Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

Confensiynau’r Cenhedloedd UnedigLL+C

64Dyletswydd i hybu gwybodaeth am Gonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig ar hawliau plant a hawliau pobl ag anableddau a dealltwriaeth o’r Confensiynau hynnyLL+C

(1)Rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir hybu gwybodaeth am Ran 1 o CCUHP, ac am CCUHPA, a dealltwriaeth ohonynt, ymhlith y rheini sy’n darparu addysgu a dysgu mewn cysylltiad â chwricwlwm yr ysgol.

(2)Rhaid i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir hybu gwybodaeth am Ran 1 o CCUHP, ac am CCUHPA, a dealltwriaeth ohonynt, ymhlith y rheini sy’n darparu addysgu a dysgu mewn cysylltiad â’r cwricwlwm i blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer.

(3)Rhaid i’r awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli (os oes un) a’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion hybu gwybodaeth am Ran 1 o CCUHP, ac am CCUHPA, a dealltwriaeth ohonynt, ymhlith y rheini sy’n darparu addysgu a dysgu mewn cysylltiad â’r cwricwlwm ar gyfer yr uned.

(4)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru hybu gwybodaeth am Ran 1 o CCUHP, ac am CCUHPA, a dealltwriaeth ohonynt, ymhlith y rheini sy’n darparu addysgu a dysgu ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion o dan drefniadau a wneir gan yr awdurdod o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “CCUHP” (“UNCRC”) yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a fabwysiadwyd ac a agorwyd i’w lofnodi, ei gadarnhau a’i gytuno gan benderfyniad y Cynulliad Cyffredinol 44/25 dyddiedig 20 Tachwedd 1989; ac mae Rhan 1 o CCUHP i’w thrin fel pe bai’n cael effaith—

    (a)

    fel y’i nodir am y tro yn Rhan 1 o’r Atodlen i Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (mccc 2), ond

    (b)

    yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiad neu neilltuad fel y’i nodir am y tro yn Rhan 3 o’r Atodlen honno;

  • ystyr “CCUHPA” (“UNCRPD”) yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a’i brotocol dewisol a fabwysiadwyd ar 13 Rhagfyr 2006 gan benderfyniad y Cynulliad Cyffredinol A/RES/61/106 ac a agorwyd i’w lofnodi ar 30 Mawrth 2007; ac mae i’w drin fel pe bai’n cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiad neu neilltuad a wnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ôl ei gadarnhau, ac eithrio pan fo’r datganiad neu’r neilltuad wedi ei dynnu’n ôl wedi hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 gan O.S. 2022/652, ergl. 4(d)