5Mae’r Rhan hon yn gymwys i’r addysgu a dysgu y mae rhaid ei sicrhau o dan adrannau 29(3)(b) a 30(6)(b) mewn cysylltiad ag elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I2Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(e), Atod.
I3Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(e)
6(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i—
(a)ysgol gymunedol;
(b)ysgol sefydledig neu wirfoddol heb gymeriad crefyddol.
(2)Rhaid i’r addysgu a dysgu fod yn addysgu a dysgu y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yn y cwricwlwm o dan baragraff 2(2) (darpariaeth sydd wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig).
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I5Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(e), Atod.
I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(e)
7(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ysgol sefydledig, neu ysgol wirfoddol a reolir, sydd â chymeriad crefyddol.
(2)Rhaid i’r addysgu a dysgu fod yn addysgu a dysgu y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yn y cwricwlwm o dan baragraff 3(2) (darpariaeth sydd wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig), ac eithrio yn achos disgybl y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo.
(3)Yn achos disgybl y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo, rhaid i’r addysgu a dysgu fod yn addysgu a dysgu y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yn y cwricwlwm o dan baragraff 3(3) (darpariaeth sy’n cyd-fynd â’r weithred ymddiriedolaeth etc).
(4)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i ddisgybl os yw rhiant i’r disgybl yn gofyn bod yr addysgu a dysgu yn addysgu a dysgu y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yn y cwricwlwm o dan baragraff 3(3) (darpariaeth sy’n cyd-fynd â’r weithred ymddiriedolaeth etc).
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I8Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(e), Atod.
I9Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(e)
8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ysgol wirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol.
(2)Rhaid i’r addysgu a dysgu fod yn addysgu a dysgu y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yn y cwricwlwm o dan baragraff 4(2) (darpariaeth sy’n cyd-fynd â’r weithred ymddiriedolaeth etc), ac eithrio yn achos disgybl y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo.
(3)Yn achos disgybl y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo, rhaid i’r addysgu a dysgu fod yn addysgu a dysgu y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yn y cwricwlwm yn unol â pharagraff 4(3) (darpariaeth sydd wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig).
(4)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i ddisgybl os yw rhiant i’r disgybl yn gofyn bod yr addysgu a dysgu yn addysgu a dysgu y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yn y cwricwlwm yn unol â pharagraff 4(3) (darpariaeth sydd wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig).
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I11Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(e), Atod.
I12Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(e)