ATODLEN 2MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL A DIDDYMIADAU

I142Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31)

1

Mae Atodlen 19 (darpariaeth ofynnol ar gyfer addysg grefyddol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Ym mhennawd yr Atodlen, ar ôl “RELIGIOUS EDUCATION” mewnosoder “: ENGLAND”.

3

Ym mharagraff 1 (rhagarweiniol), yn is-baragraff (1), hepgorer “or 101(1)(a)”.

4

Ym mharagraff 2 (ysgolion cymunedol ac ysgolion sefydledig a gwirfoddol heb gymeriad crefyddol), yn is-baragraff (1)—

a

ym mharagraff (a), ar ôl “community school” mewnosoder “in England”;

b

ym mharagraff (b), ar ôl “voluntary school” mewnosoder “in England”.

5

Ym mharagraff 3 (ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a reolir sydd â chymeriad crefyddol), yn is-baragraff (1), ar ôl “voluntary controlled school” mewnosoder “in England”.

6

Ym mharagraff 4 (ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol), yn is-baragraff (1), ar ôl “voluntary aided school” mewnosoder “in England”.