xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rhagolygol

RHAN 5LL+CCWRICWLWM: ADDYSG ÔL-ORFODOL MEWN YSGOLION A GYNHELIR

58Cyflwyniad a dehongliLL+C

(1)Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cwricwlwm i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol.

(2)Yn y Rhan hon—

(a)mae cyfeiriadau at ysgol a gynhelir yn gyfeiriadau at ysgol a gynhelir y mae disgyblion sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol wedi eu cofrestru ynddi;

(b)mae cyfeiriadau at ddisgyblion, mewn perthynas ag ysgol a gynhelir, yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;

(c)mae cyfeiriadau at gwricwlwm yn gyfeiriadau at gwricwlwm i’r disgyblion hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

59Gofyniad cwricwlwm cyffredinolLL+C

(1)Rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol a gynhelir sicrhau bod y cwricwlwm i ddisgyblion yr ysgol yn cydymffurfio â’r gofyniad yn is-adran (2).

(2)Y gofyniad yw bod y cwricwlwm yn gwricwlwm cytbwys ac eang—

(a)sy’n hybu datblygiad ysbrydol, moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol y disgyblion a’r gymdeithas, a

(b)sy’n paratoi’r disgyblion ar gyfer cyfleoedd, cyfrifoldebau a phrofiadau bywyd yn ddiweddarach.

(3)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau bod y cwricwlwm yn cydymffurfio â’r gofyniad yn is-adran (2) ym mhob ysgol a gynhelir y mae’n ei chynnal.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau bod y cwricwlwm yn cydymffurfio â’r gofyniad yn is-adran (2) ym mhob ysgol a gynhelir.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

60Gofyniad cwricwlwm: Addysg Cydberthynas a RhywioldebLL+C

(1)Rhaid i bennaeth ysgol a gynhelir sicrhau y darperir addysgu a dysgu mewn Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn yr ysgol ar gyfer disgyblion sy’n gofyn amdano.

(2)Mae’r pennaeth i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio ag is-adran (1) os darperir yr addysgu a dysgu yn yr ysgol ar adeg neu adegau sy’n gyfleus i’r rhan fwyaf o’r disgyblion sydd wedi gofyn amdano.

(3)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau y darperir addysgu a dysgu mewn Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn unol â’r adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 60 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

61Gofyniad cwricwlwm: Crefydd, Gwerthoedd a MoesegLL+C

(1)Rhaid i bennaeth ysgol a gynhelir sicrhau y darperir addysgu a dysgu mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn yr ysgol ar gyfer disgyblion sy’n gofyn amdano.

(2)Mae’r pennaeth i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio ag is-adran (1) os darperir yr addysgu a dysgu yn yr ysgol ar adeg neu adegau sy’n gyfleus i’r rhan fwyaf o’r disgyblion sydd wedi gofyn amdano.

(3)Rhaid i’r addysgu a dysgu a ddarperir o dan yr adran hon—

(a)adlewyrchu’r ffaith mai Cristnogol yn bennaf yw’r traddodiadau crefyddol yng Nghymru, gan ystyried dysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir yng Nghymru, a

(b)adlewyrchu hefyd y ffaith y delir ystod o argyhoeddiadau athronyddol nad ydynt yn grefyddol yng Nghymru.

(4)Yn is-adran (3), mae’r cyfeiriad at “argyhoeddiadau athronyddol” yn gyfeiriadau at argyhoeddiadau athronyddol o fewn ystyr “philosophical convictions” yn Erthygl 2 o Brotocol Cyntaf y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

(5)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau y darperir addysgu a dysgu mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn unol â’r adran hon.

(6)Yn yr adran hon—

  • ystyr “y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol” (“the European Convention on Human Rights”) yw’r Confensiwn ar Amddiffyn Hawliau Dynol a Rhyddid Sylfaenol, a gytunwyd gan Gyngor Ewrop yn Rhufain ar 4 Tachwedd 1950, fel y mae’n cael effaith am y tro o ran y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “y Protocol Cyntaf” (“the First Protocol”), mewn perthynas â’r Confensiwn hwnnw, yw protocol y Confensiwn a gytunwyd ym Mharis ar 20 Mawrth 1952.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 61 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

62Gofynion pellach cwricwlwmLL+C

Gweler adrannau 33A i 33O o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21) (cwricwla lleol i fyfyrwyr 16 i 18 oed) am ddarpariaeth bellach ynghylch cwricwlwm i ddisgyblion mewn ysgolion a gynhelir sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 62 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)