xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Valid from 01/09/2022

RHAN 3LL+CCWRICWLWM AR GYFER DARPARIAETH EITHRIADOL O ADDYSG MEWN UNEDAU CYFEIRIO DISGYBLION NEU MEWN MANNAU ERAILL

Addysg arall a ddarperir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996LL+C

53Gofynion cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) i ddarparu addysg ar gyfer plentyn ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod y trefniadau yn sicrhau cwricwlwm iʼr plentyn syʼn cydymffurfio âʼr gofynion yn is-adrannau (2) i (5).

(2)Y gofyniad cyntaf yw bod rhaid iʼr cwricwlwm—

(a)galluogiʼr plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)darparu ar gyfer cynnydd priodol iʼr plentyn,

(c)bod yn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y plentyn, a

(d)bod yn eang ac yn gytbwys, iʼr graddau y maeʼn briodol i’r plentyn.

(3)Yr ail ofyniad yw bod rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth, iʼr graddau y maeʼn briodol iʼr plentyn, ar gyfer addysgu a dysgu—

(a)syʼn cwmpasu maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles,

(b)syʼn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ac

(c)syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.

(4)Y trydydd gofyniad yw bod rhaid iʼr ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (3)(b) fod yn addas ar gyfer cyfnod datblyguʼr plentyn.

(5)Y pedwerydd gofyniad yw bod rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth, os ywʼn rhesymol bosibl a phriodol gwneud hynny, ar gyfer addysgu a dysgu—

(a)yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill, a

(b)yn yr elfennau mandadol eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

54Adolygu a diwygioLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) i ddarparu addysg ar gyfer plentyn ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion—

(a)cadw’r trefniadau o dan adolygiad, a

(b)sicrhau eu bod yn parhau i sicrhau cwricwlwm i’r plentyn sy’n cydymffurfio â’r gofynion yn adran 53.

(2)Wrth ystyried a yw’r trefniadau yn parhau i sicrhau cwricwlwm i’r plentyn sy’n cydymffurfio â’r gofynion hynny, rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i wybodaeth sy’n deillio o unrhyw drefniadau asesu a weithredir mewn perthynas â’r plentyn o dan reoliadau a wneir o dan adran 56.

(3)Rhaid i’r awdurdod lleol ddiwygio’r trefniadau os yw’n ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i sicrhau cwricwlwm i’r plentyn sy’n parhau i gydymffurfio â’r gofynion yn adran 53.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

55Gweithredu cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) i ddarparu addysg ar gyfer plentyn ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod y trefniadau yn sicrhau bod y cwricwlwm i’r plentyn yn cael ei weithredu mewn ffordd—

(a)syʼn galluogiʼr plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)syʼn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer y plentyn,

(c)syʼn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y plentyn,

(d)syʼn ystyried anghenion dysgu ychwanegol y plentyn (os oes rhai), ac

(e)syʼn sicrhau addysgu a dysgu syʼn eang ac yn gytbwys, iʼr graddau y maeʼn briodol iʼr plentyn.

(2)Rhaid iʼr awdurdod lleol hefyd sicrhau bod y trefniadau yn sicrhauʼr addysgu a dysgu y mae rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth ar ei gyfer o dan adran 53(3), (4) a (5).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)