RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR
PENNOD 4GWEITHREDU CWRICWLWM: EITHRIADAU
37Cyflwyniad
1
Maeʼr Bennod hon yn nodi eithriadau iʼr dyletswyddau gweithredu cwricwlwm ym Mhennod 3.
2
Mae adran 26 yn esbonio ystyr ymadroddion penodol a ddefnyddir yn y Bennod hon.
38Gwaith datblygu ac arbrofion
1
Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o dan yr adran hon er mwyn ei gwneud yn bosibl gwneud gwaith datblygu neu gynnal arbrofion.
2
Caniateir rhoi cyfarwyddyd mewn perthynas—
a
ag ysgol a bennir yn y cyfarwyddyd;
b
ag ysgolion o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd;
c
ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd.
3
Rhaid rhoi cyfarwyddyd a roddir mewn perthynas ag ysgol—
a
i bennaeth a chorff llywodraethu’r ysgol, a
b
i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol (oni bai bod yr ysgol yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir).
4
Caiff cyfarwyddyd a roddir mewn perthynas ag ysgol, am gyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd—
a
datgymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas âʼr ysgol;
b
darparu bod adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, yn gymwys mewn perthynas âʼr ysgol gydaʼr addasiadau a bennir yn y cyfarwyddyd.
5
Caiff cyfarwyddyd a roddir mewn perthynas ag ysgol hefyd ei gwneud yn ofynnol—
a
i bennaeth a chorff llywodraethuʼr ysgol, a
b
iʼr awdurdod lleol syʼn cynnal yr ysgol (oni bai bod yr ysgol yn ysgol sefydledig neuʼn ysgol wirfoddol a gynorthwyir),
adrodd i Weinidogion Cymru am unrhyw faterion a bennir yn y cyfarwyddyd ar adegau neu ysbeidiau a bennir yn y cyfarwyddyd.
6
Rhaid rhoi cyfarwyddyd a roddir mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir—
a
i ddarparwr yr addysg, a
b
i’r awdurdod lleol sy’n sicrhau’r addysg.
7
Caiff cyfarwyddyd a roddir mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, am gyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd—
a
datgymhwyso adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas âʼr addysg honno;
b
darparu bod adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, yn gymwys mewn perthynas âʼr addysg honno gydaʼr addasiadau a bennir yn y cyfarwyddyd.
8
Caiff cyfarwyddyd a roddir mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir hefyd ei gwneud yn ofynnol—
a
i ddarparwr yr addysg, a
b
i’r awdurdod lleol syʼn sicrhau’r addysg,
adrodd i Weinidogion Cymru am unrhyw faterion a bennir yn y cyfarwyddyd ar adegau neu ysbeidiau a bennir yn y cyfarwyddyd.
9
Rhaid i berson y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan yr adran hon gydymffurfio âʼr cyfarwyddyd.
39Gwaith datblygu ac arbrofion: amodau
1
Dim ond os ywʼr amodau yn yr adran hon wedi eu bodloni y caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o dan adran 38.
2
Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bydd y cwricwlwm a gaiff ei weithredu iʼr disgyblion neuʼr plant o ganlyniad iʼr cyfarwyddyd—
a
yn galluogi pob disgybl neu blentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,
b
yn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer pob disgybl neu blentyn,
c
yn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn pob disgybl neu blentyn,
d
yn ystyried anghenion dysgu ychwanegol pob disgybl neu blentyn (os oes rhai), ac
e
yn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys i bob disgybl neu blentyn.
3
Yr ail amod, yn achos cyfarwyddyd syʼn ymwneud ag ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol feithrin a gynhelir, yw bod y cyfarwyddyd yn cael ei roi—
a
ar gais a wneir gan y corff llywodraethu gyda chytundeb yr awdurdod lleol,
b
ar gais a wneir gan yr awdurdod lleol gyda chytundeb y corff llywodraethu, neu
c
ar gynnig a wneir gan Weinidogion Cymru gyda chytundeb y corff llywodraethu aʼr awdurdod lleol.
4
Yr ail amod, yn achos cyfarwyddyd syʼn ymwneud ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir, yw bod y cyfarwyddyd yn cael ei roi—
a
ar gais a wneir gan y corff llywodraethu, neu
b
gyda chytundeb y corff llywodraethu.
5
Yr ail amod, yn achos cyfarwyddyd syʼn ymwneud ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yw bod y cyfarwyddyd yn cael ei roi—
a
ar gais a wneir gan yr awdurdod lleol gyda chytundeb darparwr yr addysg, neu
b
ar gynnig a wneir gan Weinidogion Cymru gyda chytundeb yr awdurdod lleol a darparwr yr addysg.
6
Yn yr adran hon—
a
mae cyfeiriadau at yr awdurdod lleol, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at yr awdurdod lleol syʼn cynnal yr ysgol;
b
mae cyfeiriadau at yr awdurdod lleol, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at yr awdurdod lleol syʼn sicrhau’r addysg.
40Gwaith datblygu ac arbrofion: atodol
1
Maeʼr adran hon yn gymwys mewn perthynas â chyfarwyddyd a roddir o dan adran 38.
2
Rhaid rhoiʼr cyfarwyddyd yn ysgrifenedig.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddiʼr cyfarwyddyd.
4
Pan foʼr cyfarwyddyd yn ymwneud ag ysgol—
a
rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu’r ysgol gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm a gaiff ei weithredu o ganlyniad iʼr cyfarwyddyd, a
b
nid yw adran 12 yn gymwys mewn perthynas âʼr ysgol ond iʼr graddau y mae arfer swyddogaethau o dan yr adran honno yn gydnaws âʼr cyfarwyddyd.
5
Pan foʼr cyfarwyddyd yn ymwneud ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir—
a
rhaid i ddarparwr yr addysg gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm a gaiff ei weithredu o ganlyniad iʼr cyfarwyddyd, a
b
nid yw adran 16 yn gymwys mewn perthynas âʼr addysg ond iʼr graddau y mae arfer swyddogaethau o dan yr adran honno yn gydnaws âʼr cyfarwyddyd.
41Disgyblion a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol
1
Caiff y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir mewn cynllun datblygu unigol a lunnir neu a gynhelir gan awdurdod lleol o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol aʼr Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2) gynnwys darpariaeth—
a
syʼn datgymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â disgybl;
b
syʼn cymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â disgybl gydaʼr addasiadau a bennir yn y cynllun;
c
syʼn datgymhwyso adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â phlentyn;
d
syʼn cymhwyso adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â phlentyn gydaʼr addasiadau a bennir yn y cynllun.
2
Caiff y ddarpariaeth addysgol arbennig a bennir mewn cynllun AIG o dan adran 37 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) (cynlluniau addysg, iechyd a gofal) gynnwys darpariaeth—
a
syʼn datgymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â disgybl;
b
syʼn cymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â disgybl gydaʼr addasiadau a bennir yn y cynllun;
c
syʼn datgymhwyso adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â phlentyn;
d
syʼn cymhwyso adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â phlentyn gydaʼr addasiadau a bennir yn y cynllun.
3
Ond ni chaiff cynllun datblygu unigol neu gynllun AIG gynnwys darpariaeth y cyfeirir ati yn is-adran (1) neu (2) oni bai bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni y bydd y cwricwlwm a gaiff ei weithredu iʼr plentyn o ganlyniad iʼr datgymhwyso neuʼr addasu—
a
yn galluogiʼr disgybl neuʼr plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,
b
yn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer y disgybl neuʼr plentyn,
c
yn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y disgybl neuʼr plentyn, a
d
yn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys iʼr disgybl neuʼr plentyn.
4
Caiff rheoliadau bennu amodau pellach y mae rhaid eu bodloni cyn y caiff cynllun datblygu unigol neu gynllun AIG gynnwys darpariaeth y cyfeirir ati yn is-adran (1) neu (2).
5
Yn yr adran hon, maeʼr cyfeiriad at yr awdurdod lleol yn gyfeiriad at yr awdurdod lleol syʼn llunio neuʼn cynnal y cynllun datblygu unigol neu syʼn sicrhau bod y cynllun AIG yn cael ei lunio, ei ddiwygio neu ei ddisodli.
42Eithriadau dros dro ar gyfer disgyblion a phlant unigol
1
Caiff rheoliadau alluogi pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir i benderfynu, mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau—
a
bod adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, iʼw datgymhwyso mewn perthynas â disgybl cofrestredig yn yr ysgol yn ystod y cyfnod a bennir yn y penderfyniad, neu
b
bod adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, iʼw cymhwyso mewn perthynas â disgybl cofrestredig yn yr ysgol, yn ystod y cyfnod a bennir yn y penderfyniad, gydaʼr addasiadau a bennir yn y penderfyniad.
2
Caiff rheoliadau alluogi darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir i benderfynu, mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau—
a
bod adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, iʼw datgymhwyso, yn ystod y cyfnod a bennir yn y penderfyniad, mewn perthynas â phlentyn y darperir yr addysg ar ei gyfer, neu
b
bod adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, iʼw cymhwyso mewn perthynas â phlentyn oʼr fath, yn ystod y cyfnod a bennir yn y penderfyniad, gydaʼr addasiadau a bennir yn y penderfyniad.
3
Os gwneir rheoliadau o dan yr adran hon, rhaid iddynt ddarparu na chaiff person wneud penderfyniad o dan y rheoliadau oni bai ei fod wedi ei fodloni y bydd y cwricwlwm a gaiff ei weithredu iʼr disgybl neuʼr plentyn o ganlyniad iʼr penderfyniad—
a
yn galluogiʼr disgybl neuʼr plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,
b
yn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer pob disgybl neu blentyn,
c
yn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y disgybl neuʼr plentyn,
d
yn ystyried anghenion dysgu ychwanegol y disgybl neuʼr plentyn (os oes rhai), ac
e
yn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys iʼr disgybl neuʼr plentyn.
4
Caiff rheoliadau a wneir o dan yr adran hon bennu amodau pellach y mae rhaid eu bodloni cyn y caniateir i benderfyniad gael ei wneud o dan y rheoliadau.
43Eithriadau dros dro ar gyfer disgyblion a phlant unigol: atodol
1
Maeʼr adran hon yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch rheoliadau a wneir o dan adran 42.
2
Ni chaiff y rheoliadau ganiatáu i benderfyniad gael ei wneud o dan y rheoliadau ar y sail bod gan ddisgybl neu blentyn anghenion dysgu ychwanegol neu y gall fod ganddo anghenion dysgu ychwanegol (gweler, yn hytrach, adran 41).
3
Rhaid iʼr rheoliadau bennu bod cyfnod gweithredol penderfyniad a wneir o dan y rheoliadau naill ai—
a
yn gyfnod penodol a bennir yn y penderfyniad nad ywʼn hwy na 6 mis, neu
b
yn gyfnod y mae rhaid dod ag ef i ben (yn unol âʼr rheoliadau) heb fod yn hwyrach na 6 mis i’w ddechrau.
4
Ond caiff y rheoliadau bennu cyfnod gweithredol gwahanol ar gyfer penderfyniad os yw’r cyfnod gweithredol hwnnw i ddechrau—
a
yn union ar ôl diwedd cyfnod gweithredol penderfyniad blaenorol, neu
b
cyn diwedd cyfnod, a bennir yn y rheoliadau, sy’n dechrau â diwedd cyfnod gweithredol penderfyniad blaenorol.
5
Caiff y rheoliadau alluogi person syʼn gwneud penderfyniad o dan y rheoliadau—
a
i amrywioʼr penderfyniad, ac eithrio mewn perthynas âʼi gyfnod gweithredol, neu
b
i ddirymuʼr penderfyniad.
6
Caiff y rheoliadau bennu—
a
ym mha achosion neu o dan ba amgylchiadau y caniateir amrywio neu ddirymu penderfyniad a wneir o dan y rheoliadau;
b
amodau y mae rhaid eu bodloni cyn y caniateir amrywio neu ddirymu penderfyniad a wneir o dan y rheoliadau.
7
Yn yr adran hon, ystyr “cyfnod gweithredol” penderfyniad ywʼr cyfnod y maeʼr penderfyniad yn cael effaith ar ei gyfer.
44Darparu gwybodaeth am eithriadau dros dro
1
Rhaid i bennaeth syʼn gwneud, yn amrywio neuʼn dirymu penderfyniad o dan reoliadau a wneir o dan adran 42 roiʼr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adrannau (3) a (4), yn ysgrifenedig, i—
a
y disgybl y maeʼr penderfyniad yn ymwneud ag ef,
b
rhiant y disgybl,
c
corff llywodraethuʼr ysgol, a
d
yr awdurdod lleol syʼn cynnal yr ysgol.
2
Rhaid i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir syʼn gwneud, yn amrywio neuʼn dirymu penderfyniad o dan reoliadau a wneir o dan adran 42 roiʼr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adrannau (3) a (4), yn ysgrifenedig, i—
a
rhiant y plentyn y maeʼr penderfyniad yn ymwneud ag ef, a
b
yr awdurdod lleol syʼn sicrhau’r addysg.
3
Yr wybodaeth yw—
a
y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud, ei amrywio neu ei ddirymu;
b
effaith y penderfyniad, yr amrywiad neuʼr dirymiad;
c
y rhesymau dros wneud, amrywio neu ddirymuʼr penderfyniad;
d
gwybodaeth am—
i
yr hawl i wneud apêl o dan adran 45 (yn achos penderfyniad syʼn ymwneud â disgybl);
ii
yr hawl i wneud apêl o dan adran 46 (yn achos penderfyniad syʼn ymwneud ag unrhyw blentyn arall).
4
Pan fo penderfyniad wedi ei wneud neu ei amrywio, rhaid iʼr wybodaeth hefyd gynnwys—
a
disgrifiad oʼr ddarpariaeth a wneir ar gyfer addysg y disgybl neuʼr plentyn yn ystod y cyfnod a bennir yn y penderfyniad;
b
disgrifiad oʼr ffordd y maeʼr pennaeth neuʼr darparwr yn bwriadu sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei weithredu iʼr disgybl neuʼr plentyn ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.
5
Nid ywʼr ddyletswydd yn is-adran (1)(a) yn gymwys os ywʼr pennaeth yn ystyried nad oes gan y disgybl y galluedd i ddeall—
a
yr wybodaeth a roddid, neu
b
yr hyn y maeʼn ei olygu i arfer yr hawl a roddir gan adran 45.
45Apelau am eithriadau dros dro ar gyfer disgyblion unigol
1
Maeʼr adran hon yn gymwys—
a
pan fo pennaeth ysgol yn gwneud, yn amrywio neuʼn dirymu penderfyniad syʼn ymwneud â disgybl o dan reoliadau a wneir o dan adran 42, neu
b
pan fo disgybl, neu riant disgybl, yn gofyn i bennaeth ysgol wneud penderfyniad o dan y rheoliadau hynny mewn perthynas âʼr disgybl, ond pan na fo penderfyniad wedi ei wneud.
2
Caiff pob un oʼr canlynol apelio i gorff llywodraethuʼr ysgol—
a
y disgybl;
b
rhiant y disgybl.
3
Nid yw is-adran (2)(a) yn gymwys os yw’r corff llywodraethu yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr hyn y mae’n ei olygu i arfer yr hawl a roddir gan yr adran hon.
4
Os gwneir apêl o dan yr adran hon, caiff y corff llywodraethu—
a
cyfarwyddoʼr pennaeth, yn ysgrifenedig, i gymryd y camau gweithredu y maeʼn ystyried eu bod yn briodol mewn cysylltiad â’r penderfyniad y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a) neu’r cais y cyfeirir ato yn is-adran (1)(b), neu
b
hysbysu’r pennaeth, yn ysgrifenedig, na roddir unrhyw gyfarwyddyd o’r fath.
5
Rhaid iʼr corff llywodraethu roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad—
a
iʼr disgybl, a
b
i riant y disgybl.
6
Nid yw is-adran (5)(a) yn gymwys os ywʼr corff llywodraethu yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid.
7
Rhaid iʼr pennaeth gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (4).
8
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad ag apelau o dan yr adran hon.
46Apelau am eithriadau dros dro ar gyfer plant unigol
1
Maeʼr adran hon yn gymwys—
a
pan fo darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir yn gwneud, yn amrywio neuʼn dirymu penderfyniad o dan reoliadau a wneir o dan adran 42 mewn perthynas â phlentyn y darperir yr addysg ar ei gyfer, neu
b
pan fo rhiant plentyn y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar ei gyfer yn gofyn i ddarparwr yr addysg wneud penderfyniad o dan y rheoliadau hynny mewn perthynas âʼr plentyn, ond pan na fo penderfyniad wedi ei wneud.
2
Caiff rhiant y plentyn apelio iʼr awdurdod lleol sydd wedi sicrhau’r addysg.
3
Os gwneir apêl o dan yr adran hon, caiff yr awdurdod lleol—
a
cyfarwyddoʼr darparwr, yn ysgrifenedig, i gymryd y camau gweithredu y maeʼr awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn briodol mewn cysylltiad â’r penderfyniad y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a) neu’r cais y cyfeirir ato yn is-adran (1)(b), neu
b
hysbysu’r darparwr, yn ysgrifenedig, na roddir unrhyw gyfarwyddyd o’r fath.
4
Rhaid iʼr awdurdod lleol roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad i riant y plentyn.
5
Rhaid iʼr darparwr gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (3).
6
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad ag apelau o dan yr adran hon.
47Eithriad ar gyfer disgyblion y mae trefniadau wedi eu gwneud ar eu cyfer o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996
Nid yw adrannau 27, 28, 29 a 30 yn gymwys mewn perthynas â disgyblion y mae trefniadau wedi eu gwneud ar eu cyfer o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) (gweler, yn hytrach, Ran 3).
48Pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer eithriadau pellach
1
Caiff rheoliadau—
a
datgymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau;
b
darparu bod adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, yn gymwys gydaʼr addasiadau a bennir yn y rheoliadau mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau;
c
datgymhwyso adrannau 34, 35 a 36 neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau;
d
darparu bod adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, yn gymwys gydaʼr addasiadau a bennir yn y rheoliadau mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau.
2
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon roi disgresiwn i berson.