RHAN 6ATODOL
Darpariaeth benodol ar gyfer lleoliadau pellach etc
I1I3I469Pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer plant sy’n cael addysg mewn mwy nag un lleoliad etc
1
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu sydd i’w sicrhau i blant o’r oedran ysgol gorfodol y mae’r adran hon yn gymwys iddynt ac mewn cysylltiad ag addysgu a dysgu o’r fath.
2
Mae’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir—
a
os darperir addysg ar gyfer y plentyn, naill ai yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) neu fel arall—
i
mewn ysgol arall a gynhelir, neu
ii
mewn ysgol feithrin a gynhelir;
b
os darperir addysg ar gyfer y plentyn o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 mewn uned cyfeirio disgyblion;
c
os darperir addysg ar gyfer y plentyn o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996, ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion, ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir.
3
Mae’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol feithrin a gynhelir—
a
os darperir addysg ar gyfer y plentyn, naill ai yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 neu fel arall—
i
mewn ysgol feithrin arall a gynhelir, neu
ii
mewn ysgol a gynhelir;
b
os darperir addysg ar gyfer y plentyn mewn uned cyfeirio disgyblion;
c
os darperir addysg ar gyfer y plentyn o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996, ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion, ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir.
4
Mae’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn uned cyfeirio disgyblion os darperir addysg ar gyfer y plentyn, yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996—
a
mewn uned cyfeirio disgyblion arall, neu
b
ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion neu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir.
5
Mae’r adran hon yn gymwys i blentyn—
a
os nad yw’r plentyn yn hŷn na’r oedran ysgol gorfodol, a
b
os yw’r plentyn o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau.
6
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon hefyd wneud darpariaeth ar gyfer gwneud a gweithredu, ac mewn cysylltiad â gwneud a gweithredu, trefniadau ar gyfer asesu’r materion a ganlyn—
a
y cynnydd a wneir gan blant y mae’r adran hon yn gymwys iddynt;
b
y camau nesaf yn eu cynnydd;
c
yr addysgu a dysgu y mae ei angen i wneud y cynnydd hwnnw.
7
Caiff y rheoliadau—
a
rhoi swyddogaethau i berson o fewn is-adran (8);
b
cymhwyso darpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad â phlant y mae’r adran hon yn gymwys iddynt, gydag addasiadau neu hebddynt;
c
darparu i ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon, a fyddai fel arall yn gymwys mewn cysylltiad â’r plant hynny, beidio â bod felly.
8
Y personau yw—
a
pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;
b
corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;
c
yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion;
d
y pwyllgor rheoli ar gyfer uned cyfeirio disgyblion;
e
person sy’n darparu addysgu a dysgu ar gyfer plentyn ac eithrio mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996;
f
darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;
g
awdurdod lleol yng Nghymru.
I2I570Pŵer i gymhwyso’r Ddeddf i blant sy’n cael eu cadw’n gaeth a phobl ifanc sy’n cael eu cadw’n gaeth
1
Caiff rheoliadau gymhwyso darpariaethau yn y Ddeddf hon, gydag addasiadau neu hebddynt—
a
i blant sy’n cael eu cadw’n gaeth yng Nghymru o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau, a
b
i bobl ifanc sy’n cael eu cadw’n gaeth yng Nghymru o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau.
2
Yn yr adran hon, ystyr plentyn sy’n cael ei gadw’n gaeth neu berson ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth yw plentyn neu berson ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth yn unol—
a
â gorchymyn a wneir gan lys, neu
b
â gorchymyn adalw a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.