Search Legislation

Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

Newidiadau dros amser i: RHAN 3

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, RHAN 3. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 3LL+CCWRICWLWM AR GYFER DARPARIAETH EITHRIADOL O ADDYSG MEWN UNEDAU CYFEIRIO DISGYBLION NEU MEWN MANNAU ERAILL

CyffredinolLL+C

49CyflwyniadLL+C

(1)Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cwricwlwm ar gyfer addysg a ddarperir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) (darpariaeth eithriadol o addysg mewn unedau cyfeirio disgyblion neu mewn mannau eraill: Cymru).

(2)Mae adrannau 50 i 52 yn gymwys i addysg a ddarperir mewn unedau cyfeirio disgyblion.

(3)Mae adrannau 53 i 55 yn gymwys i addysg a ddarperir ac eithrio mewn unedau cyfeirio disgyblion.

(4)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at ddisgyblion, mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr uned, ac eithrio’r rheini sydd dros yr oedran ysgol gorfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 49 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I3A. 49 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I4A. 49 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

Unedau cyfeirio disgyblionLL+C

50Gofynion cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid iʼr awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli (os oes un) aʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau bod cwricwlwm ar gyfer yr uned syʼn cydymffurfio âʼr gofynion yn is-adrannau (2) i (5).

(2)Y gofyniad cyntaf yw bod rhaid iʼr cwricwlwm—

(a)galluogi disgyblion i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)darparu ar gyfer cynnydd priodol i ddisgyblion,

(c)bod yn addas i ddisgyblion o oedrannau, galluoedd a doniau gwahanol, a

(d)bod yn eang ac yn gytbwys, iʼr graddau y maeʼn briodol i ddisgyblion.

(3)Yr ail ofyniad yw bod rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu—

(a)syʼn cwmpasu maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles,

(b)syʼn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ac

(c)syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.

(4)Y trydydd gofyniad yw bod rhaid iʼr ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (3)(b) fod yn briodol yn ddatblygiadol i ddisgyblion.

(5)Y pedwerydd gofyniad yw bod rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth, os ywʼn rhesymol bosibl a phriodol gwneud hynny, ar gyfer addysgu a dysgu—

(a)yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill, a

(b)yn yr elfennau mandadol eraill.

(6)Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm ar gyfer yr uned, neu drefnu iddo gael ei gyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I6A. 50 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I7A. 50 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I8A. 50 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

51Adolygu a diwygio cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid iʼr awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli (os oes un) aʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion—

(a)cadwʼr cwricwlwm ar gyfer yr uned o dan adolygiad, a

(b)sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion yn adran 50.

(2)Wrth ystyried a yw’r cwricwlwm yn parhau i gydymffurfio â’r gofynion yn adran 50, rhaid iddynt roi sylw i wybodaeth sy’n deillio o unrhyw drefniadau asesu a weithredir ganddynt o dan reoliadau a wneir o dan adran 56.

(3)Rhaid iddynt ddiwygioʼr cwricwlwm os ydynt yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion yn adran 50.

(4)Cânt ddiwygioʼr cwricwlwm hefyd ar unrhyw adeg y maent yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

(5)Os caiff y cwricwlwm ei ddiwygio, rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am yr uned gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm diwygiedig, neu drefnu iddo gael ei gyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I10A. 51 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I11A. 51 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I12A. 51 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

52Gweithredu cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod y cwricwlwm ar gyfer yr uned yn cael ei weithredu mewn ffordd—

(a)syʼn galluogi pob disgybl i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)syʼn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol i bob disgybl,

(c)syʼn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn pob disgybl,

(d)syʼn ystyried anghenion dysgu ychwanegol pob disgybl (os oes rhai), ac

(e)syʼn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys i bob disgybl.

(2)Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod y cwricwlwm ar gyfer yr uned yn cael ei weithredu mewn ffordd syʼn sicrhau addysgu a dysgu i bob disgybl—

(a)syʼn cwmpasu maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles,

(b)syʼn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ac

(c)syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.

(3)Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod yr addysgu a dysgu a sicrheir o dan is-adran (2)(b) yn addas ar gyfer cyfnod datblygu pob disgybl.

(4)Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion—

(a)ystyried pa addysgu a dysgu y byddaiʼn briodol ei ddarparu ar gyfer pob disgybl yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill aʼr elfennau mandadol eraill y maeʼr cwricwlwm yn gwneud darpariaeth ar eu cyfer, a

(b)sicrhau, iʼr graddau y maeʼn rhesymol bosibl, y darperir yr addysgu a dysgu ar gyfer y disgybl.

(5)Rhaid iʼr awdurdod lleol aʼr pwyllgor rheoli (os oes un) ar gyfer uned cyfeirio disgyblion arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau y gweithredir y cwricwlwm ar gyfer yr uned i ddisgyblion yn unol âʼr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I14A. 52 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I15A. 52 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I16A. 52 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

Addysg arall a ddarperir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996LL+C

53Gofynion cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) i ddarparu addysg ar gyfer plentyn ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod y trefniadau yn sicrhau cwricwlwm iʼr plentyn syʼn cydymffurfio âʼr gofynion yn is-adrannau (2) i (5).

(2)Y gofyniad cyntaf yw bod rhaid iʼr cwricwlwm—

(a)galluogiʼr plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)darparu ar gyfer cynnydd priodol iʼr plentyn,

(c)bod yn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y plentyn, a

(d)bod yn eang ac yn gytbwys, iʼr graddau y maeʼn briodol i’r plentyn.

(3)Yr ail ofyniad yw bod rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth, iʼr graddau y maeʼn briodol iʼr plentyn, ar gyfer addysgu a dysgu—

(a)syʼn cwmpasu maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles,

(b)syʼn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ac

(c)syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.

(4)Y trydydd gofyniad yw bod rhaid iʼr ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (3)(b) fod yn addas ar gyfer cyfnod datblyguʼr plentyn.

(5)Y pedwerydd gofyniad yw bod rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth, os ywʼn rhesymol bosibl a phriodol gwneud hynny, ar gyfer addysgu a dysgu—

(a)yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill, a

(b)yn yr elfennau mandadol eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I18A. 53 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I19A. 53 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I20A. 53 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

54Adolygu a diwygioLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) i ddarparu addysg ar gyfer plentyn ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion—

(a)cadw’r trefniadau o dan adolygiad, a

(b)sicrhau eu bod yn parhau i sicrhau cwricwlwm i’r plentyn sy’n cydymffurfio â’r gofynion yn adran 53.

(2)Wrth ystyried a yw’r trefniadau yn parhau i sicrhau cwricwlwm i’r plentyn sy’n cydymffurfio â’r gofynion hynny, rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i wybodaeth sy’n deillio o unrhyw drefniadau asesu a weithredir mewn perthynas â’r plentyn o dan reoliadau a wneir o dan adran 56.

(3)Rhaid i’r awdurdod lleol ddiwygio’r trefniadau os yw’n ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i sicrhau cwricwlwm i’r plentyn sy’n parhau i gydymffurfio â’r gofynion yn adran 53.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I22A. 54 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I23A. 54 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I24A. 54 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

55Gweithredu cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) i ddarparu addysg ar gyfer plentyn ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod y trefniadau yn sicrhau bod y cwricwlwm i’r plentyn yn cael ei weithredu mewn ffordd—

(a)syʼn galluogiʼr plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)syʼn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer y plentyn,

(c)syʼn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y plentyn,

(d)syʼn ystyried anghenion dysgu ychwanegol y plentyn (os oes rhai), ac

(e)syʼn sicrhau addysgu a dysgu syʼn eang ac yn gytbwys, iʼr graddau y maeʼn briodol iʼr plentyn.

(2)Rhaid iʼr awdurdod lleol hefyd sicrhau bod y trefniadau yn sicrhauʼr addysgu a dysgu y mae rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth ar ei gyfer o dan adran 53(3), (4) a (5).

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I26A. 55 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I27A. 55 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I28A. 55 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources