2)Rhaid i awdurdod lleol syʼn sicrhau addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei weithredu yn unol ag adrannau 35 a 36 i blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I14A. 34 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(c), Atod.

35Gofynion gweithredu cyffredinolLL+C

Rhaid gweithredu’r cwricwlwm mabwysiedig mewn ffordd—

(a)syʼn galluogi pob plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)syʼn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer pob plentyn,

(c)syʼn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn pob plentyn,

(d)syʼn ystyried anghenion dysgu ychwanegol pob plentyn (os oes rhai), ac

(e)syʼn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys i bob plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I16A. 35 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(c), Atod.

36Gofynion syʼn ymwneud â meysydd dysgu a phrofiad a sgiliau trawsgwricwlaiddLL+C

(1)Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig mewn ffordd syʼn sicrhau addysgu a dysgu i bob plentyn—

(a)syʼn cwmpasuʼr meysydd dysgu a phrofiad (gan gynnwys yr elfennau mandadol o fewn y meysydd hynny), a

(b)syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.

(2)Rhaid iʼr addysgu a dysgu a sicrheir i blentyn o dan is-adran (1), mewn cysylltiad ag elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, fod yn addas ar gyfer cyfnod datblyguʼr plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I18A. 36 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(c), Atod.